<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ieithoedd llefafrifol ar y we

11.4.05

Ymchwil gan UNESCO i’r defnydd o ieithoedd lleafrifol ar wefannau, boed yn wefannau annibynol neu’n rhai sy’n perthyn i sefydliadau. Manylion oddi ar Eurolang.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:37 am

3 sylw:

Dyw dy ddolen i'r wefan UNESCO (ai dyma hi?)ddim yn gweithio ond mae'r erthygl ar Eurolang yn hynod ddifyr gan ein bod yn ei weld ar waith yn ddyddiol.

Yn sicr mae angen cymryd cam ymlaen rwan a chreu cystadleuaeth i sdwff y BBC. Debyg taw arian ac amser ydi'r pethau sy'n rhwystro'r cam hyn ymlaen. Lle all rywun gael ffrydiau refeniw o wefannau Cymraeg? Mae hi'n annodd coelio y gall hysbysebu ddiwallu hyn.
sylw gan Blogger Nwdls, 12:00 pm  

Wedi sortio'r linc rwan gobeithio, er doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i wybodaeth am yr arolwg arno ta beth yn anffodus - ella dria i eto.

Heb law am maes-e a'r 'ffrwydriad' blogiau does dim llawer arall, er mae synaid Lleisiau'n un dwi'n hoffi ac hefyd mae unarddeg.com yn rhywbeth unigryw (yn Gymraeg), hynny yw gwefan wedi ei greu ar gyfer pwnc/diddordeb penodol.
O ran cystadleuaeth 'Gymry'r Byd' mae gyda chi yn Saesneg rhywbeth o'r enw Ping Wales sy'n wasanaeth newyddiom ac hefyd mae Indy Wales (sydd hefyd gyda opsiwn Cymraeg gweddol dda). Dwi'n falch bod cylch busnes wedi ei sefydlu ar maes-e, a dwi'n credu bod angen mwy
o bethau fel hyn (cwlwmbusnes.com gyda potensial os yw pobl yn ei ddefnyddio). Dwi ddim yn gwbod beth yw potensial creu refeniw o hysbysebion ar hyn o bryd achos hyd y gwyddwn i, oni bai am ryw 1000 - 1500 o aelodau maes-e, tydi siaradwyr Cymraeg eraill ddim yn meddwl chwilio ama beth Cymraeg ar y we - er unwaith chi mewn does dim dianc! Gwni os yw Nic wedi gwneud ei filiwn (neu mil) cyntaf eto gyda hysbysebion maes-e?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:17 pm  

Ew, rioed wedi gweld PingWales o;r blaen.

Mae na NewsWales hefyd i'w weld yn lle anibynnol ar gyfer newyddion.

Pam nad ydi gwefan S4C yn darparu gwasanaeth gwell? Ydi hyn oherwydd eu bod yn teimlo fod y BBC yn diwallu hyn yn ddigonol?

Mae'n wir fod Lleisiau yn syniad ardderchog, ond mae angen i bobol ymroi iddi, a does neb cweit wedi eto (a dwi'n euog o hyn gymaint a neb). Efallai fod angen man perthnasol i drafod y wefan yn hytrach na'i thrafod ar sylwadau y wefan ei hun er mwyn ysgogi sylwadau a chael pawb i wthio eu gilydd mlaen.

Mae'n gret fod gan y beirdd eu man eu hunain yn Cynghanedd.com sydd yn edrych yn le go brysur.

Ma ana hefyd Pictiwrs.com cofia! ;-)
sylw gan Blogger Nwdls, 8:42 pm  

Gadawa sylw