<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tebyg i bwy wyt ti?

15.4.05

Dwi wedi ychwanegu blog Sturat Dickson at fy rhestr bloglines yn ddiweddar. Mae gan gefnogwr plaid yr SNP ac mae'n canolbwyntio'n gyfan gwbwl bron ar yr etholiad seneddol yn yr Alban. Mae'n ganddo fwy o obsesiwn gyda 'odd's' y gwahanol bleidiau na GT.
Mae Stuart wedi dod o hyd i wefan o'r enw The Public Whip, sy'n cymharu eich safbwynt chi at saith pwnc llosg gyda safbwynt eich aelod seneddol presenol ac hefyd safbwyntiau y prif bleidiau (gan gynnwys Plaid Cymru os ydych yng Nghymru wrth). Y saith pwnc yw:

- foundation hospitals (be di'r term Cymraeg?)
- ffioedd top-up myfyrwyr
- deddfau gwrth-derfysgaeth
- Rhyfel Irac
- cardiau adnabod
- gwahardd hela llwynogod
- hawliau hoywon

Dyma fy nghanlyniadau i:
(yr is yw'r rhif, y tepycach ydynt i'm safbwynt i)

Plaid Lafur - Neutral with you 0.52
Cyn AS (Llafur) - Neutral with you 0.57
Ceidwadwyr - Neutral with you 0.45
Dem Rhyd - Agree with you 0.19
Plaid Cymru - Agree with you 0.27

Ok, tydi o ddim yn berffaith
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:38 am

5 sylw:

Fy nghanlyniadau. Y broblem yw, dyw e ddim yn gofyn pa un o'r issues 'ma yn fwy pwysig i ti. Yr unig peth dw i'n anghytuno â Simon Thomas drosto, o'r rhestr 'ma, yw gwahardd hela (dw i'n neutral, mae e yn erbyn), ond mae hynny yn isel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau. 'Sai Plaid Cymru o blaid y rhyfel, fyddwn i ddim yn gallu pleidleisio drostynt, ac mae'r un peth yn wir am garcharu heb drial, ac efallai cardiau ID.
sylw gan Blogger Nic, 3:11 pm  

Sori, postiais i yn rhy glou.

... ond dw i ddim yn debyg i bleidleisio dros y Lib Dems dim ond oherwydd eu bod nhw'n agosach at fy safbwynt i ar hela.

A chan fod ymgeisydd y Lib Dems yn aelod o'r Countryside Alliance, dyw e ddim yn debyg iawn ei fod e'n agosach at fy safbwynt i ar hwnna chwaith, beth bynnag mae ei blaid yn ei ddweud.
sylw gan Blogger Nic, 3:18 pm  

I gymharu a gwefannau tebyg ble chi'n cymharu eich safbwyntiau chi gyda rhai yr ymgeiswyr, hwn yw'r unig un sy'n cymeryd sefyllfa Cymru i ystyriaeth (hy yn cynnwys PC) ond toes dim cymaint o opsiynnau/pynciau a rhai o'r gwefannau eraill.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:51 am  

Mae'n argymell fi i bleidleisio i'r Dem Rhydd a hynny gan fy mod i'n cytuno â gwahardd hela tra bo PC yn erbyn gwahardd hela.

Dwi'n cytuno 89% â'r Dem Rhydd ac 80% â PC yn ôl y rhestr.
sylw gan Blogger Gary, 10:15 pm  

sylw gan Blogger cridlyn, 12:04 pm  

Gadawa sylw