Arglwyddes Goch Pafiland yn dod i Gaerdydd
5.12.07
Clywais ar y radio heddiw bod gweddillion 'Arglwyddes Goch Pafiland' ar fin cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol o ddydd Sadwrn ymlaen. Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod yng Ngŵyr yn y 19fed ganrif ac i ddechrau credwyd mai gweddillion merch ydoedd, ond rwan mae'n ymddangos mai sgerbwd gwrywaidd ydyw. Yn ddiweddar fe addaswyd oed y sgerbwd i fod yn 29,000 oed a credir mai dyma engrheifft hynaf o weddillion dynol modern i'w darganfod ym Mhrydain. Efallai a'i draw i'w weld o/hi.
1 sylw:
sylw gan David Roberts, 12:54 pm
PS Diolch am tynnu fy sylw at y llyfr "Real Wrexham".