<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Da yn dod o 'ddrwg'

10.10.07

Cefais sgwrs meddw gyda'g un o'm ffrindiau'n ddwieddar ble reodd y ddau ohonom o'r farn byddwn ni'n mynd nôl i ddefnyddio'r ceffyl a chert yn y dyfodol pan na fydd cyflenwad olew mor rhad/hawdd i gael gafael arno. Dwi'n meddwl llawer am y dyfodol (cymharol agos) ble dwi'n rhagwled newid mawr yn ein ffordd o fyw oherwydd newid hinsawdd ac hefyd newidiadau economaidd ac o bosib gwleidyddol a allai effeithio ar ein cyflenwad bwyd ac ynni.

Dwi'n ceisio peidio sôn gormod amdanynt rhag swnio'n rhy apocolyptaidd neu fel rhyw fath o Oroeswr! Dyma pam dwi wedi bod yn mwynhau darllen blog Mympwy gan Aran Jones. Mae'r blog yn ardderchog, yn trafod nifer o bethau dwys yn ymwneud â chymdeithas. Yn ddiweddar mae Aran wedi bod yn ysgrifennu llawer am Copa Olew (Peak Oil) ac yn gofyn beth fydd oblygiadau hyn a'r gymdeithas, yn fwy penodol sut all cymunedau llai ymdopi ac efallai manteisio â'r sefyllfa, ac hefyd oes modd paratoi amdano.

Yn ddiweddar darllenais stori ddifyr yn y Guardian am sut bu lleihad sylweddol mewn achosion o glefyd y galon, clefyd y siwgr a gordewdra yng ngwlad Ciwba yn ystod hanner cyntaf y 1990'au yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietadd a oedd yn ariannu'r wlad ac hefyd gan bod UDA yn gwahardd allforion i'r wlad. Golygai hyn bod prinder mewn olew, ac felly dechreuodd pobl gerdded a beicio mwy, a gan bod pobl yn llai ariannog, nid oeddynt yn tuaeddu bwyta cymaint. Dwi ddim yn dweud bod Ciwba'n rhyw fath o Iwtopia (fel mae ambell i gomiwnydd ym Mhrydain weithiau'n honni), ond mae sgil-effeithiau positif wedi dod o newidiadau gwleidyddol allanol.

Effaith arall diffyg olew oedd bod rhaid newid dulliau cynhyrchu bwyd. Yn un peth nid yw'n bosib ei gludo dros bellterau, ac hefyd nid oes modd defnyddio peiriannau mawrion a chemegau, felly rhaid defnyddio nerth anifeiliaid neu dyn (neu ferch!) i wneud y gwaith ac mae'n rhaid bod yn organig a defnyddio dulliau gwrtheithio mwy naturiol (dwi'n gwneud hyn yn barod drwy biso ar fy nhmoen compost pan yn dod adre'n feddw a mae rhywun yn y tŷ bach). Golygai hyn byddai bywyd yn tipyn caletach arnom yn gorfforol, ond byddai eto'n golygu mwy o ymarfer corff a byddai pobl yn fwy heini a chryfach. Hefyd byddai angen mwy o bobl i weithio ar y tir - roedd Saunders yn iawn wedi'r cyfan! (jôc oedd hynna gyda llaw rhag ofn bod rhywun o Lafur Newydd yn darllen).

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:49 am

5 sylw:

Pwnc diddorol iawn.

Ysgrifennodd James Howard Kunstler llyfr go arbennig ("The Long Emergency") ar sut effaith caiff penllanw'r cyflenwad olew ar ein cymdeithas.

Cytunaf gyda'r sylwadau ar Ciwba.

Mae ffilm gan Community Solution (grwp Americanaidd) gyda ni os hoffet ti fenthyg hwn, yn rhad ac am ddim. Trafodir effaith penllanw y cyflenwad olew ar gymdeithas Ciwba (a'r llwyddiant yno).

http://www.communitysolution.org/poc.html
sylw gan Anonymous Anonymous, 4:27 pm  

Wedi clywed tipyn am The Long Emergency, ond heb ei ddarllen eto. Byddai diddordeb gyda fi weld Community Solution. Mi wnai ddanfon e-bost.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:36 pm  

Ia, mae The Long Emergency yn sicr iawn yn un i'w ddarllen - a diolch am roi gwybod am Community Solution, wedi'i archebu - gwefan ddiddorol iawn.

Difyr i weld Green Drinks RCT hefyd - wedi'i ychwanegu at BlogCymru.com, gan obeithio bod hynny'n iawn ganddoch chi...:-)

Mae rhai o sgil-effeithiau Copa Olew yn sicr yn edrych yn addawol - os gawn ni 'smooth landing' ar ran y newid, mae digon i fod yn bositif amdani. Yn hynny o beth, mae'n bosib y bydd y ffaith bod poblogaeth Cymru heb dyfu cymaint â nifer o wledydd gorllewinol eraill yn gymorth - ond mae tipyn o waith i'w wneud i ail-leoleiddio ein cadwyni cyflenwi bwyd.

Diolch am gyfraniad da iawn, Rhys - mwyaf yn y byd bydd pobl yn trafod pethau fel hyn yn agored, gorau yn y byd. Cyfle arall i'r blogiau Cymraeg wneud cyfraniad... a diolch hefyd am dy eiriau rhy garedig! Er, ahem, mae Mympwy ydy'r blog, dim Mwypwy - diolch i ti, dan ni'n dod allan yn y 5 uchaf pan mae rhywun yn chwilio am mwypwy ar Google...;-)
sylw gan Blogger Aran, 9:28 am  

Post diddorol, Rhys. I fod yn onest, mae'r mudiad "Community Solutions" yn swnio llawer mwy positif na sylwadau Kunstler ar y pwnc. Rwyf wedi darllen sawl traethawd ganddo, a dwi'n ei ffeindio'n dipyn rhy negyddol i ddenu sylw'r mwyafrif o bobl mewn cymdeithasoedd gorllewinol. Na fydd y blynyddoedd i ddod yn hawdd, dwi'n siwr, ond dydw i ddim yn gweld cwymp gwareiddiad yn digwydd.
Mae hynny'n bwynt pwysig am ddenu sylw'r mwyafrif, Robert - ond eto, i fod yn deg wrth Kunstler, mae'n dweud sawl tro mai isio ystyried yr ystod lawn o bosibiliadau mae o, gan gredu bod angen paratoi at y gwaethaf tra'n gobeithio am y gorau...
sylw gan Blogger Aran, 9:13 pm  

Gadawa sylw