<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blog Cenedlaetholgar yn Saesneg

26.4.05

Gyda theitl fel Living in the Land of Imperialism , does dim angen gofyn beth yw safbwynt yr awdur. Rwan mae nifer helaeth o flogiau'r Rhithfro gyda o leiaf hint bychan o genedlaetholdeb Cymreig yn eu cynnwys, ond hyd yma doeddwn i ddim wedi dod ar draws blog yn Saesneg gyda'r safbwynt hwn. O be dwi'n ddeall mae'r awdur yn athro hanes rhwystredig, ond dwi ddim yn siwr ym mle. Mae'n cyfeirio at CPD Dinas Caerdydd, ond hefyd mae'n sôn am y 'fraint' o ddysgu hanes i griw o ddisgyblion rhagrithiol yn Lloegr ac yna mae'n chwarae pêl-droed Americanaidd yn America. Dio ddim yn amlwg os yw'n siarad Cymraeg a'i peidio, ond beth bynnag dwi wedi gadael sylw ar ei flog ac efallai y darllenith hwn a chawn weld.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:49 pm

0 sylw:

Gadawa sylw