<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Fy Ngwyl Gwrw personol i

5.12.05

Anaml iawn y byddai i'n mynd allan tair noson mewn rhes dyddiau hyn, sdim stamina gyda fi, ond roedd Gwyl Gwrw Cymru ymalen yn Neuadd y Ddinas, a nos Wener oedd yr unig noson allwn fynd yno. Cyrraeddais yn hwyrach nag oeddwn wedi disgwyl ac roeddwn yn ffodus i fynd i mewn. Er mai mond chwarter i chwech oedd hi, roedd bron yn amhosib symud. Prynais beint o Golden Valley o fragdy Brycheiniog. Yn anffodus, bu'n rhaid i mi ei lyncu'n riet gyflym oherwydd roeddwn i fod i gwrdd â Sarah oedd am ddod yno o'i gwaith a doedd neb arall yn cael dod mewn bellach heb i eraill adael. Cwrddais â Sarah wrth y mynedfa ble roedd ciw yn tyfu ac aeth y ddau ohonom am beint neu ddau a bach o fwyd yn Tafarn.
Doeddwn heb fod yno o'r blaen a ddim yn siwr beth i'w ddigwyl - roedd ambell un wedi pwpwio'r lle, a thybiaf bod gan rhyw rhagfarn fwy i wneud â hyn na dim arall. Er nad wyf yn ôr-hoff o lefydd sydd wedi'w addurno'n trendi roedd y lle'n gyfforddus gyda'r bar yn gwahanu'r ardal ysmygu ar ardal dim-ysmygu. Cefais i Selsig Morgannwg mewn saws Mwstard a Seidr a cafod Sarah Fritatta. Nes i fwynhau un fi'n fawr iawn, ond roedd pryd Sarah'n fach iawn a reit diflas. Roedd diodydd braidd yn ddrud yno gyda Brains Smooth yn £2.50, ond mae'n leoliad bach neis ac ar hyn o bryd nid yw'n brysur iawn.

Dydd Sadwrn aeth Sarah a fi i Ystum Taf i weld tŷ newydd ffrind. Caswom pryd o fwyd yno cyn dal y trên i Bontypridd er mwyn cymeryd rhan mewn cwis yng Nghlwb y Bont i godi arain at gôr newydd Côr-y-Bont. Roedd Meinir Gwylym yno hefyd yn hyrwyddo ei halbwn diweddaraf. Roedd y lle dan ei sang a chafwyd ambell gân gan Gôr-y-Bont cyn i'r cwis ddechrau, ond uchafbwynt y noson i mi oedd y Christams Special Bitter gan Fragdy Rhymni.

Mae cwis dafarn y Cayo ar nos Sul wedi dod yn rhywbeth rheolaidd erbyn hyn. Dyma fi'n dechrau'r noson gyda'r bwriad o beidio yfed alcohol, ond roedd yn amhosib ymwrthod â'r hen Deuchars IPA. Neithiwr oedd noson olaf Noel fel y cwis feistr. Mae'n foi clên iawn er ei fod yn edrych braidd yn debyg i Harold Shipman, ac mae'n ddoniol tu hwnt ac yn deud pethau uffernol. Bydd yn chwith ar ei ôl, a mwy na thebyg mai'r landlord aiff yn ôl at ddarllen y cwestiynnau, sy'n bechod rili achos mae ganddo'r acen Worzel mwya ac mae'n an-llythrennog. Wedi dweud hynny, mae'r dewis o chwerw yn y Cayo ers iddo ddod yno yn wych gyda o leaif 5 cwrw Thomas Watkin a dau Brains ar gael yn barhaol, a dau gwrw gwestai arall.

Tagiau: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:43 pm

0 sylw:

Gadawa sylw