<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Lle mae fy mhres i rwan sgwn i?

17.9.08

Dw i di cael llond bol ar 'credit crunch hyn', a 'credit crunch llall'. Diflas. Mae'n siwr bod digon o le i mi boeni, ond yn ffodus dw i'n dallt dim am y peth.

Dois ar draws ddwy stori heddiw a wnaeth i mi wenu.

Dyn yn dwyn bron i 500,00 Ewro o wahanol gyfrifon banc - mond i brofi pwynt!
Basically, this guy claims to have defrauded several banks and Caixas (savings banks) of €492,000, purely in order to prove how easy it was to do. He used the money to publish 200,000 copies of his free newspaper, Crisi, which denounces the world financial system for inefficiency, dishonesty, living in a make-believe land and causing poverty and famine throughout the world. The money not spent on the Crisi newspaper project was given to charities and NGOs.
Tydy'r ail stori ddim cystal ag oedd ei phennawd The real life Robin Hood was a banker? yn gaddo.
The real-life Robin - or Benedict Hancock as he is otherwise known - was sent to prison today after it emerged he took millions of pounds from rich clients' accounts and gave it to needy customers.

Hancock channelled more than £7 million into the accounts of troubled companies without any "direct financial gain" according to a judge at Blackfriars Crown Court.

The court was told that the 39-year-old father of two did this because he "wanted the companies to do well, for their sake rather than his."

Hancock - who like his mythical counterpart is from Nottinghamshire - worked for the Royal Bank of Scotland as senior relationship manager.

Mae'n gwenud i rywun feddwl, ydy o'n beth call gadael eich holl arian yng ngofal dieithiriad mewn siwitau?
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:12 pm

4 sylw:

Dw i'm yn dallt fawr ohono chwaith ond bod gen i forgais efo Halifax so dwi'n bygyrd fwy na thebyg. Bw ffycin hw.
sylw gan Blogger Hogyn o Rachub, 6:48 am  

Yn anffodus, dyd'r rhai sydd wedi creu'r problem ddim yn ei ddeall ychwaith. Ac wrth gwrs, fydd pobl gyffredin talu'r pris amdano, nid y troseddwyr yn eu tyrrau o wydr. Mae'r gwleidyddion yn aneffnyddiol, fel arfer — mae llywodraeth Weriniaethol yr UDA yn ychwanegu dyled i ddyled. Dydy pethau ddim yn edrych yn dda yma.

Shw mae Rhys, gyda llaw. Byddaf yn ôl ar fy mlog yn fuan.
Be dwi'n ddeall ydy hyn - mae'r banciau yn cymryd pres cynilwyr a'i fenthyg allan am gyfradd llog uwch na mae nhw'n talu. Mae nhw fel middleman rhwng y ddau - mewn ffordd pan ti'n benthyg o'r banc ti'n benthyg mewn gwirionedd oddiwrth Mrs Jones drws nesa sy'n cynilo efo'r un banc.

Yn anffodus mae'r banciau wedi benthyg gormod o arian i bobl sy'n methu afforddio ei dalu yn ol, a rwan maent yn cael trafferth (neu fethu) talu'r llog i'w cynilwyr. Felly mae'r banc yn cael ei wasgu rhwng credit y benthycwyr a llog y cynilwyr - credit crunch. Mae'r banciau supposed i fod i gadw digon o'r cynilion mewn ffurf cash i wneud yn siwr y gallent dalu'r llog heb os, ond maent wedi cocio hyn i fyny ar raddfa ddychrynllyd. Yn sgil hyn d'oes gan y banciau ddim arian i fenthyg, wedyn mae pawb yn dioddef - gan fo rhai busnesau yn dibynnu o un mis i'r nesaf ar fenthyciadau banc i dalu eu gweithwyr ayyb...
sylw gan Blogger Blewyn, 6:07 am  

Diolch am hynna, mae'n gwneud sens perffaith (yr eglurhad - nad twpdra'r banciau). Pan na allai'r cyfryngau ei egluro felly!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:44 am  

Gadawa sylw