<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ffansi Ffarmwr?

24.1.07

Newydd gael sioc wrth ddarllen straeon diweddaraf o wefan newyddion y BBC. Cliciais ar y teitl rhyfedd, Lluniau potel i chwilio am ddêt, a gweld llun Iwan fy nghefnder yn hwrio ei hun ar ochr poteli llefrith.

Dwi'n ceisio cysuro fy hun mai mond gwneud hyn i hyrwyddo cwmni cydweithredol Calon Wen y mae Iwan, gan ei fod yn gyfarwyddwr arno. Er, mae Iwan yn digwydd bod yn sengl ar hyn o bryd ac yn uffern o foi, felly os ydych yn ferch ac yn Ffansio Ffarmwr, byddwch yn wallgo i beidio ag ymweld â pishyn.com.

*nid llun Iwan sydd ar y poteli yn y llun, ond fo sy'n dal y botel yn erthygl y BBC.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:57 pm

6 sylw:

Pan weles i'r lluniau ar y botel yn wreiddiol, oeddwn i'n meddwl maen nhw'n lluniau fel "Have you seen this person?"

Pob lwc i dy gefnder!
sylw gan Blogger Tom Parsons, 6:04 pm  

Wel, os mae person yn mynd allan gyda rhywun maent cwrdd o botel llaeth, o leiaf maent yn gwybod y na fydd osteoporosis gan y person.
sylw gan Blogger Chris Cope, 9:02 pm  

Got milk?
sylw gan Blogger Mei, 11:18 am  

Diddorol iawn! Basai ofn arnaf weld ffermwyr o fy ardal i ar ochr y botel. ..
sylw gan Blogger Sarah Stevenson, 9:18 pm  

Yrr.. rhys... pwy oedd hwnnw ar y teledu heno?
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:47 pm  

Heb weld y rhaglen eto,roeddwn allan ond mae Sarah wedi ei recordio, ac ia Iwan fy nghefnder oedd o.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:06 am  

Gadawa sylw