<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mae hyn yn syniad cyffrous

30.11.07

Unrhyw yn gwrando ar raglenni Radio 4 yn y bore? Os chi'n gont diog fel fi ac yn cyrraedd y gwaith yn hwyr yn rheolaidd (dwi'n yn gwiethio yn yr hwyr yn aml, felly mae hawl gyda fi!), yna efallai rydych yn gwrando ar y rhaglenni sydd ymlaen wedi 9 y bore, fel Desert Island Discs, Book of the Week, In Our Time a fy ffefryn i sef The Long View (sy'n cymharu sefyllfaeodd cymdeithasol neu wleidyddol heddiw gyda rhai hynod o debyg yn y gorffenol pell ac agos).

Ar flog Pods & Blogs (rhaglen radio am flogio ar Radio 5 Live), mae cofnod sy'n sôn am flog o'r enw After Our Time:
I'm very excited about After Our Time, a truly excellent fan blog for Radio 4's In Our Time. It's great to see a conversation started by a really good radio programme continued online.
Tydw i ddim yn ffan mawr o'r rhaglen In Our Time, achos mae'r gwyddoniaeth yn mynd tros fy mhen i'n llwyr a dwi ddim yn hoff o'r cyflwynydd am ryw reswm, ond dwi wir yn hoffi'r syniad o barhau i drafod pwnc penodol yn dilyn beth ddwedwyd ar y rhaglen. Ok, efallai nad yw hyn mor chwyldroadol a hynny, gan yn y bôn beth yw'r mwyafrif o flogiau ond lle i adael sylw ar ddigwyddiadau a datganiadau sydd eisioes wedi digwydd/cael ei dweud yn rhywle arall, ond mae'n rhywbeth y gellir ei gopio ar gyfer rhaglenni radio a theledu Cymraeg - os yw'r rhaglen gwreiddiol ei hun yn haeddu ymaelathu arno!

Eisioes mae rhai rhaglenni S4C wedi bod a blogiau swyddogol ac answyddogol fel Sgorio, Ar y Lein a Popeth Cymraeg, ond ni chawsant eu hyrwyddo na eu defnyddio i'w llawn potensial. Gan mod i hefyd yn gadael gwaith yn hwyr, dwi'n aml yn trafeilio wedi 6 yr hwyr, a dwi wedi clywed sawl rhaglen ffeithiol difyr ar Radio Cymru. Yn anffodus gan nad ydw i'n wrandawr cyson, ac oherwydd diffyg gwybodaeth ar wefan Radio Cymru mae'n anodd cadw trac o beth sydd ymlaen. Un engrhaifft oedd cyfres reit ddifyr yn ddiweddar gyda Twm Morys yn teithio ar draws Cymru'n cymharu tafodiaethau. Byddai bod a modd i ddilyn y drafodaeth a chlywed barn ac engrheifftiau pobl na gyfwelwyd ar y rhaglen wedi bod yn ddifyr.

- Tra'n chwilio am ddolen Radio Cymru, yma fi'n darganfod dolen at gyfres Pethau Mawr Bywyd, eto'n swnio'n ddifyr, ond doedd dim syniad gyda fi bod hwn wedi bod ymlaen. Gall y dyddiaduron fod wedi bod ar ffurf blog ac wedi eu hychwanegu at Blogiadur. Byddai hyn yn ei dro yn debygol o ddal sylw blogwyr neu darllenwyr blogiau Cymraeg eraill a fyddai wedyn o bosib yn sôn am y peth wrth eraill.

Rhyw ddydd bydd pobl yng nghyfryngau Cymru'n ei dallt hi (gobeithio)!

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:18 pm

0 sylw:

Gadawa sylw