<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Monty Don: Around the World in 80 Gardens

28.1.08

Doeddwn heb fwriadu gwylio hwn neithiwr ond dwi'n falch i mi ddal diwedd y rhaglen. Doedd teitl y gyfres ddim yn esbonio cynnwys y rhaglen yn ddigon da. Dwi'n meddwl bod cryn ffys wedi ei wneud pan ffilmwyd y rhaglen gan fod Monty Don wedi dweud yn y gorffenol ei fod am dorri lawr ar ei hedfan, ond yn ôl yr erthygl yma, treuliodd cyfansown o 52 diwrnod unai'n hedfan neu mewn maes awyr. Yn rhaglen cyntaf y gyfres roedd yn Mecsico a Chiwba.



Roedd un 'gardd' yn Mecsico wedi ei greu yn y jwngwl gan Sais cefnog o'r enw Edward James. Roedd yn gasglwr gwaith celf swrealistiath, ac fe adeiladodd ardd Laz Pozaz. Er mai o goncrit yr adeiladwyd popeth a dim ond yn 60'au y ganrif diwethaf, mae'r dyluniad yn ogystal a'r holl fwsog a thyfiant arall y jwngwl yn gwneud i'r lle edrych fel tasai wedi bod yno ers canrifoedd. (mwy o luniau o Laz Pozaz ar flickr a google).

Gerddi tra wahanol oedd yn Ciwba, ac yn ymwneud â thestun cyn gofnod ar y blog yma am sefyllfa economiadd a gwleidyddol y wlad. Mae'r angen difrifol am fwyd wedi gorfodi poblogaeth Havana i gynhyrchu bwyd eu hunain, felly mae unrhyw ofod o fewn y ddinas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau i fwydo'r boblogaeth lleol. Cafodd hyn ei hyrwydo a'i hwyluso gan y llywodraeth - ar draws dinas Havanna mae 60 canolfan wybodaeth cyhoeddus ble gall pobl fynd am gyngor ac i brynnu hadau. Ac nid bwyd yn unig sydd wedi dod yn brin yn y wlad, mae mewnforio meddyginiaeth yn anodd hefyd, felly mae planhigion gyda dyfnyddiau meddygol yn cael eu tyfu hefyd. Yn ogystal a'r 'gerddi poblogaidd' sydd wedi eu sefydlu gan y llywodraeth, mae unigolion wedi bod yn trawsnewid unrhyw dir gwastraff o fewn y ddinas i blotiau bwyd personol hefyd (tebyg i randiroedd ym Mhrydain).


Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:19 am

2 sylw:

Post diddorol iawn, Rhys. Dw i'n dymuno mod i fedru'n gweld y rhaglen.

Am y pwnc gwastraffu dir, dw i'n siwr fod ti wedi clywed am y mudiad guerilla gardening
sylw gan Blogger Tom Parsons, 3:46 pm  

Wedi clywed am y term, ond heb ddarllen yr erthygl o'r blaen, ble mae ambell ddolen difyr- diolch
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:01 pm  

Gadawa sylw