<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Golygfeydd o Gaerdydd o'r awyr ar Virtual Earth gan Microsoft

29.1.07

Ar y blog Hint of Sarcasm mae dolen at olygfeydd o Gaerdydd o'r awyr trwy Virtual Earth. Dwi wrth fy modd gyda pethau fel hyn. Lwcus cafodd ei dynnu o'r ddiwrnod cymylog, neu byddai llun ohona i'n torheulo'n borcyn yn fy ngardd (yn y llun ar y chwith).

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:54 pm | dolen | 2 sylw |

David Rovics / Attila the Stockbroker / Robert Minhinnick: Caerdydd 11.2.07

I godi arian at y Palestine Solidarity Campaign, mae Siop Oyster yn trefnu noson o gerddoriaeth a barddoniaeth yn nhafarn Callaghans yng Nghaerdydd ar y nos Sul y 11eg o Chwefror.
Cyfle i glywed David Rovics, Attila the Stockbroker a Robert Minhinnick.
Tocynnau £7 (£5 gostyngiadau) ar y drws neu o siop Oyster.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:34 pm | dolen | 0 sylw |

Parcio, Plaid Cymru a Swingers

25.1.07

Dwi'n aml yn diawlio fod pobl yn poeni cyn-lleied am wledyddiaeth, ond yn ystod y flwyddyn diwethaf mae trigolion Treganna fel petai nhw wedi eu radicaleiddio. Mae refferendwm tyngedfenol ar y gorwel (wel, yfory i fod yn fanwl gywir). Na, nid sôn am annibyniaeth i Gymru mae nhw, nac ychwaith a ddylai Prif Weninidog Prydain gael ei erlyn am ddweud celwydd i'n arwain at ryfel anghyfiawn yn Irac - on drhywbeth llawer pwysicach sef 'parcio'. Mae'r cyngor (sy'n cael ei redeg gan y Dem Rhydd, nd sydd heb fwyafrif) wedi cynnig Parthau Parcio Rheoledig mewn sawl man yn y ddinas gan gynnwys Treganna.

Heol y Bontfaen Dwyreiniol (Cowbridge Rd East) yw stryd fawr Treganna, a dyma'r ail ganolfan siopa lleol fwyaf yn y ddinas ar ôl ardal Heol Albany/Heol y Plwca (Albany/City Rd) yn y Rhath. Dyma hefyd yw prif ffordd mewn i ganol y ddinas o'r gorllewin. Y gŵyn yw bod dim lle i barcio a bod pobl yn parcio ar y strydoedd a bod siopwyr a gweithwyr yn parcio yn y strydoedd cyfagos. Y ddadl yw os byddai rheolaeth parcio ar y strydoedd yma'n unig yna byddai pobl wedyn yn parcio ym mannau eraill yn Nhreganna i osgoi talu.

Yn bersonol dwi'n erbyn y syniad gan y bydd yn ei wneud yn anodd i mi barcio o flaen fy nhŷ - a bydd rhaid imi dalu am y fraint mae'n debyg. Gall hyn fod yn safbwynt hunanol, gan mai prif bwrpas y cynllun yn ôl y cyngor yw ei wenud yn haws i siopa a bod bysiau yn gallu teithio'n gynt. Mae llawer yn amau eu hargymhellion ac hefyd yn poeni bydd pethau'n waeth yn hytrach na gwell. Bu ymgynghoriad cyhoeddus ble honnwyd gan y cyngor bod y mwyafrif o drigolion o blaid y cynllun, ond dwi'n amau hyn yn fawr gan fod posteri yn ei wrthwynebu ym mhob siop a mwyafrif o dai.

Oherwydd yr holl gwrthwynebiad, mae yna refferndwm am fod.

Os rhywbeth, mae dulliau'r cyngor o gyflwyno a hyrwyddo'r cynllun wedi codi gwrychyn y gwrthwynebwyr yn fwy na chynnwys y cynllun ei hun.

Ar y stryd dydd Sadwrn roedd sawl person yn codi ymwybyddaieth am y refferendwm ac yn ceisio annog pobl i bleidleisio na. Es i siarad ag un am y refferndwm. Dwedodd y ddynes bod rhaid i'r cyngor fod yn ofalus (wel yr aelodau etholedig beth bynnag) gan bod etholiadau lleol ddim yn bell, a hanner ffordd drwy'r sgwrs dyma'r ddynes yn dweud:
"You're really Welsh aren't you?"
"How do you mean?" meddai fi "We're all Welsh aren't we?" Gan wybod yn iawn fod hi'n cyfeirio at fy acen a mod i'n siaradwr Cymraeg.
"No, you're Welsh Welsh. I never though I'd go that way, but the Plaid Cymru people have been really helpfull. Labour haven't been any help- they don't want to know" (Llafur yw'r tri cynghorydd ar gyfer ward Treganna).
Dwi digwydd bod yn bleidleisiwr Plaid Cymru, mond achos dwi ddim yn Unoliaethwr, ond o'r diwedd mae'n edrych fel bod y blaid wedi gwneud rhywbeth yn iawn ac y gallant elwa ohono!

Rhywbeth arall doniol am yr ymgyrch yw y daeth 5 taflen trwy'r post ddoe; 3 yn dweud 'Na' a 2 yn dweud 'Ie'
Na:
Ie:
  • un gan drigolion lleol (ond mae pobl yn ammau mai un gan y cyngor ydi o)
  • un gan Bus Users UK (pam 'Uk' gan mai mond Cymru a Lloegr mae'n gyfrifol amdano?)

Difyr.

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:48 pm | dolen | 3 sylw |

Ffansi Ffarmwr?

24.1.07

Newydd gael sioc wrth ddarllen straeon diweddaraf o wefan newyddion y BBC. Cliciais ar y teitl rhyfedd, Lluniau potel i chwilio am ddêt, a gweld llun Iwan fy nghefnder yn hwrio ei hun ar ochr poteli llefrith.

Dwi'n ceisio cysuro fy hun mai mond gwneud hyn i hyrwyddo cwmni cydweithredol Calon Wen y mae Iwan, gan ei fod yn gyfarwyddwr arno. Er, mae Iwan yn digwydd bod yn sengl ar hyn o bryd ac yn uffern o foi, felly os ydych yn ferch ac yn Ffansio Ffarmwr, byddwch yn wallgo i beidio ag ymweld â pishyn.com.

*nid llun Iwan sydd ar y poteli yn y llun, ond fo sy'n dal y botel yn erthygl y BBC.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:57 pm | dolen | 6 sylw |

Dal dy dîn

17.1.07

Wwwwps!
Wwwwps!,
llun gwreiddiol gan ffototawe.
Rhaid fi rannu hwn gyda chi. (Dyma'r tro cyntaf i mi bostio blog sydd o Flickr).
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:07 pm | dolen | 2 sylw |

Rhag ein cywilydd ni

Ar hyn o bryd mae rhaglen deledu Resoration yn dilyn Griff Rhys Jones wrht iddo adnewyddu hen dy fferm yn dŷ hâf. Tydw i heb wylio'r rhaglen, a dwi ddim am feiriandu'r syniad gan fod yr adeilad yn wag ac yn fyrddyn, a'r gobaith yw ei osod drwy gydol y flwyddyn (nid bod hynny'n ei wneu yn iawn), ond dyma'n fy atgoffa o erthygl nawddoglyd a ysgrifennwyd am y prosiect yn y Guraniad dros y nadolig gan yr awdur Niall Griffiths. Dyma'r baragraff a'm gwilltiodd:
He’s rediscovered his Welshness, now that it’s no longer widely seen as shameful to hail from that country, and his keen participation in the Trehilyn project is seen by some as disingenuous and smacking of self-redress.
Ers pryd fuodd hi'n gywilydd dod o Gymru? Os dwi'n cofio'n iawn, Sais yw Niall Griffiths sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac mae wedi ysgrifennu sawl nofel ffuglen am fywyd yng Nghymru. A'i ni'r Cymru oedd fod i deimlo cywilydd, neu a'i pobl o'r tu allan oedd yn ein ystyried yn gywilyddus?

,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:01 pm | dolen | 3 sylw |

Sdwff am ddim

Gyda rhifyn diweddar o'r Guraniad roedd atodiad o'r enw Free Stuff Guide 2007. Mae'n lyfryn 80 tudalen yn llawn awgrymiadau am bethau am ddim, o fwyd, gwyliau, dillad, offer tu ac hefyd meddalwedd a gwefannau. Roeddwn wedi clywed am Gmail, OpenOffice ayyb, ond roedd sawl un arall yno oedd yn gwbwl newydd i mi - werth ei ddarllen.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:52 am | dolen | 0 sylw |

Pimpiwch y byrbryd

10.1.07

Daeth ffrind i ni draw dros dolig gyda thamaid o Twix, ond nid un arferol oedd o, ond un anferth oedd hi a'i nith wedi bod yn greu ar gyfer y wefan Pimp that Snack!. Tydi'r i ddim i'w weld ar-lein eto, ond rhaid edmygu brwdfrydedd a'r ymdrech mae bobl yn roi mewn i'r peth. Fy ffefrynnau i yw'r Tyrannosaurus Toffee Crisp a'r Retro Wagon Wheel.

Mae rhai lluniau ar Flickr hefyd.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:27 pm | dolen | 4 sylw |

Sgorio yn Blogio

Bues ar wefan Sgorio sbel yn ôl a synnu pa mor gynhwysfawr oedd o, gyda'r canlyniadau, tablau a rhestr prif sgorwyr o brif gynrheiriau Ewrop arno. Wrth ail-ymweld heddiw sylwais bod blog gan un o'r cyflwynhwyr/gohebwyr. Dwi heb wylio'r rhaglen ers tipyn (mae wedi fy amser gwely), felly doeddwn ddim yn nabod Nicky, ond da o beth bod gan y rhaglen ei flog ei hun hefyd. Does dim porthiant ar gael ar hyn o bryd, ond e-bostiais cwmni'r Nant yn awgrymmu byddai'n syniad da, fel gallant gael eu cynnwys ar blogiadur.com a welshblogs.com.

Dau raglen arall ar S4C sydd gyda gwefannau annibynnol da gan y cwmni cynhyrchu yw Ffermio a Bandit. Mae gan Bandit flog hefyd, mae pyst Huw Evans yn werth eu darllen, a nid dim ond am yr holl luniau o bobl tewnoeth mae'n bostio arno'n rheolaidd!.

, , , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:41 am | dolen | 3 sylw |

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? (Ble mae'r siaradwyr Gwyddeleg?)

5.1.07

Mae erthygl yn y Guardian gan Manchán Magan, sef cyflwynydd rhaglen No Béarla ar TG4 yn Iwerddon. Mae'r rhaglen yn dilyn fformat tebyg iawn i Popeth yn Gymraeg, wrth i Manchán fynd o gwmpas Iwerddon yn defnyddio'r iaith Wyddeleg yn unig. Yn ôl ei erthygl, nid chafodd chystal ymateb ar y cafod Ifor ap Glyn, ond fel mae Nic yn dweud, efallai bod gan arddull Manchán a'r ffaith bod y camra'n guddiegid rhywbeth i'w wneud a'r peth (wel, yn ôl Rhifyn 1, 2 a 3 ar YouTube beth bynnag - bit nad yw wedi eu tagio'n fwy cyson!).

Dyma bigion o'r ymatebion (ond darllennwch yr erthygl i gael y cyd-destun)

Wrth geisio prynnu map mewn swyddfa Ordnance Survey Office (sefydliad rhannol-gyhoeddus):
"Do you speak English?" he asked in a cold, threatening tone. "Sea," I said, nodding meekly. "Well, can you speak English to me now?" I told him as simply as I could that I was trying to get by with Irish.

"I'm not talking to you any more," he said. "Go away."

Wrth ofyn am gyfarwyddiadau yng Nghanolfan Ymwelwyr Dulyn:

I explained what I was trying to do. "Well, mate, I don't actually speak Irish, so ... " he paused menacingly and I tried to smile encouragingly, "so, If you speak English, I'll be able to understand what you're saying."

"Béarla only - English only," said his supervisor, standing sternly behind him, repeating it a second time in case I was slow.
Does dim lot am No Béarla ar Blogger Blog Search, Technorati na Irishblogs.ie (well ddim yn Saesneg ta beth), ond efallai bydd mwy wedi i'r gyfres ddechrau (nos Sul yma).

Tra'n chwilota, dois ar draws blogiwr sydd wedi bod yn e-bostio banciau yn Iwerddon yn holi beth yw eu polisi iaith Gwyddeleg.

, , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:55 am | dolen | 1 sylw |

Google ar goll yn y gorllewin

3.1.07

Stori bach ddoniol (a hwyr) o Ping Wales am faner hysbysebu gan Google yn hyrwyddo eu gwasaneth Google Maps. Yn anffodus, yn enwedig o ystyried natur y wefan dyma nhw'n llwyddo lleoli pentref Bethlehem ym Mowys yn hytrach nag yn Sir Gaerfyrddin.

Sôn am Google Maps, sylwais yn ddiweddar bod enwau strydoedd Caerdydd yn ymddangos yn Gymraeg. Efallai bod hyn i wneud â dewisiadau iaith fy mhorwr.

, , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator


postiwyd gan Rhys Wynne, 10:40 am | dolen | 4 sylw |