<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cardiff Web Scene Meetup, 26.2.08

11.2.08

Yn ddiweddar dois ar draws grŵp Facebook ar gyfer Cardiff Web Geeks. Roeddwn yn hoffi syniadaeth y peth:

Hey there. Cardiff Geeks was recently formed due to the common feeling amongst many passionate geeks in Wales that there was a lack of community between them.

We are comprised of researchers, computer scientists, web professionals and enthusiasts though are open to just about anyone who has an interest in the topics we discuss.

Tra bod cymuned gref (ond hynod o fach) o ddefnyddwyr gwe Cymraeg a elwir y Rhithfro, does yna ddim cymuned ar-lein Cymreig amlwg o gwbwl, unai'n gymdeithasol neu ar gyfer busnes, sy'n rhwystredig iawn ond sydd eto efallai ddim yn annisgwyl. Gobeithio y bydd modd newid hyn.

Doeddwn ddim yn siwr os oedd y grŵp yn dal i fynd, ond cefais wahoddiad Facebook ddoe (ok, efallai bod pwynt i'r dam peth wedi'r cyfan), i fynychu Cardiff Web Scene Meetup yng Nghafe Floyd ar nos Fawrth y 26ain o Chwefror. Yn anffodus dwi'n dysgu ar nos Fawrth ond efallai byddaf yn galw mewn wedyn os na fyddai'n rhy flinedig. Fydde rhywun arall yn y cyffuniau â diddordeb mynychu?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:04 am

2 sylw:

Dwi'n cytuno efo ti fod angen rhywle.

Ond ydi seiat Dylunio, Technoleg a'r We ddim yn ddigon? Buasai'n annodd gosod rhywbeth newydd fyny gan anwybyddu hwnnw.

Oeddet ti'n golygu rhywbeth mwy caeedig?
sylw gan Blogger Nwdls, 1:57 pm  

Efallai nad oeddwn i'n esbonio'n iawn. Tra bod yna ryngweithio ar-lein ar sail cenedlaethol (a rhyngwladol) ymysg siaradwyr Cymraeg unai trwy flogio neu negesfyrddau, ychydig iawn o be dwi'n weld sy'n digwydd yn Saesneg ar lefel Cymreig. Oni bai bod Aran wedi dod a blogiau Saesneg at eu gilydd trwy BlogCymru, roedd ond yn naturiol i flogwyr iaith Saesneg edrych ar flogiau iaith Saesneg a doedd/tydi daearyddiaeth ddim yn dod mewn i'r peth.
Mae cymhelliad pobl su tu cefn i Cardiff Geeks yn fy marn i'n dangos bod awydd gan bobl Cymreig neu sydd yng Nghymru rwan rwydweithio ar gyfer pleser a busnes ymysg pobl eraill o'r un ddinas neu wlad (h.y. Cymru). Nid oherwydd gwladgarwch efallai, ond oherwydd bod natur y we yn newid o fod yn arf gwych o gyrraedd y byd i gyd, i fod yn ffordd wych o ddod i nabod llawer o bobl o'r un meddylfryd sy'n byw yn eich milltir sgwar.

O edrych ar y gwefannau Gwe2.0 diweddaraf sy'n cael eu creu yn America, mae nhw'n tueddu canolbwyntio ar ddinasoedd neu hyd yn oed cymydogaethau unigol, oherwydd yn y pen draw mae gwefannau rhyngwladol am adolygu tafarndai yn ddigon amherthnasol i rhywun yng Nghardydd os mai bwytai Efrog Newydd a Boston sydd arnynt.

Mae gwefannau bach prysur am bynciau arbennig/ ardaloedd bychain yn fwy llwyddiannus na rhai sy'n ceisio cyfro pob dim ond sy'n dawel fel y bedd.

Dyma pam gall wefannau Cymraeg llwyddo yn y dyfodol yn fy marn i.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:47 pm  

Gadawa sylw