<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ar ynys gyda Jarvis Cocker

22.4.05

Gan fy mod i rhywsut wedi cael fy hun yn gwnued cyfieithu ar y pryd am yr ail dro mewn wythnos heno ar gyfer noson ym Mhontypwl, mi ddois i'm gwaith ychydig yn hwyrach yn y bore. Mi olygodd hyn fy mod yn gallu gwrando ar Desert Island Disks. Mi fyddai weithiau'n clywed cip o ddechrau ambell raglen pan fyddai'n hwyr i'm gwaith ac fel arfer does gynai'm affliw o syniad pwy ddiawl yw'r gwestai ond heddiw Patrik Stewart (o Star Treck gynt) oedd y gwestai. Nid oeddwn ym meddwl rhyw lawer o'i chwaeth mewn miwsig, ond roedd ei hanes yn reit diddorol. Ond wrth i'r rhaglen orffen a minnau hefyd ar fin cyrraedd y swyddfa, dyma Sue Lawley (y cyflwynydd) yn dweud mai ei gwestai'r wythnos nesaf fydd Jarvis Cocker. Dwi'n hoff iawn o gerddoriaeth Pulp, felly bydd rhaid meddwl am esgus arall i ddod i'r gwaith yn hwyr bore Gwener nesaf.
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:02 pm

0 sylw:

Gadawa sylw