Sgorio yn Blogio
10.1.07
Bues ar wefan Sgorio sbel yn ôl a synnu pa mor gynhwysfawr oedd o, gyda'r canlyniadau, tablau a rhestr prif sgorwyr o brif gynrheiriau Ewrop arno. Wrth ail-ymweld heddiw sylwais bod blog gan un o'r cyflwynhwyr/gohebwyr. Dwi heb wylio'r rhaglen ers tipyn (mae wedi fy amser gwely), felly doeddwn ddim yn nabod Nicky, ond da o beth bod gan y rhaglen ei flog ei hun hefyd. Does dim porthiant ar gael ar hyn o bryd, ond e-bostiais cwmni'r Nant yn awgrymmu byddai'n syniad da, fel gallant gael eu cynnwys ar blogiadur.com a welshblogs.com.
Dau raglen arall ar S4C sydd gyda gwefannau annibynnol da gan y cwmni cynhyrchu yw Ffermio a Bandit. Mae gan Bandit flog hefyd, mae pyst Huw Evans yn werth eu darllen, a nid dim ond am yr holl luniau o bobl tewnoeth mae'n bostio arno'n rheolaidd!.

blog, rhithfro, blogiadur, teledu, cymraeg, welsh, television, s4c, sgorio, bandit, ffermio
Generated By Technorati Tag Generator
3 sylw:
Mae'r post cyntaf ar y blog hwnnw'n defnyddio pedwar gofynodau. Oes hynny'n angenrheidiol?
sylw gan Chris Cope, 7:50 am
Mai hi braidd yn liberal gyda'i marciau cwestiwn.
(Ydy hynny'n angenrheidiol?)
(Ydy hynny'n angenrheidiol?)
hefyd, mae Nicky wedi ymateb i sylw a adewis, nid yn blwch sylwadau fel buasai rhywun ddisgwyl....ond mewn e-bost.
Efallai nad ydi hi'n gyfarwydd gyda blogio eto!!!! a !
Efallai nad ydi hi'n gyfarwydd gyda blogio eto!!!! a !