<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



"What ho, by George you've found the place !"

11.12.06

Fy enw i yw Rhys a dwi'n Anglophile

Wel, ddim go iawn, ond dwi jolly well wedi mopio gyda'r ail-ddangosiadau o Jeeves & Wooster sydd wedi bod yn ymddangos ar ITV4 (neu 5 neu 6 neu 8 neu beth bynnag) yn ddiweddar. Mae'n siwr bod chi gyd yn gyfarwydd â'r gyfres ddrama gomedi o'r 1990'au cynnar, ond os ddim mae'n addasiad o nofelau gan P.G. Wodehouse o'r enw'r Jeeves Stories sydd wedi eu lleoli yn y 1920'au a'r 1930'au ac yn dilyn helyntion bonheddwr Seisnig o'r enw Wooster (sy'n cael ei chwarae Hugh Laurie) a'i fwtler ffyddlon Jeeves (Stephen Fry).

Mae'r fformat yn hynod amlwg, bydd Wooster yn cael ei hun i drafferthion, fel arfer yn cael ei fwlio mewn i ddyweddiad gan ferch bonheddwr arall a Jeeves sy'n llunio cynllwyn i ddad-wneud yr holl beth. Ok, mae hyn yn swnio'n reit diflas, ond mae'r sgript yn ddoniol iawn a mae'r awdur yn cymeryd y troeth o ddobarth cymdeithasol crachach yr oes yn y cymeriadau sy'n ail-ymddanos mewn sawl rhaglen.

O ddarllen tudalen wikipedia'r gyfres, ymddangys mai'r rhaglen olaf o'r bedwaredd gyfres (sef yr olaf) a ddarlledwyr dros y penwythnos, felly bydd rhaid aros am sbel cyn eu gweld eto (- neu efallai ddim yn yr oes teledu digidol hon).
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:51 pm

0 sylw:

Gadawa sylw