The Red Dragonhood
20.12.06
Yn ddiweddar dois ar draws flog Martin Davies. O'i flog dilynais ddolen at wefan ei label dillad The Red Dragonhood, sy'n cynnwys crysau-T gyda dyluniadau Cymraeg a Chymreig.
I gyd-fynd â phob dyluniad mae stori neu hanes (e.e. Saunders Says a Bethesda) , ac hefyd mae Martin wedi ysgrifennu erthyglau ei hun am bynciau mae'n credu'n gryf ynddynt, llawer ohonynt yn rhai gwladgarol (fel un am arfbais Carlo, a'r iaith Gymraeg).
Er nad yw Martin yn siarad Cymraeg (ar hyn o bryd o leaif!), fe sylwch fod yr holl wefan yn ddwyieithog, sy'n dipyn o gamp o ystyried yr holl gynnwys ysgrifennedig.

1 sylw:
Y crys-T "Rhondda" yw fy hoff.
sylw gan Chris Cope, 5:16 pm