<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Google ar goll yn y gorllewin

3.1.07

Stori bach ddoniol (a hwyr) o Ping Wales am faner hysbysebu gan Google yn hyrwyddo eu gwasaneth Google Maps. Yn anffodus, yn enwedig o ystyried natur y wefan dyma nhw'n llwyddo lleoli pentref Bethlehem ym Mowys yn hytrach nag yn Sir Gaerfyrddin.

Sôn am Google Maps, sylwais yn ddiweddar bod enwau strydoedd Caerdydd yn ymddangos yn Gymraeg. Efallai bod hyn i wneud â dewisiadau iaith fy mhorwr.

, , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator


postiwyd gan Rhys Wynne, 10:40 am

4 sylw:

newydd edrych ar hwn fy hyn. Na mae nhw yn y Gymraeg !
Da iawn Google !
Alun
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:40 pm  

Ond ydi dy borwr di wedi ei osod yn Gymraeg?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:16 am  

Ddim byd i wneud a Google neu dewis iaith. Mae'r data am strydoedd yn cael ei gyflenwi gan gwmni TeleAtlas, sydd yn ei tro yn derbyn rhestrau gan y Cyngor lleol fel 'overlay' (i ddefnyddio term GIS).

Mae'n edrych i fi fel petai yr haen enwau strydoedd i Gaerdydd yn rhoi dau label (Cymraeg/Saesneg) i rhai strydoedd. Mae'r mapiau, ar bob graddfa, wedi cael eu llunio yn awtomatig, sydd yn golygu fod meddalwedd yn penderfynu pa fanylion i ddangos ac os oes lle i roi label (sydd yn dibynnu ar lled a hyd y stryd ayyb).

Felly ar rhai golygfeydd mae'n bosib gweld yr enw Cymraeg yn unig, a weithiau Saesneg yn unig, ac ar yr olwg agosaf un - mae gan rhai strydoedd label dwyieithog.

Os edrychwch chi ar ddinas fel Abertawe, mae'r enwau strydoedd i gyd yn Saesneg. Ac yng Nghwynedd mae yna llawer o enwau Cymraeg gyda'r Saesneg mewn cromfachau. Eto, yn awgrymu mai'r wybodaeth sy'n cael ei gyflenwi gan yr awdurdodau sy'n cael ei fwydo i systemau y cwmni mapio.

Rhywbeth difyr arall am y wybodaeth.. chwiliwch Mapiau Google am 'Caerdydd' a fe gewch chi'r man cywir, ond chwiliwch am 'Abertawe' a mae'n dangos rhywle anghysbell iawn!
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 10:31 pm  

Sylwais dod enw Cymraeg a Saeseng i'w weld ar rai strydoedd, on bod yna flaenoriaeth i'r Gymraeg yng nghanol Caerdydd, ond wedyn ddim yn nunlle arall yn y ddinas. Mae strydoedd bangor i gyd yn ymddangos yn Gymraeg.

Felly dyma beth mae pawb yn ei weld ar GoogleMaps? Rhyfedd does neb wedi cwyno!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:59 am  

Gadawa sylw