The Red Dragonhood
20.12.06
Yn ddiweddar dois ar draws flog Martin Davies. O'i flog dilynais ddolen at wefan ei label dillad The Red Dragonhood, sy'n cynnwys crysau-T gyda dyluniadau Cymraeg a Chymreig.
I gyd-fynd â phob dyluniad mae stori neu hanes (e.e. Saunders Says a Bethesda) , ac hefyd mae Martin wedi ysgrifennu erthyglau ei hun am bynciau mae'n credu'n gryf ynddynt, llawer ohonynt yn rhai gwladgarol (fel un am arfbais Carlo, a'r iaith Gymraeg).
Er nad yw Martin yn siarad Cymraeg (ar hyn o bryd o leaif!), fe sylwch fod yr holl wefan yn ddwyieithog, sy'n dipyn o gamp o ystyried yr holl gynnwys ysgrifennedig.

Dylid dadlau dros foesoldeb yn hytrach nag economeg?
19.12.06
Ymddangosodd y llythyr canlynol gan Angus MacNeil AS yn y Telegraph wythnos diwethaf fel ymateb i ymgais diweddara y llywodraeth i ddychryn etholwyr yr Alban i beidio pleidleisio dros yr SNP (ac annibyniaeth yn y pendraw) wrth honni bod trysorlys canolog Prydain yn rhoi mwy o arain i'r Alban nag y mae'n gasglu mewn trethi.
Subsidising Scots
Sir – Has anybody from the world of Scottish Unionist politics thanked the taxpayers of England? This week Labour, Tories and the Lib Dems have taken great delight in telling the Scots that they are subsidised by over £11 billion.
These figures are, of course, disputed by the independence movement in Scotland which can cite last week's report that independent Ireland will this year achieve a budget surplus of £3.97 billion while the London Chancellor has a £34.2 billion deficit. I wonder if Ireland would flourish in such a dramatic way if still governed from London?
However, accepting the Government figures, it seems that Westminster is applying just under a third of its total deficit to support Scotland. As a Scottish nationalist I would feel deeply ashamed if I believed these figures, but Labour and the Lib Dems are entirely satisfied, if not downright proud, believing that they are taking so much from England.
Eleven billion would go a long way in England towards introducing free care for the elderly and removing student tuition fees. While telling the Scots they are being subsidised, Labour, particularly, but also the Tories and the Lib Dems are shy of telling the English they are being robbed. I wonder why.Angus MacNeil MP (SNP), London SW1
Tydi'r ddadl yma gan Unoliaethwyr ddim yn newydd i ni yng Nghymru ac yn ddi-os bydd yn cael ei ail-adrodd wrthym yn y dyfodol, a rhaid cyfaddef ei fod yn dacteg llwyddiannus o ddallu nifer o Gymry o wir botensial annibyniaeth. Y peth yw, fel mae Angus MacNeil yn nodi, nid yw'r llywodraeth fel petai nhw eisiau i'r etholwyr yn Lloegr glywed yr un neges. Y newyddion drwg yw, mae cenedlaetholwyr Lloegr yn clywed y negeseuon hyn (hyd yn oed oes yw'r stori ond yn ymddangos yn rhifyn yr Alban o'r Times ac nid yn fersiwn Cymru a Lloegr).
Dwi'n hoffi dyfyniad Gareth:
Generated By Technorati Tag Generator
Dwi'n hoffi dyfyniad Gareth:
New Labour can fool some of the people some of the time, they can fool unionists all of the time, but they certainly cannot fool the English AND Scottish nationalists at the same time.gwleidyddiaeth, annibyniaeth, cymru, alban, yralban, lloegr, welsh, scottish, independence, wales, scotland, england
Generated By Technorati Tag Generator
Radio Luxembourg + eraill, ger Y Wyddgrug: 22.12.06
18.12.06
Bfiliant
Ddim yn aml mae gigs Cymraeg yn digwydd yn y gogledd ddwyrain, a phan mae nhw, dwi byth yn yr ardal neu mae Bryn Fôn yn y lein-up.
Tro hyn, fy hoff fand sef Radio Luxembourg sy'n perfformio (gyda Derwyddon Dr Gonzo, Mr Huw a'r Llan Clan), mae'r gig yn nhafarn Mercia Inn, Mynydd Isa, ger Y Wyddgrug, a dwi am fod yno

BeenThere, 'di gwneud hynna
15.12.06
Mae tudalen teithio'r Guardian wedi bod yn defnyddio tagiau ar gyfer enwau llefydd a ffrwd, ond mae eu gwefan newydd BeenThere yn debycach fyth i wefan Web2.0.
Tydio o ddim yn syniad gwreiddiol dwi'n siwr, ond mae'n tipyn gwell na'r wefan annibynnol 43places.com, ac yn fwy deiniadol a haws i'w ddefnyddio na Virtual Tourist a Trip Advisor .
Unwaith chi'n cofrestru, gallwch

- awgrymu tips ar unai lle i ymweld/beth i'w weld (bwyty, gwesty, atyniad). Dyma un ysgrifennais ar gyfer gwesty yn Bilbao
- gytuno neu anhytuno gyda tips pobl eraill
- edrych ar proffeil pobl eraill, i weld ble/beth mae'nt wedi awgrymu, a faint mae pobl eraill yn cytuno â'u barn nhw. Dyma fy mhroffil i
- greu 'guide' eich hunain wedi ei selio ar dips gan bobl eraill. Mae'n bosib bydda i'n ymweld â Washinton DC yn y blynyddoedd nesaf (tra mae fy visa'n dal yn ddilys a thra mae ffrindiau'n dal i fyw yn yml), felly dyma restr byr dwi di llunio o'r holl dips am y ddinas
Mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio, a dwi'n siwr fe dyfith mewn poblogrwydd. Mae modd creu ffrwd ar gyfer y wefan gyfan, dinas penodol, tag penodol ar gyfer dinas (e.e. 'accommodation' yn Washington), defnyddiwr penodol, neu tag penodol gan ddefnyddiwr (e.e. 'pub' gan BenBore). Yr unig beth coll yn fy marn i yw'r gallu i fapio - dwi'n hoffi gweld pellter rhwng gwahanol lefydd a lleoliad un lle (e.g. y gwesty) mewn perthynas â llefydd eraill.
Potensial i'r Rhithfro?
O weld poblogrwydd seiat 'Crwydro' maes-e a llwyddiant ambell flog/gwefan aml-gyfranog Cymraeg annibynnol fel Pictiwrs (sinema a theledu), Bodio'r Bydysawd (gwyddonias) a Pubs Cymru (adolygu tafarndai - ok, ddim mor llwyddianus!), efallai bod potensial ar gyfer gwefan/blog/wiki deithio yn Gymraeg?

web2.0, teithio
Generated By Technorati Tag Generator
Llygedyn o obaith?
14.12.06
Stori ar Hippyshoppper am gangen McDonald's yn nhref Tavistock, Dyfniant yn cau oherwydd doedd fawr neb eisiau bwyta eu sothach. Doedd dim ymgyrch na dim yn erbyn y lle, mond bod yn well gan bobl fwyta bwyd lleol blasus o'r Farchnad Fwyd.
Ennillwch dalebau Howies a People Tree am gwbwlhau arolwg
Ar wefan y New Consumer mae dolen at arolwg gan Brifysgol Caledonia yn Glasgow. Mae'r holiadur yn gofyn am eich agweddau tuag at brynnu dillad wedi eu gwneu mewn sweatshops, a beth yw eich barn am y wybodaeth sydd ar gael i'ch helpu i wneud penderfyniad moesegol.
Tydi'r ffordd mae'r holiadur wedi'w lunio ddim yn dda ofnadwy, ond yn ogystal a chynorthwyo gyda'r gwaith ymchwil, fel allwch ennill rhai o'r canlynol:
Tydi'r ffordd mae'r holiadur wedi'w lunio ddim yn dda ofnadwy, ond yn ogystal a chynorthwyo gyda'r gwaith ymchwil, fel allwch ennill rhai o'r canlynol:
two separate £100 vouchers for People Tree (one donated by People Tree),
two separate £100 vouchers for Howies (one donated by Howies),
one £50 voucher for gonegreen,
one Ranger solar/dynamo FM/AM radio (donated by gonegreen),
two separate £25 vouchers for Neal’s Yard, and
Fair Trade shopping bags (4 donated by Rainbow Turtle).
"What ho, by George you've found the place !"
11.12.06
Fy enw i yw Rhys a dwi'n Anglophile
Wel, ddim go iawn, ond dwi jolly well wedi mopio gyda'r ail-ddangosiadau o Jeeves & Wooster sydd wedi bod yn ymddangos ar ITV4 (neu 5 neu 6 neu 8 neu beth bynnag) yn ddiweddar. Mae'n siwr bod chi gyd yn gyfarwydd â'r gyfres ddrama gomedi o'r 1990'au cynnar, ond os ddim mae'n addasiad o nofelau gan P.G. Wodehouse o'r enw'r Jeeves Stories sydd wedi eu lleoli yn y 1920'au a'r 1930'au ac yn dilyn helyntion bonheddwr Seisnig o'r enw Wooster (sy'n cael ei chwarae Hugh Laurie) a'i fwtler ffyddlon Jeeves (Stephen Fry).
Mae'r fformat yn hynod amlwg, bydd Wooster yn cael ei hun i drafferthion, fel arfer yn cael ei fwlio mewn i ddyweddiad gan ferch bonheddwr arall a Jeeves sy'n llunio cynllwyn i ddad-wneud yr holl beth. Ok, mae hyn yn swnio'n reit diflas, ond mae'r sgript yn ddoniol iawn a mae'r awdur yn cymeryd y troeth o ddobarth cymdeithasol crachach yr oes yn y cymeriadau sy'n ail-ymddanos mewn sawl rhaglen.
O ddarllen tudalen wikipedia'r gyfres, ymddangys mai'r rhaglen olaf o'r bedwaredd gyfres (sef yr olaf) a ddarlledwyr dros y penwythnos, felly bydd rhaid aros am sbel cyn eu gweld eto (- neu efallai ddim yn yr oes teledu digidol hon).

DIY + Flickr = Instructables
Dwi'n hoffi'r syniad tu cefn i Instructables, ble mae defnyddwyr yn rhannau syniadau, dyluniadau a chyfarwyddiadau o wahanol pethau maen't yn greu. Fel yn Flickr gallwch adael sylwadau ac mae gwahanol Grwpiau . Nid dim ond syniadau DIY (fel dodrefn) yn unig sy'n cael eu rhannu, ond syniadau celf, a thipiau ar ddefnyddio meddalwedd a rhyseitiau. Fel unrhyw wefan Web2.0 werth ei halen mae'n defnyddio tagiau ;-).
instructables, creu, celf, ailgylchu, web2.0, flickr
Generated By Technorati Tag Generator
Timberland yn prynnu Howies
5.12.06
Dwi dim yn siwr beth i'w wneud o'r newyddion ar Greenguy bod Howies wedi'w werthu i Timberland. Mae Timberland yn gwmni anferth (gwerth £1 biliwn yn ôl erthgyl diddorol yma yn y Times echdoe), sy'n ceisio trawsnewid ei ddelwedd yn gorfforaethol yn ogystal a'u cynnyrch.
howies, timberland
Generated By Technorati Tag Generator
howies, timberland
Generated By Technorati Tag Generator
As used on the famous Nelson Mandela (sioe Mark Thomas)
3.12.06
Prynannais docynnau i weld Mark Thomas yn Theatr y Sherman dros fis yn ôl, a bron anghofio mai nos Fercher yma mae'r sioe. Mond ar y teledu dwi wedi ei weld o'r blaen, ond aeth Geraint i'w wylio y tro diwethaf ddaeth i Gaerdydd a'i ganmol yn fawr, felly dwi'n edrych ymlaen.
Edrychiad newydd (a phroblemau newydd)
1.12.06
Fel chi'n gweld (oni bai eich bod yn darllen hwn trwy ei Darllenydd Newyddion neu'r blogiadur), dwi wedi newid fy mhatrymlun. Dwi'n ei hoffi'n fawr, ond un problem yw'r 'to bach' a'r collnodau, am ryw reswm nid ydyn't yn gweithio ar y patrymun hwn. A'i o herwydd nad yw'n batrymlun Blogger swyddogol ac felly nad yw'r dylunydd wedi cymeryd y peth i ystyriaeth?
Roedd fy nghariad yn dweud bod yr hen batrymlun yn edrych yn sinistr!. Dwi di bod eisiau blog 3 colofn ers amser, yn rhanol gan fod fy blogroll mor hir, ac hefyd er mwyn gallu ychwanegu hysbysebiad maes-e arall.