Edrychiad newydd (a phroblemau newydd)
1.12.06
Fel chi'n gweld (oni bai eich bod yn darllen hwn trwy ei Darllenydd Newyddion neu'r blogiadur), dwi wedi newid fy mhatrymlun. Dwi'n ei hoffi'n fawr, ond un problem yw'r 'to bach' a'r collnodau, am ryw reswm nid ydyn't yn gweithio ar y patrymun hwn. A'i o herwydd nad yw'n batrymlun Blogger swyddogol ac felly nad yw'r dylunydd wedi cymeryd y peth i ystyriaeth?
Roedd fy nghariad yn dweud bod yr hen batrymlun yn edrych yn sinistr!. Dwi di bod eisiau blog 3 colofn ers amser, yn rhanol gan fod fy blogroll mor hir, ac hefyd er mwyn gallu ychwanegu hysbysebiad maes-e arall.

5 sylw:
Mae gen ti ddau bennawd Content-Type yn yr HTML (ddim yn siwr os yw hwnna'n wall yn y templed) - un ISO-8859-1 a un UTF-8. Golyga'r cod yn Blogger a dileu y linell gynta - "charset=iso-8859-1".
sylw gan Dafydd Tomos, 5:20 pm
Hefyd, ti angen ychwanegu tag "<-br /->"(cofia ddileu y 2 -) neu <-p-><-/p-> neu ryw spacing mewn dull arall fel css, rhwng sylwadau pobl.
Diolch i chi am y cyngor, mae popeth yn edrych fel petai'n iawn rwan (unwaith byddaf wedi dileu'r cromfach)
Roedd yn well gen i'r hen batrymlun, ond wedyn tydw i ddim yn hoff o newid.
Prawf!