<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



2ail a 3ydd grwp Freecycle Cymru

7.3.05

Yn dilyn fy mhost am Sgip Blymio mae yna nawr 2 grwp Freecycle arall yng Nghymru yn Cwm Cynon (felly dyna ble aeth yr enw parth yna!) ac yn Abergele. Mae'n werth cofrestru ar y rhestrau yahoo hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr ardal gan fod yna bethau da yn cael cael eu cynnig gan pobl eisiau gwared pethau. Gobeithio byddant yn llwyddiannus.
postiwyd gan Rhys Wynne, 5:10 pm

4 sylw:

Diolch am y sylwadau Rhys.

Gobeithio wnaiff fwy o grwpiau Freecycle sefydlu ar draws Cymru.

Yn nglyn a parth cymraeg.org, cartref Prosiect Llyfrgell Owen oedd cymraeg.org (Rhagfyr 2000 hyd at Medi 2004). Mae yna archif ar gael rhywle fan yma.

Darren @cymraeg.org
sylw gan Anonymous Anonymous, 6:02 pm  

Ie, dwi'n synnu nad oes mwy, er wedi dweud hynny, bydda un ar gyfer ardal eang yn gwnud y tro gan fod niferoedd y grwpiau yn gymharol fach (ar hyn o bryd). Os byddai rhywun yn cynnig rhywbeth fel hen deledu neu beiriant golchi e.e. byddwn yn fodlon teithio tipyn i'w gasglu. Y peryg o gael grwpiau gyda dim llawer o aelodau yw nad oess lawer o bethau'n cael eu cynnig. Mae adran marchnad maes-e.com yn ddefnyddiol hefyd, er nid iw wedi ei gyfyngu i gyfnewid/gwerthu eitemau, mae hefyd yn fan hysbysebu lifftiau a stafelloedd gwag.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:54 pm  

Mae hwn yn swnio fel prosiect diddorol iawn. Faswn i'n sicr yn defnyddio un yng Nghaerdydd, ond dwi ddim rili awydd trefnu'r cylch lleol.

Efallai y buasai'n werth gofyn i Cardiff Waste Forum gychwyn un (a chyfieithu eiu gwefan...)?
sylw gan Blogger Nwdls, 11:38 am  

Byddwn i'n awrgymu dy fod yn ymaelodi â grwpiau yahoo y cylchoedd presenol (gan eithirio un Abergele gan ei fod braidd yn bell o Gaerdydd).
Wedi cael awr ginio llwyddianus yn sgip blymio heddiw gan fod yr adeilad YMCA dwi'n gweithio ynddo'n cael ei ailwampio. Wedi liberatio sawl darn o goed defnyddiol i fy mhrosiectau gardd gefn o'r sgip, dim ond gweithio allan sut i'w cuddio oddiwrth fy nghariad sydd rhaid gwneud rwan.

Sdim eisiau poeni am gyfieithu wefan Ffwrwm gwastraff Caerydd oherwydd dwi newydd darllen y geiriau anfarwol:

WELSH

Mae'r wefan hwn yn cael ei gyfieithu.
Popeth yn iawn :-(
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:55 pm  

Gadawa sylw