<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Rhag ein cywilydd ni

17.1.07

Ar hyn o bryd mae rhaglen deledu Resoration yn dilyn Griff Rhys Jones wrht iddo adnewyddu hen dy fferm yn dŷ hâf. Tydw i heb wylio'r rhaglen, a dwi ddim am feiriandu'r syniad gan fod yr adeilad yn wag ac yn fyrddyn, a'r gobaith yw ei osod drwy gydol y flwyddyn (nid bod hynny'n ei wneu yn iawn), ond dyma'n fy atgoffa o erthygl nawddoglyd a ysgrifennwyd am y prosiect yn y Guraniad dros y nadolig gan yr awdur Niall Griffiths. Dyma'r baragraff a'm gwilltiodd:
He’s rediscovered his Welshness, now that it’s no longer widely seen as shameful to hail from that country, and his keen participation in the Trehilyn project is seen by some as disingenuous and smacking of self-redress.
Ers pryd fuodd hi'n gywilydd dod o Gymru? Os dwi'n cofio'n iawn, Sais yw Niall Griffiths sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac mae wedi ysgrifennu sawl nofel ffuglen am fywyd yng Nghymru. A'i ni'r Cymru oedd fod i deimlo cywilydd, neu a'i pobl o'r tu allan oedd yn ein ystyried yn gywilyddus?

,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:01 pm

3 sylw:

Dwi'n meddwl mai bod yn ironic a sarcastic mae Niall Griffiths, Rhys. Cymryd dig ar y Dic Sion Dafyddion oedd â chywilydd eu bod yn Gymry.
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:31 pm  

Dwn i'm. Rhaid cyfaddef, dwi yn foi gylabl uffernol ac yn methu pethau fel na weithiau, ond yn y Guardian ddarllenais i hwn cofia - felly fydde ni'n synnu dim petai o ddifri.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:32 am  

cytuno hefo dyn sdici - bod yn eironig ella ma Niall G - y peth mwyaf cywilyddus yd fod BBC 'Wales' yn gwastraffu arian ar ddilyn y Dic Sion Dafydd cyfoethog a'i dai haf.
sylw gan Anonymous Anonymous, 5:06 pm  

Gadawa sylw