<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Unrhyw un yn defnyddio WordPress?

25.5.09

Y rheswm dw i'n gofyn yw oherwydd bod WordCamp UK 2009 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd (fel soniwyd ar Metastwnsh sbel yn ôl). Dyma gynhadledd blynyeddol ar gyfer defnyddiwyr a datblygwyr WordPress. Mae'n cymryd lle mewn gwesty yn y bae ar benwythnos y 18fed a'r 19eg o Orffennaf.

Gan bod tipyn o wefannau a blogiau Cymraeg yn defnyddio WordPress erbyn hyn, bues i mor wirion ag awgrymu ar wici'r digwyddiad bod sesiwn yn cael ei gynnal ar leoleiddio.

SON AM GAMGYMERIAD.

Mae sesiwn am leoleidido wedi ei neilltuo ar gyfer y bore Sul, ac yn ôl Carl, fi sy'n ei arwain! I ddweud y gwir, prin iawn ydy fy mhrofiad i o WordPress, er dw i am drio gosod blog/gwefan yn defnyddio'r meddalwedd rhwng rwan a'r gynhadledd ac hefyd ceisio gosod y ffeiliau Cymraeg.

Fel mod i ddim yn edrych fel prat llwyr ar y diwrnod, oes gyda rhywun unrhyw sylwadau ar ddefnyddio WordPress (.org neu .com), yn benodol ynglŷn a'r fersiynnau Cymraeg?

Gwell fyth os fyddai chi'n dod i'r sesiwn a chymryd rhan. Mae tocyn ar gyfer y dau ddiwrnod yn costio £35 (£25 os archebwch chi cyn Mai 31ain). Dw i eisoes wedi prynu tocyn, ond ddim yn siwr os byddaf yn mynd ar y dydd Sadwrn, felly buaswn yn ystyried ei rannu â rhywun.

Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:20 pm

0 sylw:

Gadawa sylw