<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Nadolig Llawen gan Tesco

23.12.05


Mae cyd-weithraig i mi yn hynod falch gan fod ei mab hynaf sy'n 16 oed wedi cael gwaith dros dro yn y Tesco's lleol dros gyfnod y nadolig. Mae o wrth gwrs wrth ei fodd, dyme ei swydd gyntaf a bydd wedi hel tipyn o arian i'w wario yn y sêls yn y flwyddyn newydd.

Yn anffodus i'w cymydog sy'n 20 oed ac wedi bod yn gweithio'n llawn amser yn yr un cangen o Tesco, mae hi wedi clywed nad oes dim gwaith iddi hi dros yr un cyfnod ond byddant yn ei hail-gyflogi eto diwedd mis Ionawr. Basdads.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:21 am

3 sylw:

Felly, mae Tesco's yn cael 30 y cant o'r marchnad siop bwyd. Beth am Asda pwy sy'n wedi cael ei feddu gan Wal-Mart?
sylw gan Blogger Tom Parsons, 5:01 pm  

Mae'n mor anodd i ymladd leoedd fel Tesco -- yn enwedig os person cyffredin wyt ti. Wrth gwrs, yn yr Unol Daleithiau, big business is good business, a mae'n mor anodd i siopa yn y lleoedd arall sy'n lleol ac yn rhoi eu arian nhw yn ôl yn yr cymuned.

Yn aml, all fy ngwraig a fi ddim yn gallu fforddio mynd rhywle arall neu'r archfarchnad fawr. Er enghraifft, yn y siop lleol, mae hanner galwyn llaeth yn gostio $5 (£2.90), ond yn yr archfarchnad mawr, mae holl galwyn yn gostio $3 (£1.74).

Rydyn ni eisiau prynu llaeth lleol, o ffermydd teulu, ond fe fuasai'n gostio ni £4 mwy. Ac mae'n fel hyn gyda popeth.

Dw i'n meddwl y hoffwn i cefnogi masnachu lleol pan dw i'n symud i Caerdydd, ond dw i ddim yn gwybod os allwn ni.
sylw gan Blogger Chris Cope, 9:10 pm  

Tom,

3ydd yw Asda ar hyn o bryd tu ôl i Tesco a sainsbury's. Pan brynnwyd y cwmni gan wal-Mart roedd pawb yn rhagweld mai nhw fyddai'n rhedeg y sioe erbyn hyn, ond nid felly yw - ar hyn o ryd beth bynnag. Mae Tesco fel na allent wneud dim o'i le ac fel petae nhw'n ennill mwy o % pob dydd.

Chris,

Allai ddim gwadu ei bod yn rhatach prynnu sawl peth yn yr archfarchnad a phan fod yr 'esgid yn gwasgu' mae'n anodd cyfiawnhau talu mwy am yr un peth, ond ar hyn o bryd dwi'n gallu fforddio talu 10 ceiniog yn fwy ar dun o pha pôb o'r siop gornel.

Dw i'n meddwl y hoffwn i cefnogi masnachu lleol pan dw i'n symud i Caerdydd, ond dw i ddim yn gwybod os allwn ni.

Yn dod yn fuan i'r blog hwn: Rhestr Siopa yr Hunan-gyfiawn, rhywbeth dwi wedi bwriadu ei wenud ers amser - bydd yn hanfodol i'r Cope-iaid.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 5:23 pm  

Gadawa sylw