<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dod i nabod Abertawe

15.10.07

Er nad oeddom am allu mynychu dim o gigs Tyrfe Tawe eto eleni, penderfodd Sarah a mi fynd i Abertae am y dydd ta beth gan bod ei chefnder newydd symud yno i astudio. Roedd tocyn trên return i'r ddau ohonom yn llai na deg punt, a dwi'n siwr byddwnn wedi gwerio mwy ar betrol a pharcio + roeddem i'n gallu cael ambell beint - yr unig beth gwael oedd bod rhaid gwrando ar gerthoriaeh dawns/RnB erchyll drwy speakers ffôn symudol rhywun o ben-y-bont i Abertawe.

Dwi ddim yn gyfarwydd ag Abertawe o gwbwl, felly defnyddiais Blog_Heb_Enw's Rough Guide to Swansea... a fu'n ddefnyddiol iawn. Yn gyntaf aethon ni i Oriel Glynn Vivian. Mae'n oriel maint neis, dim rhy fawr i chi golli diddordeb os chi fel fi! Ar hyn o bryd mae yna arddangosiad sy'n werth ei weld o'r enw Displaced: Contemporary Art from Colombia. Mae'r gwaith i gyd yn gyfoes iawn o ran pwnc a chyfrwng. Y ddau beth cyntaf i'ch cyfarch wrth i chi gamu mewn i'r oriel yw dau gerflun o Bart a Mickey gan Nadín Ospina. Oddi yno, aethom i chwilio am Siop ac Oriel Celfi, oeddwn wedi ddarganfod ar y we yn haf 2006 wrth ymchwilio i'r ddinas ar gyfer yr Eisteddfod., ond roeddynt wedi dioddef tân difriol rhai miseoedd yn ôl a sylwais i ddim ar ei lleoliad dros dro.

Aethon ni am fwyd yn No. 13 ar Dilwyn Street, sy'n agos iawn i fflat Ben. Roedd yn le neis iawn, gyda bwydlen bwyta safonol mewn awyrgylch caffi upmarket. Roedd y fwydlen gyda llawr o fwyd môr a digonedd o ddewis llysieuol hefyd. Byddwn i'n ei argymell i unrhyw. Doedd ddim yn brysur iawn, ond dwi'n meddwl ei fod yn dioddef o'i leoliad braidd, reit ar ben y stryd fawr ac yng nghanol gwaith ffordd sylweddol.

Dyma ni wedyn yn mentro i ardal yr hen ddociau sy'n edrych fel petai wedi ei ail-ddatblygu mewn modd llawer mwy chawethus maen sawl man oi gymharu a Chaerdydd. Aethon ni i oriel Attic, ble roedd arddangosfa o waith Karel Lek a Donald McIntyre - dau arlunydd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru a sydd defnyddio tirlun Cymru a'i phobl fel ysbrydoliaeth.

Aethom am hanner cyflym yn y Queens Hotel (gan ei fod yn Good Beer Guide Ben), sy'b dafarn hen ffasiwn, yna aethom i Oriel Mission. Dyma ni'n ffwcio fyny bradd wedyn drwy fynd am goffi a chacen yn Coffee Cesso, sydd dan yr un to a'r Amgueddfa Môr. Roedd y coffi'n reit blasus, ond roedd y teisennau braidd yn sych, y llwyau a ffyrc yn fudur, ond i wneud pethau'n waeth roedd yna fideo's Abba'n cael eu chwarae un ar ôl y llall ar sgrîn plasma! Dylwn wedi troi rownd yn syth ond roeddwn eisiau fy ffics cacen. Wedi llyncu'n coffi a chacs mewn eiliadau aethon am dro cyflym o gwmpas prif gyntedd yr Amgueddfa Morwrol, ble mae arddangosfa difyr am hanes Cymru a Chaethwasiaeth.

Er nad oeddwm am aros am y cerddoriaeth, penderfynnom fynd i'r Schooner beth bynnag gan ei fod gerllaw, ac artiethio Ben drwy wneud iddo eistedd drwy gêm o bêl-droed rhyngwladol Cymru. Mae'n dafarn cartrefol a chraesawgar iawn, ond roedd y dewis cwrw o Worthington's Creamflow, Carling a Strongbow ychydig o siom. Gwelo ni'r bandiau'n cyrraedd a chamerau chyflwynwyr Bandit yn harasio pobl diniwed yn y lle cyn i ni adael.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:45 pm

1 sylw:

Falch bod yr hen flog 'na wedi dod i fewn yn handi. Tase gen i'r amynedd i ail ddechrau blogio ma chwant gen i ychwanegu at y restr. Tro nesa y chi yn Abertawe ma'n werth galw yn y ganolfan Eco sydd nepell o dafarn y Schooner a hefyd mynd am goffi yng nghaffi'r Kardommah sydd heb newid ers y chwedegau.

Gadawa sylw