Un o ddarllenwyr Blogiau Cymraeg o UDA ym Mangor
27.6.07
Stori wych ar flog Dogfael am sut bu iddo gyfarfod ag Emma Reese o Oklahoma drwy hap tra'n cael ei frecwast mewn neuadd preswyl ym Mangor.
Mae Emma yn aelod o maes-e ac yn gadael sylwadau ar sawl blog Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae hi ar gwrs preswyl Cymraeg ym Mangor, ac yn bwriadu ymweld ag Aberystwyth (a Chaerdydd?). Os digwydd i chi ei gweld, cofiwch ddweud helo wrthi.
Ar yr un trywydd, mae Omniglot (Simon), draw yn Llambed ar hyn o bryd ar gwrs preswyl Cymraeg hefyd.

Labels: aberystwyth, bangor, dysgwyr
1 sylw:
sylw gan Robert Humphries, 6:25 pm
Diolch ym yr enwebiad ynglyn â gwobrau blogio ar Maes-e, gyda llaw. Paid â becso, dydy f'ystyried fel "Americanwr Cymreig" ddim yn fy mhechu! Yn America, Cymro, neu rywun a ddaeth draws y "pond" ydw i; yn ôl yng Nghymru, mae rhai yn f'ystyried fel Americanwr.