<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Parcio, Plaid Cymru a Swingers

25.1.07

Dwi'n aml yn diawlio fod pobl yn poeni cyn-lleied am wledyddiaeth, ond yn ystod y flwyddyn diwethaf mae trigolion Treganna fel petai nhw wedi eu radicaleiddio. Mae refferendwm tyngedfenol ar y gorwel (wel, yfory i fod yn fanwl gywir). Na, nid sôn am annibyniaeth i Gymru mae nhw, nac ychwaith a ddylai Prif Weninidog Prydain gael ei erlyn am ddweud celwydd i'n arwain at ryfel anghyfiawn yn Irac - on drhywbeth llawer pwysicach sef 'parcio'. Mae'r cyngor (sy'n cael ei redeg gan y Dem Rhydd, nd sydd heb fwyafrif) wedi cynnig Parthau Parcio Rheoledig mewn sawl man yn y ddinas gan gynnwys Treganna.

Heol y Bontfaen Dwyreiniol (Cowbridge Rd East) yw stryd fawr Treganna, a dyma'r ail ganolfan siopa lleol fwyaf yn y ddinas ar ôl ardal Heol Albany/Heol y Plwca (Albany/City Rd) yn y Rhath. Dyma hefyd yw prif ffordd mewn i ganol y ddinas o'r gorllewin. Y gŵyn yw bod dim lle i barcio a bod pobl yn parcio ar y strydoedd a bod siopwyr a gweithwyr yn parcio yn y strydoedd cyfagos. Y ddadl yw os byddai rheolaeth parcio ar y strydoedd yma'n unig yna byddai pobl wedyn yn parcio ym mannau eraill yn Nhreganna i osgoi talu.

Yn bersonol dwi'n erbyn y syniad gan y bydd yn ei wneud yn anodd i mi barcio o flaen fy nhŷ - a bydd rhaid imi dalu am y fraint mae'n debyg. Gall hyn fod yn safbwynt hunanol, gan mai prif bwrpas y cynllun yn ôl y cyngor yw ei wenud yn haws i siopa a bod bysiau yn gallu teithio'n gynt. Mae llawer yn amau eu hargymhellion ac hefyd yn poeni bydd pethau'n waeth yn hytrach na gwell. Bu ymgynghoriad cyhoeddus ble honnwyd gan y cyngor bod y mwyafrif o drigolion o blaid y cynllun, ond dwi'n amau hyn yn fawr gan fod posteri yn ei wrthwynebu ym mhob siop a mwyafrif o dai.

Oherwydd yr holl gwrthwynebiad, mae yna refferndwm am fod.

Os rhywbeth, mae dulliau'r cyngor o gyflwyno a hyrwyddo'r cynllun wedi codi gwrychyn y gwrthwynebwyr yn fwy na chynnwys y cynllun ei hun.

Ar y stryd dydd Sadwrn roedd sawl person yn codi ymwybyddaieth am y refferendwm ac yn ceisio annog pobl i bleidleisio na. Es i siarad ag un am y refferndwm. Dwedodd y ddynes bod rhaid i'r cyngor fod yn ofalus (wel yr aelodau etholedig beth bynnag) gan bod etholiadau lleol ddim yn bell, a hanner ffordd drwy'r sgwrs dyma'r ddynes yn dweud:
"You're really Welsh aren't you?"
"How do you mean?" meddai fi "We're all Welsh aren't we?" Gan wybod yn iawn fod hi'n cyfeirio at fy acen a mod i'n siaradwr Cymraeg.
"No, you're Welsh Welsh. I never though I'd go that way, but the Plaid Cymru people have been really helpfull. Labour haven't been any help- they don't want to know" (Llafur yw'r tri cynghorydd ar gyfer ward Treganna).
Dwi digwydd bod yn bleidleisiwr Plaid Cymru, mond achos dwi ddim yn Unoliaethwr, ond o'r diwedd mae'n edrych fel bod y blaid wedi gwneud rhywbeth yn iawn ac y gallant elwa ohono!

Rhywbeth arall doniol am yr ymgyrch yw y daeth 5 taflen trwy'r post ddoe; 3 yn dweud 'Na' a 2 yn dweud 'Ie'
Na:
Ie:
  • un gan drigolion lleol (ond mae pobl yn ammau mai un gan y cyngor ydi o)
  • un gan Bus Users UK (pam 'Uk' gan mai mond Cymru a Lloegr mae'n gyfrifol amdano?)

Difyr.

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:48 pm

3 sylw:

"I never thought I'd go that way, but the Plaid Cymru people have been really helpful" -- Mae'n fel bod Plaid Cymru yn sexual orientation. "Hei, cariad. Wyt ti eisiau some hot Plaid Cymru action?"

Ymddangosai bod gwleidyddiaeth modd-UDA wedi cyrraedd yn Nhreganna. Nid oes unrhywbeth sy'n fwy pwysig i Amercanwyr nag eu ceir.
sylw gan Blogger Chris Cope, 5:30 pm  

Ydy pawb wedi clywed y pleidleisiodd 92.5% yn erbyn yn refferendwm neithiwr? Dros 3200 o bobl!

Mae Leanne Wood wedi rhoi post ar ei blog. Mae na linc i'r stori yma am y CPZ o BBC Cymru.
sylw gan Anonymous Anonymous, 10:31 pm  

Gwelais ar fwrdd newyddion WoS tu allan i'r siop heddiw bod y 'trigolion lleol wedi ennill' a chymerai yn ganiataol mai y rhai yn erbyn y cynlluniau oedd rheini.

Rhyfedd i 92.5% bleidleisio na wedi i'r ymgynghoriad gwreiddiol ddod i'r casgliad pod y cyhoedd o blaid!

Diolch am y dolenni Anhysbys, ond sdim rhaid bod yn swil a di-enw (fel Mr Bernham a Mr Morgan ;-) )
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:53 pm  

Gadawa sylw