Dim ond ffurflen oeddwn eisiau
3.6.07
Tra yn y gogledd am ychydig dyddiau cefasi alwad ffôn gan gyd-weithiwr yn dweud bod John swyddfa'r Gwasanaeth Llysoedd yn Llundain wedi ffonio, eisiau i mi eu galw ar frys. Dwi wedi cael fy nghalw i fod ar reithgor yn yr wythnosau nesaf. Daeth gorchymun dwyieithog drwy'r post a dyma fi'n naturiol yn cwbwlhau'r ochr Gymraeg. Dyma fi wedyn yn derbyn pecyn gyda manylion pellach yn Gymraeg yn unig, llyfryn gwybodaeth dwyieithog a ffurflen ad-dalu cyflog uniaith Saesneg i'm cyflogwr lenwi. Gan mod i'n gwiethio mewn gweithle Cymraeg ei iaith, dyma fi'n anfon e-bost (Cymraeg) yn gofyn am ffurflen Gymraeg. Dyma fi'n galw John a dyma'n sgwrs
Ta beth, erbyn i mi gyrraedd nôl i Gaerdydd, roedd ffurflen Gymraeg wedi'w bostio (o'u swyddfa nhw yng Nghaerdydd). Popeth yn iawn yn y diwedd efallai ond sôn am drafferth rhaid mynd iddo i gael rhywbeth yn Gymraeg.
Fi: It's Rhys Wynne here, I understand you called my work wanting to speak to meTypical fi, a typical Cymry Cymraeg. Fi'n eu ffonio nhw'n nôl a cael fy ngorfodi i gyfieithu e-bost fy hun i'r Saesneg, cael clywed mae'n debyg nad oes ffurflen Cymrag ar gael ac yna dwi'n DIOLCH i'r boi!
John: Yes, you've sent us an e-mail but it's in Welsh and we don't understand Welsh
Fi: I was under the impression that I'm allowed to contact the Courts Service in Welsh if I prefer to.
John: But then we have to send it to be translated and it takes time. What does the e-mail say?
Fi: You've sent me a loss of earnings form in English, I work for organisation that operates through the medium of Welsh and I'd like a form in Welsh for my employer.
John: I don't think we've got one in Welsh
Fi: Oh (doeddwn i dim mewn tymer i ddadlau)
John: I'll see what I can do
Fi: Thank you very much
Ta beth, erbyn i mi gyrraedd nôl i Gaerdydd, roedd ffurflen Gymraeg wedi'w bostio (o'u swyddfa nhw yng Nghaerdydd). Popeth yn iawn yn y diwedd efallai ond sôn am drafferth rhaid mynd iddo i gael rhywbeth yn Gymraeg.
Labels: cymraeg
4 sylw:
sylw gan Mei, 9:06 am
Efallai roedd yn poeni ei fod yn rhywbeth pwysicach na allai aros (ond byddwn wedi ffonio petai)
Ond, byddai'n gwneud lot mwy o sens i bethau sy'n cael eu hel i pobl Cymru gael ei weinyddu yng Nghymru.
Ond, byddai'n gwneud lot mwy o sens i bethau sy'n cael eu hel i pobl Cymru gael ei weinyddu yng Nghymru.
Doniol, ond tipyn bach yn drist hefyd. Yma yn California, mae pobl sy'n siarad Sbaeneg yn cael problemau eto o bryd i'w gilydd gyda ffurfiau, ayyb, er bod (in theory) llawer o bobl yma'n gallu siarad Sbaeneg. Ond dydy Sbaeneg ddim yn iaith swyddogol (eto)...ac mae rheolau "English only" yn bwynt i'w ddadlu rhwng rhyw bobl.
Dwi'n deall bod sawl talaith unai wedi'n ddiweddar, neu'n bwriadu dod a deddfwriaeth 'Saesneg yn unig' i rym yn y dyfodol agos. Roedd Rhodri Nwdls (Rwdls nwdls) wedi blogio m y peth wythnos yma.
Ar un llaw dwi'n deud chwarae teg i'r boi am ffonio, yn hytrach na dragio'r peth allan - ond ar y llaw arall, pam ddim jyst cael rhywun sy'n siarad Cymraeg i ddarllen eu ebost!