'Britain from Above' - cyfres ar y teledu.
8.8.08
Mae hwn yn swnio'n rili dda:
Andrew Marr takes to the skies exploring Britain from above.
An epic journey revealing the secrets, patterns and hidden rhythms of our lives from a striking new perspective.
Join host Andrew Marr as he discovers how each and every one of us is interconnecting making Britain what it is today.
Mae'r visualisations yma'n anhygoel, yn dangos llwybrau traffig mewn dinasoedd ac ar y môr. Efallai ddim cweit mor drawiadol yn weledol, bydd eitem am Glyn Ebwy, am sut mae'r tirlun wedi newid yn yr oes ôl-ddiwydiannol.
Wikipedia ar Multimap
18.1.08
Pan yn chwilio am gyfarwyddiadau, dwi unai'n defnyddio multimap neu Google maps, mae'r ddau yn wych. Sylwais heddiw bod multimap rwan yn danogs erthyglau Wikipedia. Dwi'n gweld hwn yn ddefnyddiol iawn pan yn paratoi i ymweld â rhywle newydd. Mae'r llun isod yn dangos canol Caerdydd sydd ag ambell i erthygl, ond sbiwch ar hwn o ganol Llundain.
Labels: mapiau, mashup, multimap, stwnsh, teithio, web.20, wikipedia