<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Anghofio'r Gymraeg

20.7.05

Wrth yfed potel o Brecon Carreg yn ddiweddar dyma rhywun yn pwyntio allan wrthyf fod y cwmni'n pecynnu'n uniaith Saesengrwan a hwythau wedi gwenud yn ddwyieithog yn y gorffennol. Dwi wedi sylw bod nifer o gwmniau preifat sydd wedi bod yn pecynnu eu cynnyrch yn ddwyieithog (ac wedi bod yn cael clôd mawr gan Fwrdd yr Iaith, ac cyhoeddusrwydd am ddim sy'n dilyn), yn sydyn wedi newid yn ôl i fod yn unieithog.
Isod mae rhestr oddi ar dop fy mhen:

1. Brecon Carreg.
Mae gyda fi hen botel dwi'n ei ddefnyddio i ddyfrio fy mhlanhigion sy'n ddwyieithog. Dyma ddyfyniadau a ddois ar draws ar y wê:

O wefan Bwrdd yr Iaith
“Mae’r Gymraeg yn arf marchnata pwysig iawn i gwmnïau a busnesau sy’n dymuno ehangu y tu hwnt i Gymru – gall iaith arall ar becyn neu ddeunydd hyrwyddo wneud gwahaniaeth mawr i broffil a llwyddiant cwmni – yn wir, mae’r iaith wedi bod yn USP i nifer o gwmnïau – lle byddai Tŷ Nant, Halen Môn a Brecon Carreg heb yr iaith Gymraeg? Drwy ddefnyddio’r iaith, mae’r brandiau yma bellach yn mwynhau statws mewn marchnadoedd ‘niche’, yn gwerthu’n dda tu allan i Gymru, am brisiau uchel”.

O ddogfen Gweithio gyda'r iaith Gymraeg (PDF) y Bwrdd Croeso (tudalen 6)
Defnyddiwch gynnyrch â labeli Cymraeg arnynt - Brecon Carreg Water/Dŵr Gwyllt Cymru er engrhaifft...


Dwi eisiau anfon llythyr/e-bost atynt ond welai'm manylion cyswllt o gwbwl ar eu gwefan (uniaith) Saesneg.


2. Rachel's Dairy
Am ryw reswm, mae'r cwmni yma'n meddwl mai mond menyn mae Cymry Cymraeg yn ei brynnu, felly mae nhw'n rhoi pwyslais mawr ar y ffaith bod eu menyn yn cael ei becynnu'n ddwyieithog, ond dim byd arall.


3. Killer Coca Cola
Ocê, byddwn i ddim yn ei brynnu beth bynnag am amryw o resymau gwahanol, ond eto dyma ddatganiad ar wefan Bwrdd yr Iaith
Bwrdd Yr Iaith Yn 'joio' Cefnogi Coca Cola

4 Gor 2000
Heddiw (4 Gorffennaf), bydd Coca-Cola - un o gwmnïau mwyaf y byd - yn lansio ymgyrch hyrwyddo ddwyieithog ar hyd a lled gogledd Cymru.

Datblygwyd yr ymgyrch ‘Coca-Cola Joiwch’, gyda chymorth a chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a bydd Rhodri Williams, Cadeirydd y Bwrdd y cymryd rhan yn y lansiad yn siop Tesco, Bangor.

ac eto gan y Bwrdd yma
Dathlu Llwyddiant Dylunwyr Dwyieithog 2002

18 Gor 2002

“Mae brandio dwyieithog yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cymerwch McDonalds, Coca Cola a Microsoft – tri o frandiau mwyaf y byd, i gyd wedi dewis defnyddio’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.


Weles i eriod un o'r rhain


Ar nodyn ysgafnach, wrth gwglo am yr uchod, dyma fi'n dod ar draws yr eitem ddoniol yma am 'Lleoleiddio'
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:16 pm

0 sylw:

Gadawa sylw