<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Iagm Ogam, uffern o nofel dda.

1.9.08

Prynnais i gopi o Igam Ogam yn yr Eisteddfod a dwi ond newydd orffn ei ddarllen. Y nofel yma ennillodd Wobr Goffa Daniel Owen eleni, neu i fod yn gywir, Ifan Morgan Jones ennillodd y wobr. Dw i ddim yn ei nabod yn bersonol, ond dw i fel taswn yn ei nabod o ddarllen ei sylwadau a'r maes-e ac fe fu ganddo flog ar un adeg hefyd. Mae wastad wedi bod yn amlwg bod ganddo gryn ddychymyg ac roeddwn yn edrych ymlaen i ddarllen ei nofel.

Roeddwn yn ofni braidd efallai byddai gweithio i Golwg wedi effeithio rhywsut ar ei ddawn sgwennu (jôc, rhaid i pawb fyw!). Mi wnes i fwynhau'r llyfr yn fawr iawn. O'r cychwyn ulw, mae'n gwbl amlwg bod Ifan yn ffan o Terry Pratchett, yn enwedig o hiwmor y llyfr. Efallai tydi ffantasi ddim at ddant pawb, yn wir mae Dogfael yn ansicr os fydd o'n hoffi'r nofel oherydd ei genre, ac mae Kate Crockett yn ansicr at pa gynulleidfa mae wedi ei anelu:
Roeddwn hefyd yn ansicr at ba gynulleidfa y byddai'r nofel yn apelio.
Mae'r troeon trwstan sy'n dod i ran y prif gymeriadau yn dwyn i gof ffilmiau animeiddiedig a byddai elfennau o'r nofel yn sicr yn porthi dychymyg byw plant; mae'n debyg iawn o ran plot a naws i nofel Manon Steffan ar gyfer plant rhwng 9 a 13 oed, Trwy'r Darlun , a gyhoeddwyd yn gynt eleni.
Ond mae iaith gref y Cofi a gor hoffter yr awdur o ddisgrifio effaith y ddiod gadarn yn debygol o olygu na fydd hon yn nofel y bydd rhieni ac athrawon yn ei dewis i'w plant.
I mi, mae'n gwbl amlwg mai i oedolion mae wedi ei anelu, a thra bod yn rhai gwendidau yn y nofel, dw i'n meddwl (a thrio peidio gor-ddweud fan hyn) bod y nofel yma'n atodiad pwysig ac arwyddocaol ar y byd lyfrau Cymraeg.

Tra'n siarad am lyfrau Cymraeg, mi ddois ar draws dau lyfr o straeon byrion Cymraeg y byddwn hefyd yn eu hargymell i eraill, yn arbennig os nad ydych yndarllen nofelau/ffuglen Cymraeg fel arfer: Twist ar Ugain gan Daniel Davies a I lawr ymhlith y werin gan Aled Islwyn
Y ddau yn cynnwys amrywiaeth eang o straen, sydd yn rhai digri ar y cyfan, ond gyda rhai difrifol - jyst y peth ar gyfer siwrna trên, neu'r tŷ bach!
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:06 pm

2 sylw:

Prynais innau gopi yn Eisteddfod, er hyd yma mae'n eistedd yn dawel mewn tomen ar fy nesg. Dwi'n edrych ymlaen at ei darllen rhywbryd yn ystod y pythefnos nesaf.
sylw gan Blogger Chris Cope, 6:22 am  

Wedi'i darllen hi ac wedi mwynhau'n arw ar y cyfan. Mae dylanwad Pratchett yn gryf - efallai'n rhy gryf ar adegau, yn arbenngi felly o ran disgrifiadau'r dinas a'r derwyddon - ond mae'n rompio mlaen yn gyflym fel dylai antur ac mae'r hiwmor sych a gogwydd Gymreig (mae o wedi gwneud y Pratchett-ism o ddangos drych i'n byd ni drwy fyd arall yn dda iawn sydd yn gompliment rili) yn cadw ffresni wrth fynd mlaen.

O ran cynulleidfa? Oes rhaid meddwl am gynulleidfa? Neith o ffeindio ei gynulleidfa os ma'n ddigon da. Faswn i'n deud arddegau ac i fyny. Ma hwn y teip o lyfr o'n i wrth y modd efo pan o'n i'n tua 14-18, ac roedd hi'n braf darllen rhywbeth tebyg eto.

Dwi'n edrych mlaen i weld llyfr mwy cytbwys ganddo wrth iddo ddatblygu ei arddull ei hun yn y dyfodol. Go dda Ifan!
sylw gan Blogger Nwdls, 8:49 am  

Gadawa sylw