<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blog-gwrdd yn yr Eisteddfod unrhywun?

30.6.07

Doedd yr ymateb ar maes-e ddim yn grêt, ond oes na fwy o ddiddordeb rwan? Fel y soniais ar maes-e, mae gan Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg slot awr ym Mhabell y Cymdeithasau ar y prynhawn Mawrth rhwng 4 a 5:00pm, a bydda i'n ceisio llenwi'r bwlch yn siarad am 'Y Blogwyr a'u Rhithfro'. Awgrym CMC oedd y byddwn yn cynnal y blog-gwrd yno wedyn, oherwydd
a) mae'n anhebygol y bydd digon o le ar stondin CMC eleni fel llynedd
b) byddai dim arall ymlaen ym Mhablell y Cymdeithasau ar fy ôl i

Dwi ddim yn meddwl byddai pnawn Mawrth yn debygol o ddenu cymaint a bloggwrdd diwedd wythnos + mae'n debyg bydd darlith arall ar fy ôl i pnawn Mawrth (Dafydd Wigley yn cyflwyno darlith BARN)

Mae CMC yn cwrdd eto ar yr 11eg o Orffennaf i geisio cwbwlhau trefniadau'r Eisteddfod. Hoffent gynnwys hysbyseb blog-gwrdd mewn unrhyw ddeunydd byddant yn paratoi.

Felly,
a) sgin rhywun awydd blog-gwrdd? (mae mwy o Wicipedwyr [sll?] wedi dangos diddordeb)
b) sgin rhywun awgrymiadau am ddyddiadad (ac amser a lleoliad)?

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:30 pm | dolen | 1 sylw |

Un o ddarllenwyr Blogiau Cymraeg o UDA ym Mangor

27.6.07

Stori wych ar flog Dogfael am sut bu iddo gyfarfod ag Emma Reese o Oklahoma drwy hap tra'n cael ei frecwast mewn neuadd preswyl ym Mangor.

Mae Emma yn aelod o maes-e ac yn gadael sylwadau ar sawl blog Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae hi ar gwrs preswyl Cymraeg ym Mangor, ac yn bwriadu ymweld ag Aberystwyth (a Chaerdydd?). Os digwydd i chi ei gweld, cofiwch ddweud helo wrthi.

Ar yr un trywydd, mae Omniglot (Simon), draw yn Llambed ar hyn o bryd ar gwrs preswyl Cymraeg hefyd.

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:47 am | dolen | 1 sylw |

DimeGoch.com - prynu Cymru yn ôl

12.6.07

Wedi dod ar draws wefan dimegoch.com heddiw. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod yn cyd-fynd â'r newyddion am gwmni Thomas Cook yn gwahardd eu staff rhag siarad Cymraeg â'u gilydd.

Dro ar ôl tro pan mae sôn am gyflwyno deddfau i sirchau hawliau Cymru Cymraeg i unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg yng nghymru, ma'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai cwmniau'n defnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol petai pobl wir yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae gronyn o wirionedd yn hyn dwi'n cyfaddef, ond yn y pendraw, gyda nifer gynyddol llai o gwmniau'n cornelu sawl sector, mae'n gallu ni i ddewis a dethol yn mynd yn llai. Tydi hi chwaith ddim yn rhesymol disgwyl i unigolyn fynu gwasanaeth Cymraeg ar bod ymweliad â siop gwahanol - byddai'r daith siopa'n bofiad digon amhleserus. Hefyd, mae'n anodd fel unigolyn i gael cwmniau i newid eu ffordd (gyda rhai eithriadau efallai!)

Dyna pam dwi mor hoff o'r syniad (syml) sydd tu cefn i dimegoch.com. Mae'n ffordd dda o ddod ag unigolion at eu gilydd, "mewn undod mae nerth" wedi'r cyfan, gan roi neges cadarnhaol i'r gwahanol gwmniau. Y syniad yw bod pobl sy'n awryddo i'r cynllun yn talu £1 y mis i ddangos eu bod o ddifi ac yn fodlon newid eu patrymau siopa/newid cytundeb os yw cwmni'n gweithredu'n gadarnhaol ynghylch y Gymraeg, tra efallai yn y gorffenol byddai pobl yn ddigon bodlon arwyddo rhyw ddeiseb ar-lein yn gofyn hyn a'r llall, ac wedyn yn anghofio am y peth, neu'n peidio trafferthu newid pan mae'n dod i'r crunch.
Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y punt Cymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 pm | dolen | 2 sylw |

'Y Byd' i fod ar gael ar y we

5.6.07

Cyhoeddiad ar flog Y Byd y bydd modd i danysgrifwyr ddarllen y papur newydd yn llawn ar y we.

Bydd tanysgrifwyr yn derbyn y papur trwy gyfrwng eu siop leol, ac yn cael mynediad hefyd i ran arbennig o’r wefan lle bydd y papur cyfan yn ymddangos [fy mhwyslais], yn ogystal ag archif o’r papur.

(bydd pawb arall yn medru darllen y wefan – ond nid y papur cyflawn)

I’r rhai sydd yn dymuno derbyn y papur ar y we yn unig, bydd modd tanysgrifio am bris gostyngol.

Bydd hefyd yn rhatach tanysgrifio iddo tros y we yn unig. Bydd tipyn o drafod am hyn dwi'n siwr.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:43 pm | dolen | 1 sylw |

Mwy o flogiau newydd

4.6.07

Gan fod yr ymateb i'r rhestr diwethaf wedi bod yn dda dyma fwy i chi

Dau yn Saesneg yn gyntaf, ond rhai pwysig iawn gan eu bod yn trafod technoleg o berspectif Cymreig a Chymraeg.
eNewyddion gan Basheera Khan o Ping Wales gynt

Me Myself Why? gan Kevin Donnelly. Mae'n gwneud llawer o waith ar leoleiddio meddalwedd i'r Gymraeg. Mae'r Meddaliadur yn edrych yn gyffrous. (CAD yn Gymraeg unrhywun? - sgroliwch lawr am sgrinluniau)
Yn ôl i'r Blogiau Cymraeg
Blog technoleg Mei, ble bydd Mei yn postio am bethau technoleg o hyn ymlaen. Post diwethaf am RSS yn must read os nad ydych yn gyfarwydd a beth yn union mae'n dda i.

Sion Owain, blog gan, erm...Sion Owain. Dwi'n dyfalu ei fod yn dod o lannau Clwyd, ac felly'n gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd fel fi, Mr Gasyth a Linda (?). Mae Sion hefyd wedi dechrau blog am Chwaraeon.

Petha' Bach, blog am amryw o bethau
Reit, na ddigon am rwan. Gobeithio bod rhywun yn pasio rhain i gyd ymlaen at Aran ar gyfer y Blogiadur (sy'n edrych yn secsi iawn ar ei newydd wedd)!

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:45 pm | dolen | 3 sylw |

Dim ond ffurflen oeddwn eisiau

3.6.07

Tra yn y gogledd am ychydig dyddiau cefasi alwad ffôn gan gyd-weithiwr yn dweud bod John swyddfa'r Gwasanaeth Llysoedd yn Llundain wedi ffonio, eisiau i mi eu galw ar frys. Dwi wedi cael fy nghalw i fod ar reithgor yn yr wythnosau nesaf. Daeth gorchymun dwyieithog drwy'r post a dyma fi'n naturiol yn cwbwlhau'r ochr Gymraeg. Dyma fi wedyn yn derbyn pecyn gyda manylion pellach yn Gymraeg yn unig, llyfryn gwybodaeth dwyieithog a ffurflen ad-dalu cyflog uniaith Saesneg i'm cyflogwr lenwi. Gan mod i'n gwiethio mewn gweithle Cymraeg ei iaith, dyma fi'n anfon e-bost (Cymraeg) yn gofyn am ffurflen Gymraeg. Dyma fi'n galw John a dyma'n sgwrs
Fi: It's Rhys Wynne here, I understand you called my work wanting to speak to me
John: Yes, you've sent us an e-mail but it's in Welsh and we don't understand Welsh
Fi: I was under the impression that I'm allowed to contact the Courts Service in Welsh if I prefer to.
John: But then we have to send it to be translated and it takes time. What does the e-mail say?
Fi: You've sent me a loss of earnings form in English, I work for organisation that operates through the medium of Welsh and I'd like a form in Welsh for my employer.
John: I don't think we've got one in Welsh
Fi: Oh (doeddwn i dim mewn tymer i ddadlau)
John: I'll see what I can do
Fi: Thank you very much
Typical fi, a typical Cymry Cymraeg. Fi'n eu ffonio nhw'n nôl a cael fy ngorfodi i gyfieithu e-bost fy hun i'r Saesneg, cael clywed mae'n debyg nad oes ffurflen Cymrag ar gael ac yna dwi'n DIOLCH i'r boi!

Ta beth, erbyn i mi gyrraedd nôl i Gaerdydd, roedd ffurflen Gymraeg wedi'w bostio (o'u swyddfa nhw yng Nghaerdydd). Popeth yn iawn yn y diwedd efallai ond sôn am drafferth rhaid mynd iddo i gael rhywbeth yn Gymraeg.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:22 pm | dolen | 4 sylw |