<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Famagusta yn erbyn Trabzonspor

28.7.05


Roedd gêm bêl-droed arwyddocaol neithiwr yng nghwpan UEFA neithiwr rhwng Famagusta o Cyprys a Trabzonspor o Dwrci. Dyma'r tro cyntaf i dim o Dwrci a Cyprys gwrdd ers i Dwrci feddiannu rhan ogleddol yr ynys yn 1974. I ychwanegu tipyn at arwyddocad y gêm, roedd maes Famagusta ar arfodrir ogleddol yr ynys, ac nid ydynt wedi gallu chwarae ar eu maes ers 1974.
Dyma'r canlyniad
Yn hanesyddol mae clybiau pêl-droed wedi chwarae rhan ganolog mewn cenedlaetholdeb Groegaidd Cyprys (Greek Cypriot?). Yn gyntaf yn y 40'au a'r 50'au pan oedd yr ynys o dan reolaeth Prydeinig ac hefyd yn ystod y ryfel cartref yng ngwlad Groeg. Dwi ddim yn cofio'r stori'n iawn, ond pan ochrodd rhai clybiau gyda'r llywodraeth asgell dde Groegaidd, fe wrthwynebodd chwaraewyr o rai clybiau gan adael a sefydlu clybiau sydd dal gyda cysylltiadau adain chwith.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:26 am | dolen | 0 sylw |

Trafod Ffynhonell Agored ar Cyfle Cymru

21.7.05

Erthygl gyda llond trol o ddolenni ar wefan Cyfle Cymru. Mae blog (uniaith Saesneg) i gyd-fynd â'r wefan hefyd (er Welóg mae'nt yn ei alw'n Gymraeg).
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:07 pm | dolen | 0 sylw |

Gorymdeithio yn Nhrefedigaethau Sbaen

O'r Belfast Telegraph, trwy Slugger O'Toole
Spanish fury at Twelfth parade

AN illegal Orange march in Benidorm has infuriated local residents and Spanish authorities.

The march took place on July 12 even though both Benidorm town hall and the provincial government in Alicante apparently banned it.

Now over a dozen organisers of the contentious event have been fined €6,000 each.

It was the fourth such march organised by Bryan and Catherine Sheeran, from Belfast, who have run the Ibrox Bar in Benidorm for three-and-a-half years.

Mae rhieni ffrind i mi wedi gwerthu eu tŷ yng Nghaerdydd ac wedi symud drosodd i Sbaen i fyw mewn rhyw ynys o Brydiendod. Mae newydd ddychwelyd oddi yno ac yn sôn am sut dreuliodd ei amser mewn tafarndai o'r enw the 'Blue Bird Bar' ayyb. Un peth yw symud i wlad poeth fel Sbaen a pheidio gwneud ymdrech i ddysgu'r iaith na chymeryd dim diddordeb mewn traddodiadau lleol, ond mae dod a'u casineb draw gyda nhw hefyd an anfaddeuol.

Ar ôl darllen y sylwadau ar Slugger, mai newydd wawrio arnai fod Sbaen yn wlad Gatholig hefyd. Wancars
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:50 am | dolen | 0 sylw |

Anghofio'r Gymraeg

20.7.05

Wrth yfed potel o Brecon Carreg yn ddiweddar dyma rhywun yn pwyntio allan wrthyf fod y cwmni'n pecynnu'n uniaith Saesengrwan a hwythau wedi gwenud yn ddwyieithog yn y gorffennol. Dwi wedi sylw bod nifer o gwmniau preifat sydd wedi bod yn pecynnu eu cynnyrch yn ddwyieithog (ac wedi bod yn cael clôd mawr gan Fwrdd yr Iaith, ac cyhoeddusrwydd am ddim sy'n dilyn), yn sydyn wedi newid yn ôl i fod yn unieithog.
Isod mae rhestr oddi ar dop fy mhen:

1. Brecon Carreg.
Mae gyda fi hen botel dwi'n ei ddefnyddio i ddyfrio fy mhlanhigion sy'n ddwyieithog. Dyma ddyfyniadau a ddois ar draws ar y wê:

O wefan Bwrdd yr Iaith
“Mae’r Gymraeg yn arf marchnata pwysig iawn i gwmnïau a busnesau sy’n dymuno ehangu y tu hwnt i Gymru – gall iaith arall ar becyn neu ddeunydd hyrwyddo wneud gwahaniaeth mawr i broffil a llwyddiant cwmni – yn wir, mae’r iaith wedi bod yn USP i nifer o gwmnïau – lle byddai Tŷ Nant, Halen Môn a Brecon Carreg heb yr iaith Gymraeg? Drwy ddefnyddio’r iaith, mae’r brandiau yma bellach yn mwynhau statws mewn marchnadoedd ‘niche’, yn gwerthu’n dda tu allan i Gymru, am brisiau uchel”.

O ddogfen Gweithio gyda'r iaith Gymraeg (PDF) y Bwrdd Croeso (tudalen 6)
Defnyddiwch gynnyrch â labeli Cymraeg arnynt - Brecon Carreg Water/Dŵr Gwyllt Cymru er engrhaifft...


Dwi eisiau anfon llythyr/e-bost atynt ond welai'm manylion cyswllt o gwbwl ar eu gwefan (uniaith) Saesneg.


2. Rachel's Dairy
Am ryw reswm, mae'r cwmni yma'n meddwl mai mond menyn mae Cymry Cymraeg yn ei brynnu, felly mae nhw'n rhoi pwyslais mawr ar y ffaith bod eu menyn yn cael ei becynnu'n ddwyieithog, ond dim byd arall.


3. Killer Coca Cola
Ocê, byddwn i ddim yn ei brynnu beth bynnag am amryw o resymau gwahanol, ond eto dyma ddatganiad ar wefan Bwrdd yr Iaith
Bwrdd Yr Iaith Yn 'joio' Cefnogi Coca Cola

4 Gor 2000
Heddiw (4 Gorffennaf), bydd Coca-Cola - un o gwmnïau mwyaf y byd - yn lansio ymgyrch hyrwyddo ddwyieithog ar hyd a lled gogledd Cymru.

Datblygwyd yr ymgyrch ‘Coca-Cola Joiwch’, gyda chymorth a chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a bydd Rhodri Williams, Cadeirydd y Bwrdd y cymryd rhan yn y lansiad yn siop Tesco, Bangor.

ac eto gan y Bwrdd yma
Dathlu Llwyddiant Dylunwyr Dwyieithog 2002

18 Gor 2002

“Mae brandio dwyieithog yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cymerwch McDonalds, Coca Cola a Microsoft – tri o frandiau mwyaf y byd, i gyd wedi dewis defnyddio’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.


Weles i eriod un o'r rhain


Ar nodyn ysgafnach, wrth gwglo am yr uchod, dyma fi'n dod ar draws yr eitem ddoniol yma am 'Lleoleiddio'
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:16 pm | dolen | 0 sylw |

Dewch yn eich blaen, COCHWCH

Wedi cyrraedd adref yn hwyr neithiwr i ddarganfod fod fy nghariad wedi bwyta'r courgette cyntaf o'r ardd heb adael dim i mi, dwi'n benderfynnol o fwyta ein tomato cyntaf. Dewch yn eich blaen.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:02 am | dolen | 0 sylw |

NatWatch2

19.7.05

Dwi eisioes wedi postio am Natwatch, ond dwi'n falch o ddweud bod blog arall ar gael o'r enw NatWatchWatch (neu NatWatch2). Beth sy'n wahanol am hwn yw y gallwch adael sylwadau arno.


Mae tipyn o drafod am NatWatch ar maes-e ac ar Aberdâr On-line.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:54 pm | dolen | 0 sylw |

Pêl-droed, gem y bobl

18.7.05

Blogio diog am bêl-droed.

O'r BBC. Cefnogwyr yn cymeryd rheolaeth o Stockport County. Gobaith i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam?

Erthygl o'r Observer am FA: Fit For Purpose? sef adrodddiad i farn cefnogwyr cyffredin am Gymdeithas Pêl-Droed Lloegr (CPdLl). Dau brif peth oedd cefnogwyr yn anhapus amdan oedd y modd y deliodd CPdLl gyda take-over Malcolm Glazier o Mancherster United a'r busnes gyda sefydlu MK Dons.

Hefyd o'r Observer, stori am F.C United, sef clwb sydd wedi ei greu gan gefnogwyr anhapus Manchester United.
Welcome to the world of FC United of Manchester, the breakaway club whose founder members and backers are disaffected Old Trafford fans who will not support the new owners of Manchester United plc.

Yesterday they played their first game, a friendly at Leigh RMI that drew a crowd of 2,552 .....

Mae'n anodd credu dwi'n gwbod, ond mae gan Man U rhai cefnogwyr go iawn, a fel cefnogwr clwb sydd eisioes wedi ei ddifa bron gan ddyn 'busnes', dwi hyd yn oed yn cydymdeimlo â nhw. Mae rhai o sylwadau'r cefnogwr Man U sy'n amau doethineb y rhai sy'n sefydlu'r clwb newydd yma yn rhai digon dilys, a beth sy'n fy mhoeni i ydi beth sy'n mynd i ddigwydd i F. C. United petai Malcolm Glazier a'i deulu'n gadael a phethau'n mynd yn ôl i beth bynnag yw normalrwydd yn Old Trafford?

Tagiau Technorati: , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:05 pm | dolen | 0 sylw |

Y Gemau go iawn

12.7.05

Does dim llawer o ddiddordeb gyda fi yn y gemau Olympaidd gan fy mod yn ffasgydd Cymraeg mewnplyg, felly yr unig gemau dwi'n eu dilyn (wel gwrando ar eitemau Radio Cymru amdanynt) yw Gemau'r Ynysoedd. Mae'r gemau ymlaen rwan ar ynysoedd y Shetland ond nid yw'r canlyniadau yn mynd o blaid Ynys Môn eleni. Mae Ynys Môn hefyd yn obeithiol y caiff gemau 2009 eu cynnal ar ynys fwyaf CYMRU.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:52 am | dolen | 0 sylw |

Maesydd Ucheldiroedd yr Alban

11.7.05


Fel y gwyddoch mae CPD Wrecsam mewn trafferthion dybryd ar hyn o bryd, ac efallai mai dyma pam mae negesfwrdd gwefan Red Passion mor brysur. Mae llawer o beth sy'n cael ei ysgrifennu arno'n lol llwyr (fel maes-e) ond mae na rhai gyda cyfraniadau difyr a gwerthfawr dros ben, yn enwedig pan trafodir sefyllfaoedd cymleth cyfriethiol neu syniadau am sut i arwain y clwb allan o'i dwll.

Dwi wedi bod yn meddwl mai da o beth byddai petai mwy o gefnogwyr yn cadw blog am y sefyllfa. Mae mwy o siawns i genfogwyr timau eraill a phobl gyda dim diddordeb mewn pêl-droed ymweld â blog sydd wedi'w sgwennu am bwnc llosg ac mewn modd beidddgar na gwefan y clwb neu un Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Clwb.

Ar lofnod ambell gyfranwr ar y negesfwrdd mae cyfeiriad i'w blogiau a dyma sut ddois ar draws un gymharol diweddal Tartan Red. Mae wedi byw yng Ngolgedd yr Alban ers dros deng mlynedd, sy'n gwneud mynd i wylio ei annwyl Wrecsam yn anodd dros ben. I wneud pethau'n waeth mae dioddef o afeichyd o'r enw Ataxia sy'n golygu ei fod yn gaeth i gadair olwyn.

Tydi o ddim yn gadael i hyn ei rwystro rhag mwynhau ei bêl-droed, ac mae ar fin dechrau codi arian at elusen Ataxia UK drwy ymweld a phob maes pêl-droed ym Mhrydain. Yn ddelfrydol hoffai bunt am bob maes mae'n ymweld, ond gallwch gyfrannu unrhywfaint. Mae'r daith yn dechrau ar y 23ain o Orffennaf.

Tagiau Technorati: , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:54 pm | dolen | 0 sylw |

Trafod blogiau Cymraeg yn siambr y Cynulliad

7.7.05

Mewn trafodaeth am ddogfen (tila) Iaith Pawb yn y saimbr ddoe siaradodd Leighton Andrews (AC y Rhondda) (yn Cymraeg) am ei brofiadau personol fel dysgwr ac hefyd am pa mor ddefnyddiol y mae blogiau Cymraeg i ymarfer darllen ac ysgrifennu Cymraeg.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:37 am | dolen | 2 sylw |

Y Crankies ar G8

6.7.05

Ydych chi erioed wedi meddwl beth ddigwyddodd i'r Crankie bach? (Dynes oedd yr un bach wyddoch chi?)

Mwy o luniau ar Adventures in Ethical Consumerism.

Tagiau Technorati:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:50 am | dolen | 0 sylw |

Mae'n gwylio ti a fi.

3.7.05

Newydd ddarganfod Nat Watch , blog sy'n creu ymwybyddiaeth o ddrygioni gwladgarwyr. Disgrifad y blog yw:
Exposing the failure, mendacity and xenophobia of nationalists in Scotland and Wales.

Dwi'n meddwl mai yng Nghymru mae'r awdur wedi ei leoli gan mai'r Blaid sy'n ei chael hi fwyaf. Mae rhai o'r negeseuon yn weddol ddoniol a diniwed neu hyd yn oed gyda gronyn o wirionedd ynddynt, ond mae'n croesi'r ffin ychydig.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:24 pm | dolen | 0 sylw |

Papur dyddiol 'Y Byd' rhywfaint nes?

1.7.05



Dyma lun gan Iwan Bala oddi ar wefan Y Byd. Bydd nifer cyfyngedig o argraffiau ar gael, gyda'r arian yn mynd tuag at gronfa Y Byd.

Roedd llefarydd ar ran y papur ar y radio ddoe yn dweud eu bod wedi casglu £250,000 sy'n garreg milltir pwysig ond eto'n £50,000 brin o'r nôd o £300,000 sydd ei angen. Dwi wedi talu £25 i ymuno â'r clwb cefnogwyr, ydych chi?
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:17 am | dolen | 0 sylw |

Dau flog Cymraeg newydd

Dois ar draws daflog drwy ymchwiliad Technorati. Yna trwy ddarllen Daflog dois ardraws Blog dwyieithog Lluniau Clarice.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:36 am | dolen | 0 sylw |