Mwy o flogiau newydd
4.6.07
Gan fod yr ymateb i'r rhestr diwethaf wedi bod yn dda dyma fwy i chi
Dau yn Saesneg yn gyntaf, ond rhai pwysig iawn gan eu bod yn trafod technoleg o berspectif Cymreig a Chymraeg.
Dau yn Saesneg yn gyntaf, ond rhai pwysig iawn gan eu bod yn trafod technoleg o berspectif Cymreig a Chymraeg.
eNewyddion gan Basheera Khan o Ping Wales gyntYn ôl i'r Blogiau Cymraeg
Me Myself Why? gan Kevin Donnelly. Mae'n gwneud llawer o waith ar leoleiddio meddalwedd i'r Gymraeg. Mae'r Meddaliadur yn edrych yn gyffrous. (CAD yn Gymraeg unrhywun? - sgroliwch lawr am sgrinluniau)
Blog technoleg Mei, ble bydd Mei yn postio am bethau technoleg o hyn ymlaen. Post diwethaf am RSS yn must read os nad ydych yn gyfarwydd a beth yn union mae'n dda i.Reit, na ddigon am rwan. Gobeithio bod rhywun yn pasio rhain i gyd ymlaen at Aran ar gyfer y Blogiadur (sy'n edrych yn secsi iawn ar ei newydd wedd)!
Sion Owain, blog gan, erm...Sion Owain. Dwi'n dyfalu ei fod yn dod o lannau Clwyd, ac felly'n gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd fel fi, Mr Gasyth a Linda (?). Mae Sion hefyd wedi dechrau blog am Chwaraeon.
Petha' Bach, blog am amryw o bethau
3 sylw:
ia, cyn disgybl Glan Clwyd - ac un o nifer fach sy'n siarad Cymraeg yn Prestatyn!
sylw gan Sion Owain, 3:12 pm
Cywir Rhys...finna hefyd yn gyn ddisgybl o Glan Clwyd :)Amser maith yn ôl !
Damia, sut ddes ti ar draws hwnna?
Dwi di bod isho'i lenwi â chynnwys cyn gwneud "cyhoeddiad".
Dwi'n falch bod yr erthygl RSS o ddefnydd :-)
Dwi di bod isho'i lenwi â chynnwys cyn gwneud "cyhoeddiad".
Dwi'n falch bod yr erthygl RSS o ddefnydd :-)