As used on the famous Nelson Mandela (sioe Mark Thomas)
3.12.06
Prynannais docynnau i weld Mark Thomas yn Theatr y Sherman dros fis yn ôl, a bron anghofio mai nos Fercher yma mae'r sioe. Mond ar y teledu dwi wedi ei weld o'r blaen, ond aeth Geraint i'w wylio y tro diwethaf ddaeth i Gaerdydd a'i ganmol yn fawr, felly dwi'n edrych ymlaen.
3 sylw:
sylw gan Anonymous, 8:22 pm
Fe welais i fe yn Abertawe hefyd. Sut aeth y sioe Caerdydd, felly?
Telsa
, Telsa
Mi wens i ei fwynhau. Daeth Sarah gyda fi ac roed hi'n poeni na fyddai hi'n ei hofi gan ei fod yn trafod pynciau gwleidyddol, ond fel dywedodd Rhys (arall), mae rhywsut yn gallu gwneud i rhywbeth mor ddwys swnio'n ddoniol. Teimlais bod y set braidd yn hir, ond mi reoddwn i'n flinedig beth bynnag.
Dyma fo'n 'ceisio' dynwared acen de Cymru tro yma hefyd - heb fawr o lwyddiant 9er fod o'n falch iawn o'i hun - typical Llundeiniwr!)
Dyma fo'n 'ceisio' dynwared acen de Cymru tro yma hefyd - heb fawr o lwyddiant 9er fod o'n falch iawn o'i hun - typical Llundeiniwr!)
Dwi'n siŵr y gwnei di fwynhau (os elli di ddefnyddio'r gair 'mwynhau' i ddisgrifio sioe sy'n ymwneud â llygredd o fewn y diwydiant arfau).
Mae ei acen Gymreig yn hollol rybish cofia :)