<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



DimeGoch.com - prynu Cymru yn ôl

12.6.07

Wedi dod ar draws wefan dimegoch.com heddiw. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod yn cyd-fynd â'r newyddion am gwmni Thomas Cook yn gwahardd eu staff rhag siarad Cymraeg â'u gilydd.

Dro ar ôl tro pan mae sôn am gyflwyno deddfau i sirchau hawliau Cymru Cymraeg i unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg yng nghymru, ma'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai cwmniau'n defnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol petai pobl wir yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae gronyn o wirionedd yn hyn dwi'n cyfaddef, ond yn y pendraw, gyda nifer gynyddol llai o gwmniau'n cornelu sawl sector, mae'n gallu ni i ddewis a dethol yn mynd yn llai. Tydi hi chwaith ddim yn rhesymol disgwyl i unigolyn fynu gwasanaeth Cymraeg ar bod ymweliad â siop gwahanol - byddai'r daith siopa'n bofiad digon amhleserus. Hefyd, mae'n anodd fel unigolyn i gael cwmniau i newid eu ffordd (gyda rhai eithriadau efallai!)

Dyna pam dwi mor hoff o'r syniad (syml) sydd tu cefn i dimegoch.com. Mae'n ffordd dda o ddod ag unigolion at eu gilydd, "mewn undod mae nerth" wedi'r cyfan, gan roi neges cadarnhaol i'r gwahanol gwmniau. Y syniad yw bod pobl sy'n awryddo i'r cynllun yn talu £1 y mis i ddangos eu bod o ddifi ac yn fodlon newid eu patrymau siopa/newid cytundeb os yw cwmni'n gweithredu'n gadarnhaol ynghylch y Gymraeg, tra efallai yn y gorffenol byddai pobl yn ddigon bodlon arwyddo rhyw ddeiseb ar-lein yn gofyn hyn a'r llall, ac wedyn yn anghofio am y peth, neu'n peidio trafferthu newid pan mae'n dod i'r crunch.
Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y punt Cymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 pm

2 sylw:

Sori i adael neges sydd ddim yn berthnasol i'r pwnc fel hyn. Methu dod o hyd i gyfeiriad ebost :-s

Oes modd i ti osod y baner yma ar dy wefan i helpu hysbysebu protest Dydd Gwener?

http://cymdeithas.org/lluniau/protest-thomas-cook.jpg

Gyda dolen at y dudalen yma i ddangos y cefnidr os yn bosib:
http://cymdeithas.org/2007/06/12/cymdeithas_yn_parhau_gyda_protest_thomas_cook.html

Pob Hwyl gyda'r blog 8-)
sylw gan Blogger Bonheddwr, 10:30 pm  

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?
sylw gan Anonymous Anonymous, 1:19 am  

Gadawa sylw