<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Raffl 'Dolig WST (Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam)

1.12.05

Mae na wobrau gwych i'w hennill, hyd yn oed os nad ydych yn cefnogi Wrecsam. Tocynnau'n £1 yr un a mae 10 llyfr o ddeg gyda fi i'w gwerthu. Mae'r arian yn mynd tuag at Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam sydd wedi bod yn cynorthwyo gyda ariannu cyflogau nifer o chwaraewyr ar fenthyg dros y tymhorau diwethaf yn arbennig yn ystod y cyfnod mae'r clwb wedi bod mewn gweinyddiaeth. Gwobrau wedi'w rhestru isod.

1.
£500 mewn arian

2. Dau docyn Executive Box ar gyfer gêm Lerpwl v WBA ar y 31ain o Ragfyr 2005, yn cynnwys pryd o fwyd saith cwrs, bar am ddim a rhaglen etc.

3. Crys pêl-droed Cyrmu wedi ei arwyddo gan dîm Cymru a chwaraeodd yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar y 3ydd o Fedi 2005.

4. Pryd i ddau yn un o gemau cartref Wrecsam sydd weddill tymor hwn gyda seddi ym mocs y cyfarwyddwr (trwy Just Go)

5.
Pêl rygbi wedi ei arwydo gan dîm buddugol Camp Lawn Cymru

6. Crys CPD Lerpwl wedi ei arwyddo

+ llawer o wobrau eraill


Mae rhaid fi anfon y tocynnau'n ôl mewn llai na pythefnos fely brysiwch. Mae Ray Diota ac ambell i Jack wedi prynnu tocyn felly dim esgusion!

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:06 pm

6 sylw:

Os mae PayPal gyda ti, fe fydda i prynu tocynnau. Ond allet ti ddim yn dweud wrth unrhywun fy mod i'n cefnogi Wrecsam.
sylw gan Blogger Chris Cope, 3:33 am  

Oes mae gyda fi gyfrif PayPal. Dwi ond wedi ei dfenyddio i dalu am fy nghyfrif e-bost sgwarnog hyd yma ond dwi newydd edrych ar y manylion a byddaf yn e-bostio 'anfineb' (infoice) atat. Sawl tocyn wyt ti eisiau?

A diolch.

Byddi di nawr yn aelod anrhydeddus o Cochion Caerdydd
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:51 am  

Diolch am atgoffa fi bo fi di prynu tocyn. Gymrest ti fantes ohonai pan on i di dal hi! ;-) Da iawn ti, gobitho werthi di nhw'i gyd!
sylw gan Blogger Ray Diota, 2:06 pm  

Gobeithio bydd digonedd o bobl meddw a chyfoethog yng Nglwb y Bont nos yfory ;-)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:11 pm  

Hmm. Jyst 5 tocyn i fi, dw i'n meddwl.
sylw gan Blogger Chris Cope, 2:48 pm  

Grêt, diolch Chris. Mae anfoneb (invoice) PayPal ar ei ffordd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:52 am  

Gadawa sylw