Dydd Mawrth a hanner
24.3.05
Roedd dydd Mawrth yn ddiwrnod prysur a hanner. Am 7:30 y bore roedd rhaid i mi fod yn Ystrad Mynach i baratoi ar gyfer Brecwast Busnes oeddwn wedi ei drefnu. Dwi’n cynnal un o’r rhain yn chwarterol. Y tro hwn roeddwn wedi gwahodd Gareth Bowker i siarad am Feddalwedd Rhydd ac hefyd Rhys Jones i siarad am waith Canolfan Bedwyr yn datblygu Rhaglenni Lleferydd Cymraeg. Dwi wedi bod yn meddwl llawer am feddalwedd rhydd yn ddiweddar a meddyliais byddai’n bwnc addas iawn ar gyfer Brecwast Busnes. Cwrddais â Gareth mewn cyfarfod SWLUG ac fe gytunodd i ddod i drafod y pwnc yn syth. Cafwyd llawer o gwestiynnu gan y gynulleidfa yn dilyn y sgyrsiau sydd yn arwydd da fod y mynychwyr eraill wedi gweld y cyflwyniadau o ddiddordeb hefyd. Er mai yn Gymraeg mae’r Brecwastau Busnes yn cael eu cynnal, dwi’n gwahodd pobl di-Gymraeg iddynt hefyd ac felly mae angen darparu gwasanaeth cyfieithu. Pan gyrhaeddodd ein cyfieithydd dywedodd ei bod wedi bod yn chwydu drwy’r nôs ac ar ôl codi a nad oedd digon da i gyfieithu. Fel mae’n digwydd roeddwn ond newydd gwbwlhau cwrs cyfieithu ar y pryd y noson gynt a dyma fi am cyd-weithiwr yn cymeryd troeon yn cyfieithu’r cyflwyniadau.
Da o beth efallai mod i wedi cael y pwt byr o gyfieithu y bore nw achos yn y p’nawn oedd fy gig cyntaf fel cyfieithydd ar y pryd i fod…. ar gyfer nifer fawr o rieni yn seremoni wobrwyo blynyddol Ysgol Gyfun Gwynlliw. Roedd braidd yn scary (na, dim y gyrru trwy Trevethin i gyrraedd y lle!) wrth feddwl faint o fobl oedd yn dibynnu ar fy nghyfieithu. Yn ffodus cefais gopi o araith HIR y prifathro ac hefyd un y siaradwr gwadd o flaen llaw, ac er i rai o’r headsets benderfynnu peidio gweithio yn ystod prawf cyn y seremoni, aeth popeth yn weddol esmwyth… wel does dim cwynion wedi’n cyrraedd ni eto beth bynnag.
Yn dilyn y Brecwast Busnes dwi wedi gosod porwr Firefox fersiwn Cymraeg ar fy mheiriant yn y gwaith – roedd yn hawdd pawdd ac mae’n gweithio’n wych.