Neges ar y blog arall
29.4.05
Dyma neges (wel yr unig neges erioed) a adawyd ar fy mlog susnag Smiling under Buses
Dwi'n cymeryd bod croeso i unrhywun arall gyfrannu, a dwi ddim yn siwr os allai gyfranu'n hun. Dwi yn darllen tipyn o flogiau gwleidyddol, ond maent fel arfer yn rhai sylwebol ac nid rhai gan wleidyddion (oni bai am un Seimon Thomas a'r rhai dwi wedi cyfeirio atynt eisioes yma.) Mae'n bechod nad yw dim un o'r ymgeiswyr yn fy etholaeth i yn cadw blog (wel hyd y gwyddwn ta beth).
Tydw i ddim yn ymwybodol o'r ddau flog mae Hamish yn cyfeirio at ac mae'n bur anhebygol y byddwn i eisiau darllen dim gan Tony Blair i ddweud y gwir. Hefyd dwi'n amau mai perspectif Prydeinig mae'r boi yma'n meddwl am, sy'n ddigon teg gan mai etholiad ar draws y DG yw hon, ond eto allai ond edrych arni mewn perspectif Cymreig. Ar ben hyn i gyd, er nad yw Plaid Cymru'n berffaith nhw sydd agosaf i fy naliadau gwleidyddol a chenedlaetholgar felly gallen hwn roi mul fel ymgeisydd a byddwn yn pleidleisio drosto.
Yn fy rhestr Bloglines mae na ambell blog gwleidyddol yn fy ffolderi 'Gwleidyddion/Gwleidyddiaeth', ac 'Iwerddon'
Hi Rhys,
My name is Hamish and I am currently studying a MA in journalism at Cardiff University.
I am writing an article looking at blogs and the influence they have over voters. I was wondering if you could comment on a few questions so that I can quote you. Unfortunately the article will not be published as it is an in-house assignment but may go on to the Internet at some stage.
Questions:
Do you think that blogs will influence votes in this general election?
Do you think, to be affective, blogs should be more candid such as Sandra Howard's Blog for the Conservatives or a little more formal such as Tony Blair's diary, answering questions from voters?
Which have been the most influential political blogs you have come across?
You can email me at: hamwalk@hotmail.com
Please note, I am Australian and don't speak Welsh.
Regards,
Hamish
Dwi'n cymeryd bod croeso i unrhywun arall gyfrannu, a dwi ddim yn siwr os allai gyfranu'n hun. Dwi yn darllen tipyn o flogiau gwleidyddol, ond maent fel arfer yn rhai sylwebol ac nid rhai gan wleidyddion (oni bai am un Seimon Thomas a'r rhai dwi wedi cyfeirio atynt eisioes yma.) Mae'n bechod nad yw dim un o'r ymgeiswyr yn fy etholaeth i yn cadw blog (wel hyd y gwyddwn ta beth).
Tydw i ddim yn ymwybodol o'r ddau flog mae Hamish yn cyfeirio at ac mae'n bur anhebygol y byddwn i eisiau darllen dim gan Tony Blair i ddweud y gwir. Hefyd dwi'n amau mai perspectif Prydeinig mae'r boi yma'n meddwl am, sy'n ddigon teg gan mai etholiad ar draws y DG yw hon, ond eto allai ond edrych arni mewn perspectif Cymreig. Ar ben hyn i gyd, er nad yw Plaid Cymru'n berffaith nhw sydd agosaf i fy naliadau gwleidyddol a chenedlaetholgar felly gallen hwn roi mul fel ymgeisydd a byddwn yn pleidleisio drosto.
Yn fy rhestr Bloglines mae na ambell blog gwleidyddol yn fy ffolderi 'Gwleidyddion/Gwleidyddiaeth', ac 'Iwerddon'
Gwynfor Evans (Detholiad)
28.4.05
Cerdd gan Geraint Lloyd Owen a oedd ar gefn y daflen yn angladd Gwynfor Evans ddoe:
Anail oedd gwlad ei eni, - am hynny
Y mynnodd fynd ati
I'w throi yn ardd a'i thrin hi.
Bu'n hau ar y bannau hyn, - hau breuddwyd
Ar bridd garw'i gyd-ddyn
Fel daear heb flodeuyn.
Heuwr rhyddid ar ffriddoedd - ei hen wlad
Heb ganlyn tyrfaoedd;
Heuwr ym mhob storom ydoedd.
Gwybu'r gwawd lle gwibiai'r gwynt, - wynebodd
Anobaith y cerrynt
Gan barhau i hau ar hynt
Blog Cenedlaetholgar yn Saesneg
26.4.05
Gyda theitl fel Living in the Land of Imperialism , does dim angen gofyn beth yw safbwynt yr awdur. Rwan mae nifer helaeth o flogiau'r Rhithfro gyda o leiaf hint bychan o genedlaetholdeb Cymreig yn eu cynnwys, ond hyd yma doeddwn i ddim wedi dod ar draws blog yn Saesneg gyda'r safbwynt hwn. O be dwi'n ddeall mae'r awdur yn athro hanes rhwystredig, ond dwi ddim yn siwr ym mle. Mae'n cyfeirio at CPD Dinas Caerdydd, ond hefyd mae'n sôn am y 'fraint' o ddysgu hanes i griw o ddisgyblion rhagrithiol yn Lloegr ac yna mae'n chwarae pêl-droed Americanaidd yn America. Dio ddim yn amlwg os yw'n siarad Cymraeg a'i peidio, ond beth bynnag dwi wedi gadael sylw ar ei flog ac efallai y darllenith hwn a chawn weld.
Plaid a'r SNP yn ennill ar Newsnight
Bu eitem ysgafn ar Newsnight neithiwr ble bu ymgeiswyr seneddol o 15 plaid gwahanol yn cymeryd rhan mewn 'speed dating' gyda aelodau o'r cyhoedd. Doedd yr ymgeiswyr ddim yn cael datgelu pa blaid yr oeddynt yn gynrychioli a cawsant eu sgorio ar sut oeddynt yn ymateb i gwestiynnau a ofynnwyd gan aelodau o'r cyhoedd yn Llundain mewn amryw o slotiau 3 munud. Roedd gofyn i bawb benderfynnu os fyddent yn pleidleisio dros yr unigolyn yn seiliedig ar eu atebion, ac ar y diwedd roedd y pleidleisiau'n cael eu adio i fyny. Ni ddaeth fel sioc felly i genedlaethlwr fel fi pan gyhoeddwyd y canlyniad

Llongyfarchiadau Mabon

Llongyfarchiadau Mabon
Ar ynys gyda Jarvis Cocker
22.4.05
Gan fy mod i rhywsut wedi cael fy hun yn gwnued cyfieithu ar y pryd am yr ail dro mewn wythnos heno ar gyfer noson ym Mhontypwl, mi ddois i'm gwaith ychydig yn hwyrach yn y bore. Mi olygodd hyn fy mod yn gallu gwrando ar Desert Island Disks. Mi fyddai weithiau'n clywed cip o ddechrau ambell raglen pan fyddai'n hwyr i'm gwaith ac fel arfer does gynai'm affliw o syniad pwy ddiawl yw'r gwestai ond heddiw Patrik Stewart (o Star Treck gynt) oedd y gwestai. Nid oeddwn ym meddwl rhyw lawer o'i chwaeth mewn miwsig, ond roedd ei hanes yn reit diddorol. Ond wrth i'r rhaglen orffen a minnau hefyd ar fin cyrraedd y swyddfa, dyma Sue Lawley (y cyflwynydd) yn dweud mai ei gwestai'r wythnos nesaf fydd Jarvis Cocker. Dwi'n hoff iawn o gerddoriaeth Pulp, felly bydd rhaid meddwl am esgus arall i ddod i'r gwaith yn hwyr bore Gwener nesaf.
Gwynfor Evans 1912-2005

Clywais y newyddion trist ar y radio p'nawn ddoe. Er nad oeddwn erioed wedi cwrdd â'r dyn roeddwn yn teimlo colled fawr. Yn yr oes fodern, does neb sydd wedi gwneud cymaint i godi ymwybyddiaeth y bobl o'u cendl a'u cenedlaetholdeb eu hunain. Mae modd anfon eich teyrngedau at www.gwynfor.net
Swyddog Iaith Ynys Manaw
Ddim yn gwbod y gair cywir, ai 'Iaith Manaw' neu 'Manaweg' ydi o yn Gymraeg? Ta beth mae Rosemary Derbyshire yw'r swyddog iaith newydd.
a doeddwn i ddim yn gwybod bod ysgol cyfrwng Manaweg yn bodoli;
Gwych
Diolch i Daithí
In 1992 the Manx Language Unit was formed and in 1999 Mrs Derbyshire joined its team of peripatetic teachers.
She said: 'The tide has definitely turned as far as the teaching of Manx in schools is concerned. Since the programme was introduced in 1992 it has gone from strength to strength.'
There are now 850 children having weekly Manx lessons.
a doeddwn i ddim yn gwybod bod ysgol cyfrwng Manaweg yn bodoli;
Children at the Bunscoill Ghaelgagh, the Manx medium school in St John's, have all their lessons in Manx.
Gwych
Diolch i Daithí
Petawn i'n byw ger Aberystwyth
19.4.05
byddwn yn mynychu

Dois ar draws blog Michael Nobbs sbel yn ôl, ac heb ymweld ar blog ers tipyn (ond mae nawr ar fy rhestr bloglines). Mae'r lluniau arno'n wych (gweler uchod) a byddwn wrth fy modd petawn yn gallu mynychu ei glwb darlunio.

Dim parth at neb
18.4.05
Sori, methu helpu'n hun eto, yn meddwl mod i'n gweithio i'r Sun yn dyfeisio penawdau bachog fel yr un am erthygl Domain Games. Mae'r blaid Lafur wedi cyflogi gwefeistr dadleuol o America o'r enw Zack Exley.
The Labour Party has hired Zack Exley, the controversial cyberactivist from liberal American website MoveOn.org, according to Silicon. As of now, there is little known about what exactly Exley will be doing for Labour.Tra nad oes neb yn siwr eto beth fydd ei rôl, mae'n amlwg fod gan y pleidiau eraill dric (budur) neu ddau fyny eu llawes hefyd;
Exley originally made a name for himself through “cybersquatting” – the practice of buying up an internet domain in the name of a party or politician and using it to help the opposing side. He purchased the domain name gwbush.com in the late 1990s for $70, and he used the site to post doctored photos of George W. Bush snorting cocaine and drinking.
The Conservative Party claims that several websites with party leader Michael Howard’s name have already been registered by the Labour Party. Labour is not alone in its cybersquatting, however. The Lib Dems have come under fire for registering plaid-cymru.co.uk, and the Conservatives themselves own both tonyblairmp.com and tonyblairmp.net.
Gwrthdystio yn Bilbao
Yn mis Chwefror, cafwyd gwrthdystiad yn erbyn cyfyngiadau i hawliau sifil yng ngwlad y Basg ei drefnu yn Bilbao gan y mudiad 18/98+. Yn eironig cafodd llond 15 bws o brotestwyr eu troi yn ôl gan blismyn. Stori gan Berria (fersiwn Saesneg)
Tebyg i bwy wyt ti?
15.4.05
Dwi wedi ychwanegu blog Sturat Dickson at fy rhestr bloglines yn ddiweddar. Mae gan gefnogwr plaid yr SNP ac mae'n canolbwyntio'n gyfan gwbwl bron ar yr etholiad seneddol yn yr Alban. Mae'n ganddo fwy o obsesiwn gyda 'odd's' y gwahanol bleidiau na GT.
Mae Stuart wedi dod o hyd i wefan o'r enw The Public Whip, sy'n cymharu eich safbwynt chi at saith pwnc llosg gyda safbwynt eich aelod seneddol presenol ac hefyd safbwyntiau y prif bleidiau (gan gynnwys Plaid Cymru os ydych yng Nghymru wrth). Y saith pwnc yw:
- foundation hospitals (be di'r term Cymraeg?)
- ffioedd top-up myfyrwyr
- deddfau gwrth-derfysgaeth
- Rhyfel Irac
- cardiau adnabod
- gwahardd hela llwynogod
- hawliau hoywon
Dyma fy nghanlyniadau i:
(yr is yw'r rhif, y tepycach ydynt i'm safbwynt i)
Plaid Lafur - Neutral with you 0.52
Cyn AS (Llafur) - Neutral with you 0.57
Ceidwadwyr - Neutral with you 0.45
Dem Rhyd - Agree with you 0.19
Plaid Cymru - Agree with you 0.27
Ok, tydi o ddim yn berffaith

Ieithoedd llefafrifol ar y we
11.4.05
Ymchwil gan UNESCO i’r defnydd o ieithoedd lleafrifol ar wefannau, boed yn wefannau annibynol neu’n rhai sy’n perthyn i sefydliadau. Manylion oddi ar Eurolang.
Ydw i'n troi'n wleidyddgi?
1.4.05
Er mai hwn yw fy ail bost mewn dau ddiwrnod am wefannau sy’n ymwneud a’r etholiad genedlaethol, does dim llawer o ddiddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth pleidiol. Tra’n ymchwilio Feedster dyma fi’n dod ar draws gwefan So who do we fot for?, gwefan gan bleidleiswyr Llafur sydd wedi cael digon. Mae modd trafod am nifer o etholiadau Cymru, ac mae’r wefan hefyd yn cynnig llety i flogiau ymgeiswyr pleidiau eraill! Un o’r rhain yw blog Mark Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dyffryn Clwyd.
Hefyd ar Feedster, dyma fi'n dod ar draws blog Delyn Democracy, sef blog annibynol yn dadansoddi ymgyrchoedd ymgeiswyr etholaeth Delyn.
Sgwn i os all rhywun o’r rhithfro berswadio un o ymgeiswyr etholaeth Islwyn i gadw blog?
[gol]
Newydd ddod o hyd i wefan Mark Young sy'n ymgeisydd annibynol yn Nyffryn Clwyd, sydd hefyd yn cadw blog ynglyn a'i ymgyrch. Mae fy rhieni yn byw tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych a mae nhw yn etholaeth Gorllewin Clwyd, sydd braidd yn rhyfedd.