PlanningAlerts.com & FixMyStreet.com
30.1.08
Wedi bod yn edrych ar wefan MySociety a'u gwahanol brosiectau. Mae MySociety yn elusen sy'n:
Mae PlannigAlerts.com yn weddol amlwg, sef eich bod yn cael eich hysbysu am geisiadau cynllunio yn eich stryd, cymdogaeth neu ardal. Gall hyn fod yn ddefnydddiol iawn weithiau, oherwydd cewch ond lythyr drwy'r post os yw datblygiad yn ffinio ar eich eiddo, ac oni bai fod rhywbeth yn ddadleuol dros ben, mae'n rhaid i chi ddigwydd darllen nodyn bychan A4 ar bolyn lamp neu ddarllen yr hysbysebion yn y rhacsyn lleol. Yn anffodus dim ond manylion ceisiadau dau awdurdod lleol yng Nghymru sydd ar gael sef Gwynedd a Sir Ddinbych. Gan fod fy rhieni'n byw yn Sir Ddinbych, dyma fap yn dangos y ceisiadau sydd o fewn 2,000 metr i'w cartref:
View Larger Map
Pwrpas FixMyStreet.com yw ei wneud yn haws gadael i'ch awdurdod lleol wybod am broblemau fel graffiti, palmentydd peryglus, baw cŵm (problem cyson ar fy stryd i) ayyb. Rydych yn
.....a charitable project which builds websites that give people simple, tangible benefits in the civic and community aspects of their lives.Dwi'n hen gyfarwydd â TheyWorkForYou a PledgeBank (helpiais gyda'r cyfieithiad Cymraeg), ond dwi newydd ddarganfod dau sy'n ddefnyddiol i'r 'dinesydd concerned' sef PlanningAlerts.com a FixMyStreet.com.
Mae PlannigAlerts.com yn weddol amlwg, sef eich bod yn cael eich hysbysu am geisiadau cynllunio yn eich stryd, cymdogaeth neu ardal. Gall hyn fod yn ddefnydddiol iawn weithiau, oherwydd cewch ond lythyr drwy'r post os yw datblygiad yn ffinio ar eich eiddo, ac oni bai fod rhywbeth yn ddadleuol dros ben, mae'n rhaid i chi ddigwydd darllen nodyn bychan A4 ar bolyn lamp neu ddarllen yr hysbysebion yn y rhacsyn lleol. Yn anffodus dim ond manylion ceisiadau dau awdurdod lleol yng Nghymru sydd ar gael sef Gwynedd a Sir Ddinbych. Gan fod fy rhieni'n byw yn Sir Ddinbych, dyma fap yn dangos y ceisiadau sydd o fewn 2,000 metr i'w cartref:
View Larger Map
Pwrpas FixMyStreet.com yw ei wneud yn haws gadael i'ch awdurdod lleol wybod am broblemau fel graffiti, palmentydd peryglus, baw cŵm (problem cyson ar fy stryd i) ayyb. Rydych yn
- clicio ar leoliad y problem ar fap
- ei ddisgrifio
- mae'r wefan yna'n cysylltu â'r awdurdod lleol priodol yn uniongyrchol ar eich rhan
gallwch wedyn
- drafod y broblem gyda defnyddiwyr eraill
- nodi os yw'r broblem wedi ei ddatrys
Labels: democratiaeth, web2.0
Y llywodraeth yn gorfodi Microsoft ar y boblogaeth
29.1.08
Wel, efallai ddim cweit ond mae cynlluniau'r Archif Genedlaethol i drosglwyddo eu dogfennau electronig i fformat Microsoft Open XML yn codi cwestiwn o sut fath o feddalwedd dylai sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n deall oblygiadau hyn i gyd, ond nid yw'n fy synnu bod hyn yn codi gwrychyn llawer sy'n ymgyrchu am feddalwedd rhydd.
Yn ôl y ddeiseb yma, eu cwyn yw bod hyn yn gorfodi unrhywun sydd eisiau gweld dogfen o'r Archif, bydd rhaid iddynt fod â meddlawedd Microsoft Office, ac felly hefyd Microsoft Windows.
Yn ôl y ddeiseb yma, eu cwyn yw bod hyn yn gorfodi unrhywun sydd eisiau gweld dogfen o'r Archif, bydd rhaid iddynt fod â meddlawedd Microsoft Office, ac felly hefyd Microsoft Windows.
Recently it was announced that National Archives are converting their stock of electronic documents into Microsoft Open XML format. This format is not supported outside of Microsoft's own products and ties the public to purchasing Microsoft Office should they wish to view the products, which is a cost of around £80-120 depending on version. It also ties a user to puchasing Microsoft Windows which is a cost of roughly £150 for the Basic edition or purchasing a new PC with Windows which is a cost of at around £200 for a new machine. Instead Open Document Format which is an accepted ISO standard unlike Open XML should be used.
Labels: meddalwedd
Monty Don: Around the World in 80 Gardens
28.1.08
Doeddwn heb fwriadu gwylio hwn neithiwr ond dwi'n falch i mi ddal diwedd y rhaglen. Doedd teitl y gyfres ddim yn esbonio cynnwys y rhaglen yn ddigon da. Dwi'n meddwl bod cryn ffys wedi ei wneud pan ffilmwyd y rhaglen gan fod Monty Don wedi dweud yn y gorffenol ei fod am dorri lawr ar ei hedfan, ond yn ôl yr erthygl yma, treuliodd cyfansown o 52 diwrnod unai'n hedfan neu mewn maes awyr. Yn rhaglen cyntaf y gyfres roedd yn Mecsico a Chiwba.

Roedd un 'gardd' yn Mecsico wedi ei greu yn y jwngwl gan Sais cefnog o'r enw Edward James. Roedd yn gasglwr gwaith celf swrealistiath, ac fe adeiladodd ardd Laz Pozaz. Er mai o goncrit yr adeiladwyd popeth a dim ond yn 60'au y ganrif diwethaf, mae'r dyluniad yn ogystal a'r holl fwsog a thyfiant arall y jwngwl yn gwneud i'r lle edrych fel tasai wedi bod yno ers canrifoedd. (mwy o luniau o Laz Pozaz ar flickr a google).
Gerddi tra wahanol oedd yn Ciwba, ac yn ymwneud â thestun cyn gofnod ar y blog yma am sefyllfa economiadd a gwleidyddol y wlad. Mae'r angen difrifol am fwyd wedi gorfodi poblogaeth Havana i gynhyrchu bwyd eu hunain, felly mae unrhyw ofod o fewn y ddinas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau i fwydo'r boblogaeth lleol. Cafodd hyn ei hyrwydo a'i hwyluso gan y llywodraeth - ar draws dinas Havanna mae 60 canolfan wybodaeth cyhoeddus ble gall pobl fynd am gyngor ac i brynnu hadau. Ac nid bwyd yn unig sydd wedi dod yn brin yn y wlad, mae mewnforio meddyginiaeth yn anodd hefyd, felly mae planhigion gyda dyfnyddiau meddygol yn cael eu tyfu hefyd. Yn ogystal a'r 'gerddi poblogaidd' sydd wedi eu sefydlu gan y llywodraeth, mae unigolion wedi bod yn trawsnewid unrhyw dir gwastraff o fewn y ddinas i blotiau bwyd personol hefyd (tebyg i randiroedd ym Mhrydain).

Roedd un 'gardd' yn Mecsico wedi ei greu yn y jwngwl gan Sais cefnog o'r enw Edward James. Roedd yn gasglwr gwaith celf swrealistiath, ac fe adeiladodd ardd Laz Pozaz. Er mai o goncrit yr adeiladwyd popeth a dim ond yn 60'au y ganrif diwethaf, mae'r dyluniad yn ogystal a'r holl fwsog a thyfiant arall y jwngwl yn gwneud i'r lle edrych fel tasai wedi bod yno ers canrifoedd. (mwy o luniau o Laz Pozaz ar flickr a google).
Gerddi tra wahanol oedd yn Ciwba, ac yn ymwneud â thestun cyn gofnod ar y blog yma am sefyllfa economiadd a gwleidyddol y wlad. Mae'r angen difrifol am fwyd wedi gorfodi poblogaeth Havana i gynhyrchu bwyd eu hunain, felly mae unrhyw ofod o fewn y ddinas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau i fwydo'r boblogaeth lleol. Cafodd hyn ei hyrwydo a'i hwyluso gan y llywodraeth - ar draws dinas Havanna mae 60 canolfan wybodaeth cyhoeddus ble gall pobl fynd am gyngor ac i brynnu hadau. Ac nid bwyd yn unig sydd wedi dod yn brin yn y wlad, mae mewnforio meddyginiaeth yn anodd hefyd, felly mae planhigion gyda dyfnyddiau meddygol yn cael eu tyfu hefyd. Yn ogystal a'r 'gerddi poblogaidd' sydd wedi eu sefydlu gan y llywodraeth, mae unigolion wedi bod yn trawsnewid unrhyw dir gwastraff o fewn y ddinas i blotiau bwyd personol hefyd (tebyg i randiroedd ym Mhrydain).Labels: bwyd
Chi'n hoffi Marmite?
22.1.08
Dwi wrth fy modd â fo, ar dost bara brown/granary gyda menyn go iawn.
Ar y Food Programme ddoe roedd sôn am Fisged Marmite - o yeah!
Ar y Food Programme ddoe roedd sôn am Fisged Marmite - o yeah!
Labels: marmite
Wikipedia ar Multimap
18.1.08
Pan yn chwilio am gyfarwyddiadau, dwi unai'n defnyddio multimap neu Google maps, mae'r ddau yn wych. Sylwais heddiw bod multimap rwan yn danogs erthyglau Wikipedia. Dwi'n gweld hwn yn ddefnyddiol iawn pan yn paratoi i ymweld â rhywle newydd. Mae'r llun isod yn dangos canol Caerdydd sydd ag ambell i erthygl, ond sbiwch ar hwn o ganol Llundain.
Labels: mapiau, mashup, multimap, stwnsh, teithio, web.20, wikipedia
Ydi rhywbeth yn bodoli os nad yw'n Saesneg?
4.1.08
Dwi wrth fy modd gyda Wicipedia a Wikipedia. Yn ddiweddar dwi di bod yn treulio mwy o amser ar y ddau yn hytrach nag ar flogio. Byddai grêt petai mwy yn cyfrannu at yr Cymraeg, ac dwi am bostio rhyw fath o 'quick guide' i'r peth yn fuan. Wrth sgwennu, mae 13,623 o erthyglau ar y fersiwn Gymraeg, gobeithio wir na gymerith lawer i gyrraedd y garreg filltir o 15,000 erthygl.
Mae yna dipyn o wahaniaeth rhwng y Wiki Cymraeg a'r Saesneg a nid dim ond mewn niferoedd yr erthyglau a chyfranwyr. Dau beth mae'nt yn weddol llym arno ar y Wikipedia Saesneg yw:
Dwi'n cofio'r un peth yn digwydd pan osodwyd erthygl am y band Anweledig pan holodd rhywun oes oedd y band yma'n nodedig a'i peidio. Bu hefyd trafodaeth am ddilysrwydd erthygl am Scottish Gaelic Punk.
I mi mae hyn yn dangos bod eisiau i siaradwyr Cymraeg gyfrannu at wefannau fel Wikipedia er mwyn i'n diwylliant gael ei adlewyrchu a'i gynrychioli, ac hefyd mae'n codi cwestiwn a oes peryg i erthyglau ar y Wikipedia Saesneg fod yn Eingl-sentrig.
Mae yna dipyn o wahaniaeth rhwng y Wiki Cymraeg a'r Saesneg a nid dim ond mewn niferoedd yr erthyglau a chyfranwyr. Dau beth mae'nt yn weddol llym arno ar y Wikipedia Saesneg yw:
- Notability: "A topic is presumed to be notable if it has received significant coverage in reliable sources that are independent of the subject."
- Verifiability: "The threshold for inclusion in Wikipedia is verifiability, not truth. "Verifiable" in this context means that readers should be able to check that material added to Wikipedia has already been published by a reliable source."
- Hyd yn oed os yw rhywbeth yn boblogaidd ymysg
CymrySiaradwyr Cymraeg, fel nofel neu albwn e.e., byddai wedyn ond yn golygu gwerthiant o rhyw 1,000 copi mae'n siwr. - Mae'n anghyffredin iawn i'r wasg iaith Saesneg ysgrifennu am bethau Cymraeg
- Mae'r wasg Gymraeg yn fychan ofnadwy a phrin iawn yw ei bresenoldeb ar y wê - byddai'n handi gallu chwilio gwefan Golwg am hen erthyglau.