<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ydw i'n troi'n wleidyddgi?

1.4.05

Er mai hwn yw fy ail bost mewn dau ddiwrnod am wefannau sy’n ymwneud a’r etholiad genedlaethol, does dim llawer o ddiddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth pleidiol. Tra’n ymchwilio Feedster dyma fi’n dod ar draws gwefan So who do we fot for?, gwefan gan bleidleiswyr Llafur sydd wedi cael digon. Mae modd trafod am nifer o etholiadau Cymru, ac mae’r wefan hefyd yn cynnig llety i flogiau ymgeiswyr pleidiau eraill! Un o’r rhain yw blog Mark Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dyffryn Clwyd.
Hefyd ar Feedster, dyma fi'n dod ar draws blog Delyn Democracy, sef blog annibynol yn dadansoddi ymgyrchoedd ymgeiswyr etholaeth Delyn.

Sgwn i os all rhywun o’r rhithfro berswadio un o ymgeiswyr etholaeth Islwyn i gadw blog?


[gol]


Newydd ddod o hyd i wefan Mark Young sy'n ymgeisydd annibynol yn Nyffryn Clwyd, sydd hefyd yn cadw blog ynglyn a'i ymgyrch. Mae fy rhieni yn byw tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych a mae nhw yn etholaeth Gorllewin Clwyd, sydd braidd yn rhyfedd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:18 am

0 sylw:

Gadawa sylw