Ond, tydan ni gyd ddim yn Gymry?
3.9.08
Efallai mai fi sy'n bod yn picky (eto), ond ar dudalen newyddion Menter Caerdydd mae són bod sticeri car 'Cymry Caerdydd' newydd ar gael, i gyd fynd a'r ddelwedd/logo newydd (sy'n neis iawn gyda llaw) - a dw i didm yn eu hoffi.
Dw i'n meddwl bod y syniad yn un da, sef cael sticer i ddynodi eich bod chi hefyd yn siaradwyr Cymraeg (er, mae'r sticeri arwerthwyr ceir y gogledd a'r gorllewin fel Pentraeth, Ceir Cymru a Slaters a Gravells yn give away fel arfer), ond dw i ddim yn gyfforddus gyda defnydd y gair 'Cymry'. Mae bron fel petai'n awgrymmu nad yw pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn Gymry + mi wyddaf am nifer sylweddol o ddysgwyr Cymraeg yn y brifddinas sy'n dod o dros y ffín a phellach.

Labels: cardydd
2 sylw:
sylw gan Anonymous, 7:32 am
Person Cymreig ydy person sy'n siarad yr iaith, a thrwy hynny, yn ymwneud a'r diwylliant Cymraeg. T'ydy galw dy hun yn rhywbeth achos o liw crys dy dim rygbi neu pa diriogaeth ti'n digwydd cael dy fagu arno yn golygu dim i'w gymharu a iaith.
Os di Ffrancwr sy'n medru dim Saesneg yn mynnu "je suis Anglais" ydy hynna'n ei wneud yn Sais ? Wrth gwrs na.
Os di Ffrancwr sy'n medru dim Saesneg yn mynnu "je suis Anglais" ydy hynna'n ei wneud yn Sais ? Wrth gwrs na.
Ond wedyn, dwi 'di cael llond bol ar yr 'I'm as Welsh as anyone, but ...' efallai fod angen herio nhw hefyd weithiau. Beth yw bod yn Gymro? Mae siarad yr iaith yn un rhan bwysig ohono.
Well gen i gadw'r hunaniaeth Cymry Cymraeg na boddi yn y relatifiaeth a diddimiaeth bu bron i Blaid Cymru wneud c2001. Efallai fod angen hunaniaeth Cymry Cymraeg gref er mwyn cadw hunanaieth a chryfder yr iaith. Dwi ddim yn gweld lot o sticeri Gyddelod Gwyddelig yn Iwerddon ac mae oblygiadau i hynny.