Amser deffro
31.3.05
I rai pobl daw hyn ddim fel darganfyddiad newydd ond mae adroddiad newydd gan wyddonwyr yn rhybuddio bod angen i ddynol ryw wneud newidiau mawr i’r ffordd rydym yn byw mewn ymgais i leihau yr effaith anfferthol ydym wedi cael ar ecosustemau’r blaned. Dyw ein patrymau byw presenol ddim yn gynaladwy o bell ffordd. Mae cyfres 6 rhan o’r enw Planet under Pressure ar wefan y BBC.
Hefyd, diolch (dwi’n meddwl) i menaiblog am gyfeirio at erthygl brawychus The Long Emergency sy’n sôn am ddyfodol tywyll, yn arbennig ar gyfer America pan ddaw olew i ben ac oblygiadau geo-politicaidd i’r holl fyd.

Cyfnewid pleidleisiau dros y we
Mae cefnogwyr Llafur a’r Democratiaid Rhydfrydol wedi creu gwefan tacticalvoter.net, er mewyn rhwystro aelodau Ceidwadolrhag ennill mewn seddi ‘marginal’.
Y syniad yw bod aelodau o’r naill blaid yn gaddo pleidleisio dros y llall ble mae’n frwydyr dwy ffordd rhwng y Ceidwadwyr a phlaid arall. Mae 10 sedd wedi ei dargedu’n barod yn Lloegr. Pan edrychais am fy etholaeth i dyma’r neges a gefais:
This is a safe Labour seat, very unlikely to change hands at the next election. So whichever party you support, it's hard to make your vote count for anything even by voting tactically.
Neges sydd ddim yn debygol o ysbrydoli pobl i bleidleisio.
Ffynhonell: New Media Awards 2005 Weblog

Dydd Mawrth a hanner
24.3.05
Roedd dydd Mawrth yn ddiwrnod prysur a hanner. Am 7:30 y bore roedd rhaid i mi fod yn Ystrad Mynach i baratoi ar gyfer Brecwast Busnes oeddwn wedi ei drefnu. Dwi’n cynnal un o’r rhain yn chwarterol. Y tro hwn roeddwn wedi gwahodd Gareth Bowker i siarad am Feddalwedd Rhydd ac hefyd Rhys Jones i siarad am waith Canolfan Bedwyr yn datblygu Rhaglenni Lleferydd Cymraeg. Dwi wedi bod yn meddwl llawer am feddalwedd rhydd yn ddiweddar a meddyliais byddai’n bwnc addas iawn ar gyfer Brecwast Busnes. Cwrddais â Gareth mewn cyfarfod SWLUG ac fe gytunodd i ddod i drafod y pwnc yn syth. Cafwyd llawer o gwestiynnu gan y gynulleidfa yn dilyn y sgyrsiau sydd yn arwydd da fod y mynychwyr eraill wedi gweld y cyflwyniadau o ddiddordeb hefyd. Er mai yn Gymraeg mae’r Brecwastau Busnes yn cael eu cynnal, dwi’n gwahodd pobl di-Gymraeg iddynt hefyd ac felly mae angen darparu gwasanaeth cyfieithu. Pan gyrhaeddodd ein cyfieithydd dywedodd ei bod wedi bod yn chwydu drwy’r nôs ac ar ôl codi a nad oedd digon da i gyfieithu. Fel mae’n digwydd roeddwn ond newydd gwbwlhau cwrs cyfieithu ar y pryd y noson gynt a dyma fi am cyd-weithiwr yn cymeryd troeon yn cyfieithu’r cyflwyniadau.
Da o beth efallai mod i wedi cael y pwt byr o gyfieithu y bore nw achos yn y p’nawn oedd fy gig cyntaf fel cyfieithydd ar y pryd i fod…. ar gyfer nifer fawr o rieni yn seremoni wobrwyo blynyddol Ysgol Gyfun Gwynlliw. Roedd braidd yn scary (na, dim y gyrru trwy Trevethin i gyrraedd y lle!) wrth feddwl faint o fobl oedd yn dibynnu ar fy nghyfieithu. Yn ffodus cefais gopi o araith HIR y prifathro ac hefyd un y siaradwr gwadd o flaen llaw, ac er i rai o’r headsets benderfynnu peidio gweithio yn ystod prawf cyn y seremoni, aeth popeth yn weddol esmwyth… wel does dim cwynion wedi’n cyrraedd ni eto beth bynnag.
Yn dilyn y Brecwast Busnes dwi wedi gosod porwr Firefox fersiwn Cymraeg ar fy mheiriant yn y gwaith – roedd yn hawdd pawdd ac mae’n gweithio’n wych.

Sefyllfa truenus yr iaith Wyddeleg
23.3.05
Mae wedi bod yn hysbys ers cryn amser bod yr iaith Wyddeleg mewn sefyllfa llawer gwaeth nag un yr iaith Gymraeg. Mae hyn y rhywbeth sy'n creu penbleth i mi. Er ei fod yn drist ac yn rhwystredig i mi bod cymaint o Gymry'n casau a dibrisio ein hiaith cynhenid, dwi rywsut yn deall sut mae'r sefyllfa wedi codi, tra allai ddim gweld sut all yr un peth fod wedi digwydd yn Werinaieth Iwerddon. Mae post ar Slugger O'Toole yn cyfeirio at stori ar TimeOnline ble mae'r awdur yn ymated i adroddiad Gweinidog, ac yn amlwg mae ganddo farn (negyddol) gref am yr iaith. Trist yw darllen rhai o'r sylwadau o dan y post - "dim ots os yw'r iaith yn marw", "dim byd gyda fi'n erbyn yr iaith cyn belled sdim rhaid i mi gael fy ngorfodi yw ddysgu" ayyb. Mae dolen at flog The Gaelic Starover, sydd yn ei dro gyda dolen at stori galonogol ar wefan y BBC am addysg cyfrwng Wyddeleg yn y Chwe Sir.
Mewn undod mae nerth
17.3.05
Er nad ydw i wedi clywed cadarnhad swyddogol, dwi newydd ddarllen neges calonogol dros ben ar negesfwrdd red-passion.com. Arno mae Corky, sef trefnydd Clwb Cefnogwyr Dinas Caerdydd y Cymoedd (Valley RAMS) yn dweud bod CPD Dinas Caerdydd yn mynd i adael i gefnogwyr Wrecsam fydd eisioes lawr yn y brifddinas ar gyfer gêm rownd derfynol Cwpan yr LDV fynychu eu gêm cyngrhair yn erbyn Wigan y diwrnod cynt (9/4/05) am bris gostyngedig (efallai £6), a gobeithir y bydd modd i docynnau i ffeinal yr LDV gael eu gwerthu ym Mharc Ninnian ar y dydd Sadwrn i annog cefnogwyr Dinas Caerdydd i fynd i wylio a chefnogi Wrecsam ar y dydd Sul (10/4/05). Yn ogystal a hyn fe drefni'r gêm gyfeillgar rhwng cefnogwyr Wrecsam a chefnogwyr Dinas Caerdydd ar y bore Sadwrn. Gall cyd-weithrediad o'r fath ond fod yn beth da ar gyfer pêl-droed Cymru. Dwi'n edrych ymlaen yn barod.
2ail a 3ydd grwp Freecycle Cymru
7.3.05
Yn dilyn fy mhost am Sgip Blymio mae yna nawr 2 grwp Freecycle arall yng Nghymru yn Cwm Cynon (felly dyna ble aeth yr enw parth yna!) ac yn Abergele. Mae'n werth cofrestru ar y rhestrau yahoo hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr ardal gan fod yna bethau da yn cael cael eu cynnig gan pobl eisiau gwared pethau. Gobeithio byddant yn llwyddiannus.