<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



PlanningAlerts.com & FixMyStreet.com

30.1.08

Wedi bod yn edrych ar wefan MySociety a'u gwahanol brosiectau. Mae MySociety yn elusen sy'n:
.....a charitable project which builds websites that give people simple, tangible benefits in the civic and community aspects of their lives.
Dwi'n hen gyfarwydd â TheyWorkForYou a PledgeBank (helpiais gyda'r cyfieithiad Cymraeg), ond dwi newydd ddarganfod dau sy'n ddefnyddiol i'r 'dinesydd concerned' sef PlanningAlerts.com a FixMyStreet.com.

Mae PlannigAlerts.com yn weddol amlwg, sef eich bod yn cael eich hysbysu am geisiadau cynllunio yn eich stryd, cymdogaeth neu ardal. Gall hyn fod yn ddefnydddiol iawn weithiau, oherwydd cewch ond lythyr drwy'r post os yw datblygiad yn ffinio ar eich eiddo, ac oni bai fod rhywbeth yn ddadleuol dros ben, mae'n rhaid i chi ddigwydd darllen nodyn bychan A4 ar bolyn lamp neu ddarllen yr hysbysebion yn y rhacsyn lleol. Yn anffodus dim ond manylion ceisiadau dau awdurdod lleol yng Nghymru sydd ar gael sef Gwynedd a Sir Ddinbych. Gan fod fy rhieni'n byw yn Sir Ddinbych, dyma fap yn dangos y ceisiadau sydd o fewn 2,000 metr i'w cartref:

View Larger Map

Pwrpas FixMyStreet.com yw ei wneud yn haws gadael i'ch awdurdod lleol wybod am broblemau fel graffiti, palmentydd peryglus, baw cŵm (problem cyson ar fy stryd i) ayyb. Rydych yn
  • clicio ar leoliad y problem ar fap
  • ei ddisgrifio
  • mae'r wefan yna'n cysylltu â'r awdurdod lleol priodol yn uniongyrchol ar eich rhan
gallwch wedyn
  • drafod y broblem gyda defnyddiwyr eraill
  • nodi os yw'r broblem wedi ei ddatrys
Dyma sydd wedi ei adrodd amdanynt yn fy ardal i, ac yng Nghaerdydd i gyd.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:07 pm

1 sylw:

Ia, da di'r planningalerts.com. O'n i wedi trio defnyddio'i API nhw gyntaf, ond dio'm yn gweithio i Gwynedd (a di nhw dal heb ymateb i'm ebost) felly eshi am Nestoria yn diwedd.
sylw gan Blogger Mei, 11:45 pm  

Gadawa sylw