<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



20,000 erthygl ar y Wicipedia (Y Wikipedia Cymraeg)

24.11.08

Ar y diwrnod y cyhoeddwyd bod y Gymraeg wedi ei defnyddio yn swyddogol am y tro cyntaf wrth annerch Cyngor y Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, fe gyrhaeddwyd carreg filltir arall hefyd, gan i'r Wicipedia gyrraedd 20,000 erthygl.

Dw i'n hoff iawn o'r Wicipedia, ac er mod i'n cyfrannu un neu ddau erthygl nawr ac yn y man, dw i'n tueddu gwneud pethau fel twtio iaith, trwsio dolenni, a chategoreiddio erthyglau'n bennaf.

I geisio denu ychydig o sylw i'r Wicipedia - ac hefyd gobeithio denu mwy o gyfranwyr, mae rhai o'r golygwyr wedi ceisio llunio rhyw ddatganiad bach, sydd wedi ei danfon i bapurau a chylchgronau. os ydych yn nabod rhywun sy'n debygol o fod a rhyw ddylanwad - boed yn bapur newydd neu'n bapur bro, plîs, pasiwch hwn ymlaen;

20,000 O ERTHYGLAU CYMRAEG AR-LEIN

Mae’r Wicipedia Cymraeg (http://cy.wikipedia.org), gwyddoniadur rhydd ar-lein sy'n rhan o gywaith Wikipedia, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes, sef 20,000 o erthyglau.

Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn a rhagor o erthyglau sydd ar ei gefnder, y Wikipedia Saesneg, mae’n dipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr.

Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, mae croeso i unrhyw un gyfrannu ac mae criw cyfeillgar o olygwyr wrth law yn 'Y Caffi' i ateb unrhyw gwestiynau gan newydd ddyfodiaid.

Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i bynciau am yr iaith Gymraeg na Chymru yn unig. Yn wir, bwriad y Wicipedia yw darparu ystod eang o erthyglau am bob pwnc dan haul, ac mae eisoes yn cynnwys gwybodaeth am bynciau na chafwyd ymdriniaeth amdanynt yn Gymraeg o'r blaen. Ein gobaith yn y tymor hir yw tyfu i fod y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol erioed.

*Yr 20,000fed erthygl i ymddangos oedd Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984

*Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ,

*Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae Diwydiant llechi Cymru, Apartheid ac India

Pan rois gyflwyniad am wefannau cymdeithasol Cymraeg yn Awst 2007, roedd 10,558 erthygl (sleid 27), felly mae'r Wicipedia wedi dyblu ers hynny.

Angen ysbrydoliaeth?
Os ydych wedi bod eisiau cyfrannu ond ddim yn siwr sut, neu am beth i ysgrifennu, gadewch i mi wybod. Byddai'n dda cael rhai o'r blogwyr Cymraeg tramor i greu/ehangu ar erthyglau am yr ardaloedd maent yn byw neu'n dod ohonynt yn wreiddiol. Dw i'n ceisio argyhoeddi ffrind o'r Almaen sy'n dysgu Cymraeg y byddai'n ymarfer da iddi greu erthygl am ei thref genedigol sef Passau. Gall gyfieithu darn o'r erthygl Saesneg neu Almaeneg, ac hyd yn oed os ydy hi'n gwneud camgymeriad gyda'r iaith (er bod ei Chymraeg yn ardderchog), mae'n hawdd i olygwyr eraill ei gywiro. Beth sy'n dda am Wicipedi, ydy y gallwch gymharu newidiadau.

Cefais fy ysbrydoli i greu erthygl am Evan Jones ar ôl darllen amdano ar flog Emma Reese. Fe gyfieithodd Evan Jones y beibl i'r iaith Cherokee, ac fe soniodd Emma wedyn bod arwyddion yn yr iaith Cherokee yn ei thref hi, sef Tahlequah, Oklahoma. Plagiais Emma am luniau, a dyma hi'n danfon rhain ataf, sydd nawr yn ymddangos ar erthyglau am dref Tahlequah a'r iaith Cherokee.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:23 pm | dolen | 4 sylw |

Ydi rhywbeth yn bodoli os nad yw'n Saesneg?

4.1.08

Dwi wrth fy modd gyda Wicipedia a Wikipedia. Yn ddiweddar dwi di bod yn treulio mwy o amser ar y ddau yn hytrach nag ar flogio. Byddai grêt petai mwy yn cyfrannu at yr Cymraeg, ac dwi am bostio rhyw fath o 'quick guide' i'r peth yn fuan. Wrth sgwennu, mae 13,623 o erthyglau ar y fersiwn Gymraeg, gobeithio wir na gymerith lawer i gyrraedd y garreg filltir o 15,000 erthygl.

Mae yna dipyn o wahaniaeth rhwng y Wiki Cymraeg a'r Saesneg a nid dim ond mewn niferoedd yr erthyglau a chyfranwyr. Dau beth mae'nt yn weddol llym arno ar y Wikipedia Saesneg yw:
  • Notability: "A topic is presumed to be notable if it has received significant coverage in reliable sources that are independent of the subject."
  • Verifiability: "The threshold for inclusion in Wikipedia is verifiability, not truth. "Verifiable" in this context means that readers should be able to check that material added to Wikipedia has already been published by a reliable source."
Mae'r ddau uchod yn bwysig wrth gwrs os yw am fod yn wyddoniadur gwerth ei halen. Sdim pwynt cael erthyglau arno am unrhyw 'Tom, Dick neu Sanddef' (ahem!), ac hefyd er mwyn i ddarllenwr fod yn siwr bod beth mae nhw'n ddarllen yn wir, mae'n ddefnyddiol bod a ffynhonell ddibyniadwy ac yn ddelfrydol dolen atynt. Gall hyn fod yn broblem ar gyfer erthyglau yn ymwneud â phethau mewn iaith lleafrifol.
  1. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn boblogaidd ymysg Cymry Siaradwyr Cymraeg, fel nofel neu albwn e.e., byddai wedyn ond yn golygu gwerthiant o rhyw 1,000 copi mae'n siwr.
  2. Mae'n anghyffredin iawn i'r wasg iaith Saesneg ysgrifennu am bethau Cymraeg
  3. Mae'r wasg Gymraeg yn fychan ofnadwy a phrin iawn yw ei bresenoldeb ar y wê - byddai'n handi gallu chwilio gwefan Golwg am hen erthyglau.
Yn ddiweddar ychwanegwyd erthygl am maes-e at y Wikipedia, ac yn syth fe gwestiynwyd Notbility y pwnc, a rhoddwyd tag 'speedy-deletion' arno. Yn ffodus fe ehangwyd ar yr erthygl ac efallai petai'r erthygl wedi ei hysgifennu'n wahanol yn y lle cyntaf ni fyddai wedi bod cymaint o broblem. Ond i ddweud y gwir roedd yn anodd dros ben dod o hyd i unrhyw ffynhonellau 'awdurdodedig' am y wefan.
Dwi'n cofio'r un peth yn digwydd pan osodwyd erthygl am y band Anweledig pan holodd rhywun oes oedd y band yma'n nodedig a'i peidio. Bu hefyd trafodaeth am ddilysrwydd erthygl am Scottish Gaelic Punk.

I mi mae hyn yn dangos bod eisiau i siaradwyr Cymraeg gyfrannu at wefannau fel Wikipedia er mwyn i'n diwylliant gael ei adlewyrchu a'i gynrychioli, ac hefyd mae'n codi cwestiwn a oes peryg i erthyglau ar y Wikipedia Saesneg fod yn Eingl-sentrig.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:57 pm | dolen | 2 sylw |