<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Parallel Wales: Lluniau o'r UDA o drefi gyda enwau Cymreig

7.12.05

Parallel Wales yw casgliad o luniau o wahanol trefi a phentrefi yn nhaleithiau Pennsylvania, Delawre a Maryland sydd âg enwau Cymraeg/Cymreig.
Tra'n yr UDA mi fues i Cardiff a Bethesda (ond un gwahanol, sef maesdref yn Washington DC). Mae gan Cardiff a'r pentref cyfagos sef Delta arwyddion stryd gwyrdd gyda draig goch ar bob un. Dwn i'm beth oedd ar fy mhen i ond wnes i ddim tynnu llun yr un ohonynt, na'r arwydd sy'n eich croesawu i'r lle, ond yn ffodus mae graffeg o'r uniion arwydd ar wefan y cyngor dosbarth lleol.


Mae casgliad Parallel Wales yn rhan o flog Simon Proffitt, ac yn ei archifau mae lluniau gwych o Gymru hefyd (cliciwch ar Previous yn gornel chwith ucha i weld lluniau eraill).


Trwy flog Forum Wales
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:41 pm

3 sylw:

Hefyd, mae'n dref bach gyda'r enw Cardiff yn California -- ger San Diego. Mae pobl cyfoethog iawn yn byw yno.
sylw gan Blogger Chris Cope, 1:14 am  

Yn nôl y safle hon ma 'na deg dre o'r enw Cardiff yn yr UDA.

Cardiff, Alabama, Jefferson County, Pop 72

Cardiff, Colorado, Garfield County

Cardiff, Idaho, Clearwater County

Cardiff, Illinois, Livingston County

Cardiff, Maryland, Harford County

Cardiff, New Jersey, Atlantic County

Cardiff, New York, Onondaga County

Cardiff, Pennsylvania, Cambria County

Cardiff, Tennessee, Roane County

Cardiff, Texas, Waller County

Cardiff By the Sea, California, San Diego County
sylw gan Blogger Tom Parsons, 4:06 pm  

Mae'n dda gwybod hynny. Dychmygwch gyrraedd Cardiff yng Nghaliffornia a sylweddoli mai i'r un ym Mhensylvannia oeddech chi i fod!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 5:30 pm  

Gadawa sylw