Iaith arall - yr un stori
11.11.07
Nid fod o'n unrhyw gysur, ond mae'n debyg mai nid dim ond y Gymraeg sy'n cael ei beirniadu/ bychanu gan gorfforaethau mawrion. Bu erthygl yn y Wall Street Journal yn ddiweddar o dan y teitl Basque Inquisition: How Do You Say Shepherd in Euskera?
Mae'r un ystradebau dwl yn cael eu hail hadrodd: "dim ond hyn a hyn o bobl sy'n eu siarad", "mae nhw'n dwyn eu geiriau i gyd gan ieithoedd eraill", "mae'n ofnadwy bod pobl yn cael eu gorfodi i'w siarad", "tydi o ddim yn iaith go iawn"...ac yn y blaen ac yn y blaen.
Fel y gallwch ddychmygu, mae wedi codi gwrychun sawl un, gan greu cyn gynwrdd yn y byd blogio Basgeg. Dyma ddau ymateb gwych, sy'n llawn dadleuon ardderchog y gallwn ni siaradwyr Cymraeg ein 'harfogi' ein hunain gyda (os ydym yn ddigon gwirion i gael ei hunain wedi ein llusgo i drafodaeth ar-lein gyda rhyw dwpsyn, neu gwaeth fyth yn y byd 'go iawn').

Labels: iaith basgeg