<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yr hawl i sefyll mewn gêm bêl-droed (Bradford City yn arwain y ffordd)

12.5.09

Es i a'm ffrind i wylio Everton ar y penwythnos. Dyna'r tro cyntaf i fi wylio gêm byw yn Uwch Gynghriair Lloegr ers i mi fod â thocyn tymor i wylio Everton yng nghanol y 1990'au. Pendefynais roi'r gorau i fy nhocyn tymor pryd hynny gan fy mod i ar fin dechrau yn y brifysgol ac i fod yn onest roedd yn llawer mwy o hwyl sefyll ar y kop yn Wrecsam (a oedd yn gwneud yn reit da ar y pryd) - roeddwn yn teimlo'n agosach at gefnogwyr Wrecsam (yn llythrenol weithiau!).

Tros y blynyddoedd dw i wedi bod yn ymweld â gwahanol faesydd pêl-droed i wylio Wrecsam a Chymru, a dw i'n gweld bod llai o glybiau yn caniatau sefyll. Yn un peth, mae'n llawer gwell gyda fi sefyll - dw i'n teimlo'n rhan o'r gêm bron, tra'n teimlo'n reit detached wrth eistedd. Hefyd os meiddiwch chi sefyll a chanu, mae stiwardiaid ar eich cefn yn syth yn bygwth eich taflu allan o'r maes.

Gan nad ydw i'n gwerthfawrogi cael fy nhrin fel plentyn/dihiryn ar ôl talu tua £20 am docyn a gwario arian a threulio oriau'n teithio i'r gêm, dw i wedi penderfynnu mynychu llai a gemau, a dim ond mynd i faesydd ble mae modd sefyll. Yn anffodus, mae Wrecsam wedi cau'r Kop y tymor yma sydd newydd ddod i ben, gyda'r gobaith o adeiladu EISTEDDle newydd yn ei le, felly does dim opsiwn sefyll i'w gael bellach ar y Cae Ras. Mae Abertawe a Caerdydd rwan yn chwarae mewn meysydd seddi'n unig hefyd.

Daeth llygedyn o obaith wythnos diwethaf pan dderbyniais e-bost gan Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed gyda'r newyddion am arbrawf yn Bradford.
Safe Standing a step closer at Bradford

Back in 2008 we wrote that Bradford were sympathetic towards supporters' wishes to stand so it’s pleasing to see the Bantams' wait for Safe Standing could soon be over. Every survey shows that around 90 per cent of fans are in favour of Safe Standing areas and Stand Up For The Bantams is campaigning to raise funds in order to pay for a trial at Valley Parade. If you would like to get involved email Stand Up For The Bantams today. To hear more about the FSF's work on Safe Standing email Colin Hendrie.

Yn ddigon eironig, yn Valley Parade tua 3 tymor yn ôl y profias i stiwradiad mwya bygythiol tuag at bobl oedd yn meiddio sefyll (yn rhes gefn yr eisteddle o bob man!), ond mae'n newyddion da - gobeithio bydd mwy o wybdaeth ar gael yn fuan.

Beth sy'n amlwg yw y bydd yna rywfaint o gost (er ddim llawr) yn gysylltiedig a'r cynllun uchod, a bydd eisiau rhyw rigmarol o adroddiadau iechyd a dioglewch a stiwardio 'arbennig' ayyb. Byddai'n arbed llawer o amser ac arian petai cynllun o'r fath yn cael ei ystyried wrth adeiadu neu addasu meysydd pêl-droed o hyn ymlaen.

Beth sy'n gwneud yr holl beth yn fwy annheg yw'r anhysondeb. Mae Scarlets Llanelli newydd adeiladu stadiwm newydd gyda ardal sefyll pwrpasol, a deallaf bof Dreigiau Gwent am wneud yr un fath. Cewch sefyll i wylio rygbi a rasio ceffylau ac hefyd mewn rhai o'r meysydd pêl-droed mwyafmodern yn Yr Almaen.

Hefyd, tra'n gwylio Everton ar y penwythnos, fe sefodd pob un o gefnogwyr eu gwrthwynebyr (Spurs) drwy gydol y gêm heb unrhyw ymyraeth - da iawn nhw ddweda i. A'r gwahaniaeth mawr oedd fe wnaeth y 1,500 o gefnogwyr Spurs ganu drwy'r gêm, tra na wnaeth cefnogwyr Everton smic. Mae mynd i wylio Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yn brofiad digalon hefyd, gan bod dim awyrgylch yno.

Mae erthygl dda yn y Guardian (o 2007) yn rhoi'r dadl yn glir iawn mai camgymeriad oedd y gwaharddiad ar sefyll yn dilyn trychineb Hillsbrough.

Hefyd ar wefan Stand Up Sit Down mae erthyglau gwych yn esbonio manteision sefyll o ran y clybiau ac o ran y cefnogwyr.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:00 pm

2 sylw:

Hen bryd ddyweda' i. Mewn unrhyw faes yn y byd mae'r awyrgylch cymaint yn well pan fydd meysydd yn caniatáu i bobl sefyll. Un o'r rhesymau nad ydi Stadiwm y Mileniwm â chystal awyrgylch â Pharc yr Arfau ydi'r diffyg llefydd i sefyll - mae pobl yn fwy parod i ganu a llafarganu wrth sefyll - fysa'n braf gweld hynny'n ôl ym mhêl-droed (a rygbi)
sylw gan Blogger Hogyn o Rachub, 9:01 am  

Yn sicr mae'n haws/mwy naturiol llafar ganu wrth sefyll na phan ydych ar eich heistedd.

Ffactor arall yw'r gallu i ymgasglu gyda chefnogwyr eraill sy'n dymun gwneud yr un fath.

Tydy o ddim ots pa mor awyddus ydw i i ganu, os ydw i'n eistedd ymysg pobl sydd a dim bwriad o gwbl o ganu, yna dw i'n mynd i deimlo'n rhy swil i floeddio ar ben fy hun - yn wir baswn i'n ymddangos fel tipyn o granc.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:15 am  

Gadawa sylw