Lle mae fy mhres i rwan sgwn i?
17.9.08
Dw i di cael llond bol ar 'credit crunch hyn', a 'credit crunch llall'. Diflas. Mae'n siwr bod digon o le i mi boeni, ond yn ffodus dw i'n dallt dim am y peth.
Dois ar draws ddwy stori heddiw a wnaeth i mi wenu.
Dyn yn dwyn bron i 500,00 Ewro o wahanol gyfrifon banc - mond i brofi pwynt!
Dois ar draws ddwy stori heddiw a wnaeth i mi wenu.
Dyn yn dwyn bron i 500,00 Ewro o wahanol gyfrifon banc - mond i brofi pwynt!
Basically, this guy claims to have defrauded several banks and Caixas (savings banks) of €492,000, purely in order to prove how easy it was to do. He used the money to publish 200,000 copies of his free newspaper, Crisi, which denounces the world financial system for inefficiency, dishonesty, living in a make-believe land and causing poverty and famine throughout the world. The money not spent on the Crisi newspaper project was given to charities and NGOs.Tydy'r ail stori ddim cystal ag oedd ei phennawd The real life Robin Hood was a banker? yn gaddo.
The real-life Robin - or Benedict Hancock as he is otherwise known - was sent to prison today after it emerged he took millions of pounds from rich clients' accounts and gave it to needy customers.Hancock channelled more than £7 million into the accounts of troubled companies without any "direct financial gain" according to a judge at Blackfriars Crown Court.
The court was told that the 39-year-old father of two did this because he "wanted the companies to do well, for their sake rather than his."
Hancock - who like his mythical counterpart is from Nottinghamshire - worked for the Royal Bank of Scotland as senior relationship manager.
Mae'n gwenud i rywun feddwl, ydy o'n beth call gadael eich holl arian yng ngofal dieithiriad mewn siwitau?
Y Bachan Main yn teithio ar draws yr UDA yn ymweld â hen gymunedau Cymreig a Chymraeg.
16.9.08
Profwyd unwaith eto bod gwerth cadw blogiau ar eich darllenydd ffrwdd, hyd yn oed os nad ydynt wedi eu diweddaru ers amser maith.
Mae'r Bachan Main ar ganol taith ar draws Gwastadeddau Mawr America (os ydy fy naearyddiaeth yn gywir) yn ymweld â threfi a phentrefi sydd â hanes Cymreig iddynt a ble siaradwyd y Gymraeg tan yn gymharol ddiweddar. Lot o enwau lleoedd newydd i mi.
Yn anffodus, does dim modd gadael sylwadau ar ei gofnodion diweddaraf, sef rhai y daith, ond dw i wedi gofyn iddo ail-ystyried hyn ym mlwch sylwadau hen gofnodion.

Labels: UDA
Gwyneth Glyn, Caerdydd: 19.9.08

Clwb y Diwc
Gwyneth Glyn yn lawnsio Clwb y Diwc - Clwb Cymdeithasol Cymraeg Treganna a'r Cylch.
£5 i'w dalu wrth y drws.
Duke of Clarence, Clive Rd, Treganna
7.30pm Dydd Gwener 19/09/2008
Labels: caerdydd
Green Matters Wales - Cylchgrawn 'gwyrdd' newydd
3.9.08
Clywaias am hwn rhai wyhnosau'n ól, ond dim ond ddoe gefais i gyfle i weld copi (yn llyfgrell ganolog Caerdydd). Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod yn dda iawn am ryw reswm, ond cefais fy siomi o'r ochr orau. Gallwch ei ddarllen ar-lein neu ei lawr lwytho fel PDF.
Ond, tydan ni gyd ddim yn Gymry?
Efallai mai fi sy'n bod yn picky (eto), ond ar dudalen newyddion Menter Caerdydd mae són bod sticeri car 'Cymry Caerdydd' newydd ar gael, i gyd fynd a'r ddelwedd/logo newydd (sy'n neis iawn gyda llaw) - a dw i didm yn eu hoffi.
Dw i'n meddwl bod y syniad yn un da, sef cael sticer i ddynodi eich bod chi hefyd yn siaradwyr Cymraeg (er, mae'r sticeri arwerthwyr ceir y gogledd a'r gorllewin fel Pentraeth, Ceir Cymru a Slaters a Gravells yn give away fel arfer), ond dw i ddim yn gyfforddus gyda defnydd y gair 'Cymry'. Mae bron fel petai'n awgrymmu nad yw pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn Gymry + mi wyddaf am nifer sylweddol o ddysgwyr Cymraeg yn y brifddinas sy'n dod o dros y ffín a phellach.

Labels: cardydd
Iagm Ogam, uffern o nofel dda.
1.9.08
Prynnais i gopi o Igam Ogam yn yr Eisteddfod a dwi ond newydd orffn ei ddarllen. Y nofel yma ennillodd Wobr Goffa Daniel Owen eleni, neu i fod yn gywir, Ifan Morgan Jones ennillodd y wobr. Dw i ddim yn ei nabod yn bersonol, ond dw i fel taswn yn ei nabod o ddarllen ei sylwadau a'r maes-e ac fe fu ganddo flog ar un adeg hefyd. Mae wastad wedi bod yn amlwg bod ganddo gryn ddychymyg ac roeddwn yn edrych ymlaen i ddarllen ei nofel.Roeddwn yn ofni braidd efallai byddai gweithio i Golwg wedi effeithio rhywsut ar ei ddawn sgwennu (jôc, rhaid i pawb fyw!). Mi wnes i fwynhau'r llyfr yn fawr iawn. O'r cychwyn ulw, mae'n gwbl amlwg bod Ifan yn ffan o Terry Pratchett, yn enwedig o hiwmor y llyfr. Efallai tydi ffantasi ddim at ddant pawb, yn wir mae Dogfael yn ansicr os fydd o'n hoffi'r nofel oherydd ei genre, ac mae Kate Crockett yn ansicr at pa gynulleidfa mae wedi ei anelu:
Roeddwn hefyd yn ansicr at ba gynulleidfa y byddai'r nofel yn apelio.I mi, mae'n gwbl amlwg mai i oedolion mae wedi ei anelu, a thra bod yn rhai gwendidau yn y nofel, dw i'n meddwl (a thrio peidio gor-ddweud fan hyn) bod y nofel yma'n atodiad pwysig ac arwyddocaol ar y byd lyfrau Cymraeg.
Mae'r troeon trwstan sy'n dod i ran y prif gymeriadau yn dwyn i gof ffilmiau animeiddiedig a byddai elfennau o'r nofel yn sicr yn porthi dychymyg byw plant; mae'n debyg iawn o ran plot a naws i nofel Manon Steffan ar gyfer plant rhwng 9 a 13 oed, Trwy'r Darlun , a gyhoeddwyd yn gynt eleni.
Ond mae iaith gref y Cofi a gor hoffter yr awdur o ddisgrifio effaith y ddiod gadarn yn debygol o olygu na fydd hon yn nofel y bydd rhieni ac athrawon yn ei dewis i'w plant.
Tra'n siarad am lyfrau Cymraeg, mi ddois ar draws dau lyfr o straeon byrion Cymraeg y byddwn hefyd yn eu hargymell i eraill, yn arbennig os nad ydych yndarllen nofelau/ffuglen Cymraeg fel arfer: Twist ar Ugain gan Daniel Davies a I lawr ymhlith y werin gan Aled Islwyn
Y ddau yn cynnwys amrywiaeth eang o straen, sydd yn rhai digri ar y cyfan, ond gyda rhai difrifol - jyst y peth ar gyfer siwrna trên, neu'r tŷ bach!