<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



BeenThere, 'di gwneud hynna

15.12.06

Mae tudalen teithio'r Guardian wedi bod yn defnyddio tagiau ar gyfer enwau llefydd a ffrwd, ond mae eu gwefan newydd BeenThere yn debycach fyth i wefan Web2.0.

Tydio o ddim yn syniad gwreiddiol dwi'n siwr, ond mae'n tipyn gwell na'r wefan annibynnol 43places.com, ac yn fwy deiniadol a haws i'w ddefnyddio na Virtual Tourist a Trip Advisor .

Unwaith chi'n cofrestru, gallwch
  • awgrymu tips ar unai lle i ymweld/beth i'w weld (bwyty, gwesty, atyniad). Dyma un ysgrifennais ar gyfer gwesty yn Bilbao
  • gytuno neu anhytuno gyda tips pobl eraill
  • edrych ar proffeil pobl eraill, i weld ble/beth mae'nt wedi awgrymu, a faint mae pobl eraill yn cytuno â'u barn nhw. Dyma fy mhroffil i
  • greu 'guide' eich hunain wedi ei selio ar dips gan bobl eraill. Mae'n bosib bydda i'n ymweld â Washinton DC yn y blynyddoedd nesaf (tra mae fy visa'n dal yn ddilys a thra mae ffrindiau'n dal i fyw yn yml), felly dyma restr byr dwi di llunio o'r holl dips am y ddinas
Mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio, a dwi'n siwr fe dyfith mewn poblogrwydd. Mae modd creu ffrwd ar gyfer y wefan gyfan, dinas penodol, tag penodol ar gyfer dinas (e.e. 'accommodation' yn Washington), defnyddiwr penodol, neu tag penodol gan ddefnyddiwr (e.e. 'pub' gan BenBore). Yr unig beth coll yn fy marn i yw'r gallu i fapio - dwi'n hoffi gweld pellter rhwng gwahanol lefydd a lleoliad un lle (e.g. y gwesty) mewn perthynas â llefydd eraill.

Potensial i'r Rhithfro?
O weld poblogrwydd seiat 'Crwydro' maes-e a llwyddiant ambell flog/gwefan aml-gyfranog Cymraeg annibynnol fel Pictiwrs (sinema a theledu), Bodio'r Bydysawd (gwyddonias) a Pubs Cymru (adolygu tafarndai - ok, ddim mor llwyddianus!), efallai bod potensial ar gyfer gwefan/blog/wiki deithio yn Gymraeg?


,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:14 am

0 sylw:

Gadawa sylw