<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Sgip-blymio

15.2.05

Fe ddaeth adeiladwyr i wneud gwaith ar fy nhy cyn nadolig ac fe fu sgip tu allan i'm ty am gyfnod. Er mai mond ystafell ymolchi fechan oedd yn cael ei hail wneud roeddwn yn synnu ar faint o wastraff oedd yn cael ei greu. Aeth yr hen foilar oedd ar ei wely angau i'r sgip yn ogystal a hen ddrws oeddwn wedi ei gadw'n yr ardd gefn ers bron i flwyddyn gyda'r bwriad o'i ailddefnyddio, ond o dan bwysau gan fy ngariad a oedd wedi cael llond bol o'i weld yn pwyso yn erbyn y wal aeth hefyd.

Ar y pryd roedd tua dau sgip arall ar y stryd hefyd. Roeddwn i'n teimlo'n euog braidd (dwi'n teimlo'n euog am bron pob dim dyddiau hyn) wrth feddwl byddai'r gwastraff ma i gyd yn mynd i safle tir lenwi gan ein bod ni eisiau/angen ystafell ymolchi newydd.

Fe leddfwyd ychydig ar yr euogrwydd hyn pan ddaeth gwr i'r drws i ofyn os cai'r drws yn y sgip i wneud 'bench' i'w ardd. Cefais fraw un bore pan gerddais allan i weld gwr yn rhwygo'r boilar i ddarnau ar y palmant o flaen fy nrws er mwyn cael y modur ar darnaeu electroneg (ond diolch byth mi daclusodd y cwbwl ai daflu'n ôl i'r sgip), a diwrnod neu ddau wedyn daeth dyn â lori cefn fflat a chymeryd gweddill y boilar ar gyfer scrap. Erbyn i'r sgip gael ei gasglu roedd yn llawer gwacach ac roeddwn i hefyd wedi achub 20+ llechen cyfa oedd yr adeiladwyr wedi eu rhoi yn y sgip (er syndod i mi) - prosiect haf i mi fydd ail-doi y ty bach allanol sydd gennym - cawn weld.

Tua'r un cyfnod gwelais sgip ar ben fy stryd yn llawn brics oedd bron iawn i gyd yn gyfa ond efallai gyda ychydig o fortar ar rai. Petai berfa, mwy o hyder a chariad mwy goddefol byddwn wedi casglu tua cant neu ddau ohonynt. Tro arall gwelais ddarn cyfa o perspex ‘corrugated’ (delfrydol ar gyfer fy sied arfaethedig!) a llif mewn sgip, ond roeddwn yn weddol bell o'm cartref ac roeddwn ar y ffordd i’r dafarn, felly angofiais amdanynt.

Tra’n darllen edefyn amgylgeddol ffwrwm urban75.com (rhaid cofrestru i ddarllen yr edefau), dois ar draws dolenni at ScavangeUK Online a Freecycle. Mewn ymgais i leihau fy effaith amgylcheddol wrth brynnu deunydd adeiladu newydd ac unrhyw newyddau (elecroneg, dodrefn ayyb) dwi am geisio dod o hyd i ffyrdd eraill – sgip blymio yw’r ffordd ymalen. Os ydy hyn yn swnio braidd yn eithafol, dydw i eisioes wedi prynnu lleni, polion lleni a gorchuddion lamp o Hysbysfwrdd Prifysgol Caerdydd, sy’n agored i bawb nid jyst i staff a myfyrwyr y brifysgol. Mae Freecycle un rhybeth rhyngwladol wedi ei rannu’n grwpiau lleol ble mae aelodau yn unai cynnig rhywbeth mae’nt eisiau ei wared neu ble all bobl holi am rhywbeth maen’t eu heisiau. Dim ond un sydd i’w weld yng Nghymru ac yng Nghasnewydd mae hwnnw.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:00 pm

1 sylw:

Fe dreulies i'r penwythnos cyfan yn clirio un o'r adeilade allanol o'r holl stwff dwi di gal gan ffrindie neu di arbed o sgip neu o ochor y ffordd dros y blynyddoedd. Llwyddes i gadw'r mwayfrif o'r stwff a'i symud e i shed arall! Ma na lwythi o bethe di-bwys di angen gen i, ond mi wnai byth gal gwared arno fe - fel ddwedes di dwi'n teimlo'n euog iawn yn taflu stwff allan fydd yn mynd i safle tir lenwi. Oleua y mod i'n bwriadu defnyddio peth o'r hen 'floorboards' nes i ffeindio dan lwythi o sbwriel heno i wneud drws newydd i'r shed a chwt i'r hwyaid.

Gadawa sylw